Canfuwyd dwy frenhines cacwn Asia arall gan yr UWG mewn trapiau a osodwyd fel rhan o waith trapio'r gwanwyn sy'n mynd rhagddo.
Canfuwyd y ddwy gacynen mewn un trap ger Four Oaks, Caint, gyda'r naill yn cael ei chanfod ar 22 Ebrill a'r llall yn cael ei chanfod ar 24 Ebrill.
Mae cyfanswm o dair brenhines cacwn wedi'u canfod yn y lleoliad hwn.
Anfonwyd y ddau sbesimen i'r labordy yn Fera Science Ltd i'w cadarnhau'n swyddogol a'u dadansoddi a bydd yr UWG yn parhau i fonitro'r ardal.
Rhowch wybod os byddwch yn gweld Vespa velutina, gan ddefnyddio'r ap ‘Asian hornet Watch’ ar gyfer dyfeisiau Apple a dyfeisiau android neu'r ffurflen ar-lein.
Dylid cyfeirio pob ymholiad gan y cyfryngau at Swyddfa'r Wasg, Defra.