Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Croeso i Beebase

BeeBase yw gwefan Uned Wenyn Genedlaethol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae wedi'i hanelu at wenynwyr ac mae'n cefnogi Rhaglenni Iechyd Gwenyn Defra, Llywodraeth Cymru a'r Alban. Mae BeeBase yn cefnogi nodau Cynllun Gwenyn Iach 2030, sy'n canolbwyntio ar ddiogelu a chynnal ein stociau gwenyn cenedlaethol gwerthfawr. 

Mae ein gwefan yn darparu amrywiaeth eang o wybodaeth wenynyddol i wenynwyr, er mwyn eu helpu i gadw eu nythfeydd yn iach ac yn gynhyrchiol. Mae'n darparu amrywiaeth eang o wybodaeth am wenyna, megis gweithgareddau'r Uned Wenyn Genedlaethol, deddfwriaeth ynglŷn â gwenyn mêl, gwybodaeth am blâu a chlefydau sy'n cynnwys sut i'w hadnabod a'u rheoli, cyhoeddiadau, taflenni cynghorol a chysylltiadau allweddol.

Chwaraewch eich rhan a helpwch ni drwy gofrestru ar gyfer BeeBase yma.

Page Image 1

Gobeithio y bydd y wefan hon yn adnodd defnyddiol iawn i wenynwyr newydd a phrofiadol ac y byddwch yn cofrestru ar ei chyfer.

Mae gwybod dosbarthiad gwenynwyr a'u gwenynfeydd ledled y wlad yn ein helpu i fonitro a rheoli lledaeniad plâu a chlefydau difrifol gwenyn mêl yn effeithiol, yn ogystal â darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am sut i gadw gwenyn yn iach ac yn gynhyrchiol. Drwy ddweud wrthym pwy ydych, byddwch yn chwarae rhan bwysig iawn wrth helpu i ddiogelu a chynnal gwenyn mêl ar gyfer y dyfodol. Mae Ymuno â Chymdeithas Gwenynwyr yn dod â llawer o fanteision i wenynwyr newydd a rhai mwy profiadol. Gallwch hefyd edrych ar ein tudalen Cyswllt am ragor o wybodaeth.

Defnyddiwch y ddolen hon i anfon neges e-bost atom yn rhoi eich barn am y wefan a'r hyn yr hoffech ei weld arni. Os bydd gennych unrhyw gwestiwn, beth am ddechrau gyda'n tudalen Cwestiynau Cyffredin?

Mae ein straeon newyddion diweddaraf yn ymddangos yn yr adran ar y dde, am newyddion eraill ewch i'r adran Amdanom ni.

Page Image 2