Diweddarodd dros 11,000 o wenynwyr eu manylion ar BeeBase yn ystod cyfrif cychod 2022 o gymharu â bron 9,000 yn 2021. Ar hyn o bryd, mae mwy na 48,000 o wenynwyr wedi'u cofrestru ar BeeBase, sy'n golygu bod tua 23% o'r rhai y cysylltwyd â nhw wedi diweddaru eu cofnodion.
Cynhyrchodd cyfrif cychod gwenyn 2022 ffigur o 288,311 o nythfeydd yn y DU. Mae hyn ychydig yn uwch na ffigur 2021, sef 272,631.
Mae'r Cyfrif Cychod yn rhoi syniad o nifer y nythfeydd a reolir yn y DU, sy'n ddefnyddiol iawn, ac yn helpu i sicrhau bod cofnodion BeeBase yn cael eu diweddaru'n rheolaidd. Mae gwybodaeth am nifer y nythfeydd a'u lleoliad yn bwysig iawn i'r Uned Wenyn Genedlaethol ac arolygwyr Llywodraeth yr Alban o ran paratoi a chynllunio ar gyfer achosion o glefyd a phlâu egsotig.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i sicrhau bod eu cofnodion BeeBase yn gyfredol.