Rhoddwyd gwybod i UWG ddydd Iau 22 Mehefin am nythaid sylfaenol bach o gacwn Asiaidd. Ymchwiliodd Arolygydd yr Uned Wenyn Genedlaethol i'r adroddiad a chasglodd samplau a anfonwyd i'w dadansoddi gan wyddonwyr. Mae maglau wedi'u gosod i gacwn sy'n dychwelyd i'r safle nythu, a bydd gweithgareddau dilynol yn cael eu cynnal i godi ymwybyddiaeth.
Dyma'r dyddiad cynharaf erioed i nyth cael ei ganfod yn ystod y tymor ym Mhrydain Fawr. Rydym wedi cael gwybod am nythod yn ystod yr hydref yn y gorffennol, pan fydd pryfed yn fwy amlwg gan fod poblogaeth y nyth yn cynyddu i'w uchafswm.
Rhowch wybod os byddwch yn gweld Vespa velutina , gan ddefnyddio'r ap ‘Asian hornet Watch ar gyfer iPhone ac Android, neu'r ffurflen hysbysu ar-lein.
https://risc.brc.ac.uk/alert.php?species=asian_hornet
Cydnabyddiaeth am y Llun: Desmond Lee
Nyth sylfaenol vespa velutina gyda phryfed