Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Datganiad Hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i'r wefan https://nationalbeeunit.com/ ar gyfer Uned Wenyn Genedlaethol (UWG) yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Fera Science Ltd. Rydym am sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • symud o amgylch y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • symud o amgylch y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym wedi ceisio sicrhau bod testun y wefan mor hawdd â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet (https://mcmw.abilitynet.org.uk/) gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni fydd y testun yn ail-lifo mewn un golofn pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr;
  • ni allwch addasu uchder y llinell na'r bwlch rhwng testun;
  • nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin;
  • nid oes unrhyw rybudd pan fydd sesiwn defnyddiwr ar fin dod i ben.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen i chi gael gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu braille cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost i nbu@apha.gov.uk gan nodi'r canlynol:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a'ch cyfeiriad e-bost
  • y fformat sydd ei angen arnoch, er enghraifft, CD sain, braille, Iaith Arwyddion Prydain neu brint bras, PDF hygyrch

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn 15 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau ynglŷn â hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os byddwch o'r farn nad ydym yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost i nbu@apha.gov.uk.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os byddwch yn anfodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth a Chyngor ar Gydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae APHA yn ymrwymedig i sicrhau bod yr Uned Wenyn Genedlaethol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, o ganlyniad i'r achosion o ddiffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod:

  • ni fydd y testun yn ail-lifo mewn un golofn pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr;
  • ni allwch addasu uchder y llinell na'r bwlch rhwng testun;
  • nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin;
  • nid oes unrhyw rybudd pan fydd sesiwn defnyddiwr ar fin dod i ben.

Llunio'r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hwn ym mis Chwefror 2022. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ym mis Mawrth 2022. 

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mawrth 2022. Cynhaliwyd y prawf gan Fera Science Ltd.

Gwnaethom ddefnyddio dull samplu er mwyn penderfynu pa dudalennau y dylid eu profi a dewiswyd y tudalennau a brofwyd ar sail pa rai a oedd yn cael eu defnyddio fwyaf ac a oedd yn fwyaf tebygol o ddarparu problemau o ran hygyrchedd. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar y profion hygyrchedd.