Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Y Cyfrif Cychod

Nodwch: mae'r Cyfrif Cychod yn rhedeg bob blwyddyn o'r 1af o Dachwedd i'r 31fed o Rhagfyr; dim ond yn ystod y cyfnod hwnnw y bydd y dolenni isod ar gael.

Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol am i CHI ddiweddaru'ch cofnodion!

Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol unwaith eto yn gofyn i wenynwyr gymryd rhan yn y Cyfrif Cychod Gwenyn Cenedlaethol a diweddaru BeeBase drwy nodi nifer eu nythfeydd. Gwnaeth dros 11,000 o wenynwyr gwblhau'r Cyfrif Cychod Gwenyn yn 2022!! Mae'r wybodaeth hon yn hollbwysig er mwyn i ni gynllunio a pharatoi ar gyfer achosion o glefyd neu blâu egsotig. Mae'n bwysig iawn, er enghraifft, ein bod yn gwneud popeth posibl i gadw lefelau clefyd y gwenyn mor isel â phosibl. Mae gwybodaeth am nifer a lleoliad gwenynwyr, cychod gwenyn a gwenynfeydd yn helpu i roi gwybod ble y dylid anfon Arolygwyr Gwenyn. Mae hyn berthnasol mewn perthynas â chlefydau a phlâu cyfarwydd a bygythiadau mwy diweddar fel y rhywogaeth oresgynnol niweidiol, cacynen Asia (Vespa velutina).

Byddwn hefyd yn defnyddio'r ffigurau sydd gennym ar BeeBase i fonitro poblogaethau gwenyn mêl dros amser. Mae meddu ar gofnodion cyfredol sy'n adlewyrchu'r sefyllfa bresennol bob blwyddyn yn hollbwysig ac mae'n ein galluogi i fonitro newidiadau dros amser. I'r perwyl hwn, mae'n bwysig ein bod yn gofyn i bob gwenynwr roi gwybod i ni faint o gychod gwenyn y mae'n berchen arnynt ar 1 Tachwedd 2023. Mae defnyddio'r dyddiad hwn yn ein helpu i sicrhau cysondeb ledled y wlad drwy adlewyrchu'r sefyllfa genedlaethol ar adeg benodol. Os nad oedd gennych unrhyw nythfeydd ar y dyddiad hwnnw, mae'n bwysig eich bod yn diweddaru eich cofnod BeeBase i gadarnhau hyn. A fyddech cystal â rhoi'r wybodaeth hon erbyn 31 Rhagfyr.

Cliciwch ar y ddolen hon i ddiweddaru eich Cyfrif Cychod Gwenyn.

Mae angen eich enw defnyddiwr i fewngofnodi – nodwch nad yw hwn yr un fath â'ch cyfeiriad e-bost.

Mae ein Cwestiynau Cyffredin yn rhoi canllawiau ar sut i ddiweddaru BeeBase. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau eraill nad ymdrinnir â hwy yma, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy:

E-bost: Hive.count@apha.gov.uk

Ffôn: 0300 3030094

cychod mewn cae o dafod yr ych

Dylech fod yn ymwybodol y byddwn yn ymdrin â nifer mawr iawn o alwadau ac ymholiadau gan wenwynwyr. Fodd bynnag, byddwn yn anelu at ymateb i'ch ymholiad o fewn pum diwrnod gwaith

Mae cael mwy o wybodaeth am nifer y cychod gwenyn yn y DU yn rhan o fentrau y mae'r llywodraeth wedi ymrwymo iddynt er mwyn cymryd camau i wella iechyd ein pryfed peillio. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau poblogaeth ffyniannus a chynaliadwy o bryfed peillio. Nodir ein mentrau yn y canlynol:

Nododd y cyfrif yn 2022 fod tua 288,000 o gychod gwenyn mêl yn y DU. 

Diolch i chi ymlaen llaw am eich cymorth yn y prosiect hwn.

Yr Uned Wenyn Genedlaethol

Canlyniadau hanesyddol
2017 - 252,000
2018 - 244,000
2019 - 264,000
2020 - 260,000
2021 - 272,631
2022 - 288,311