Datganiad hygyrchedd ar gyfer yr Uned Wenyn Genedlaethol
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wefan Uned Wenyn Genedlaethol (UWG) yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Fera Science Ltd. Rydym am sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo i hyd at 300% heb i'r testun lithro oddi ar y sgrin.
- symud o amgylch y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- symud o amgylch y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym wedi ceisio sicrhau bod testun y wefan mor hawdd â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet (https://mcmw.abilitynet.org.uk/ ) gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os bydd angen i chi gael gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu braille:
Cysylltwch â ni ar webmaster@fera.co.uk a rhowch y canlynol i ni:
- cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
- eich enw a'ch cyfeiriad e-bost
- y fformat sydd ei angen arnoch, er enghraifft, CD sain, braille, Iaith Arwyddion Prydain neu brint bras, PDF hygyrch
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn 15 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau ynglŷn â hygyrchedd ar y wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os byddwch o'r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch neges e-bost i: webmaster@fera.co.uk
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os byddwch yn anfodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth a Chyngor ar Gydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae APHA yn ymrwymedig i sicrhau bod yr Uned Wenyn Genedlaethol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llwyr â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.
Llunio'r datganiad hygyrchedd hwn
Lluniwyd y datganiad hwn ar 19 Ebrill 2023. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 19 Ebrill 2023.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 19 Ebrill 2023. Cynhaliwyd y prawf gan Fera Science Ltd.