Ar ddydd Iau 13 Ebrill, cafodd yr Uned Wenyn Genedlaethol wybod am achos credadwy bod cacynen Asia wedi'i gweld yn ardal Folkestone, ynghyd â ffotograffau. Hedfanodd y gacynen i ffwrdd cyn y gellid ei dal. Mae'r manylion o'r adroddiad yn awgrymu mai ymlediad un gacynen oedd hyn. Gofynnir i wenynwyr yn yr ardal a thimau cacwn Asia gwirfoddol fod yn wyliadwrus a monitro am gacwn Asia.