Ddydd Mercher 5 Ebrill derbyniodd yr Uned Wenyn Genedlaethol adroddiad brysbennu credadwy bod cacynen Asia wedi cael ei darganfod y tu mewn i flodfresychen mewn danfoniad llysiau wythnosol yn Northumberland, tua 20 milltir i'r gogledd o Newcastle upon Tyne. Cafodd y flodfresychen ei chynhyrchu yn Ffrainc. Ymatebodd yr Uned i'r adroddiad a chasglodd arolygydd gwenyn y gacynen yn nes ymlaen ar yr un diwrnod i'w dadansoddi. Roedd hwn yn ymlediad cacynen unigol a bydd gweithgareddau dilynol yn mynd rhagddynt i godi ymwybyddiaeth risg gyda'r cynhyrchydd/dosbarthwr/gwerthwr.