Mae'n bleser gan yr Uned Wenyn Genedlaethol lansio Cyfrif Cychod Gwenyn 2023 heddiw, 1af o fis Tachwedd.
Mae'r haf hir o gadw gwenyn wedi mynd heibio felly gwnewch baned o de, estynwch eich gliniadur ac ymlaciwch yn eich hoff gadair. Mae'n amser i chi ddiweddaru'ch cofnodion BeeBase!
Hoffem ofyn i wenynwyr fewngofnodi i BeeBase a gwneud nodyn o gyfanswm nifer y nythfeydd a fydd gennych dros y gaeaf o 1 Tachwedd 2023. Mae'r dasg hon yn un syml a byr, cliciwch yma, mewngofnodwch a chwblhewch y ffurflen. Hyd yn oed os nad oes gennych nythfeydd sy'n gaeafu y tymor hwn, mae'n dal yn bwysig eich bod yn diweddaru eich cofnod BeeBase i gadarnhau hynny. Bydd yr arolwg hwn yn para tan 31 Rhagfyr 2023.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cyfrif Cychod Gwenyn cliciwch yma.