Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Cyflwyno'r BeeBase ar ei Newydd Wedd

Os ydych chi'n ymwelydd sy'n dychwelyd i BeeBase, fe sylwch chi ar rai newidiadau i'r wefan. 

Rydym wedi rhoi diwyg newydd a modern i BeeBase a mynediad gwell i'n holl adnoddau ac wedi gwella'r ffordd rydych yn symud drwy'r wefan. Beth am edrych ar ein herthyglau, ein mapiau a'ch tudalennau cadw gwenyn eich hun i weld beth sy'n newydd?

Mewngofnodwch i weld eich manylion personol a'u diweddaru, edrych ar eich gwenynfeydd neu wneud newidiadau iddynt, edrych ar eich cofnodion hanesyddol a'ch canlyniadau a defnyddio sesiynau e-ddysgu. Bydd BeeBase hefyd yn anfon e-bost atoch yn awtomatig gyda'ch canlyniadau diagnostig a gydag unrhyw rybuddion sy'n berthnasol i chi, fel hysbysiadau o glefydau a ganfuwyd o fewn 3km i'ch gwenynfeydd, os ydych wedi dewis cael rhybuddion drwy e-bost. 

Nid oes angen ailgofrestru, mae eich manylion mewngofnodi wedi aros yr un peth ac mae eich cyfrif yn barod i chi ei ddefnyddio. 

Mae gennym lawer o nodweddion newydd ar y gweill a byddwn yn parhau i ddatblygu'r safle dros y misoedd nesaf. 

Gobeithio y byddwch yn teimlo bod BeeBase yn adnodd gwerthfawr ac y byddwch yn parhau i'n cefnogi drwy gadw eich cofnodion yn gyfredol, gan ein helpu i fonitro a rheoli lledaeniad clefydau a phlâu gwenyn mêl difrifol yn effeithiol. 

Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau neu os bydd gennych unrhyw adborth, cysylltwch â ni