Beth yw'r Uned Wenyn Genedlaethol?
Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol (UWG) yn rhan o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae'n cyflwyno'r Rhaglenni Iechyd Gwenyn ar ran Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru yng Nghymru a Lloegr. Fel yr Awdurdod Cymwys ar gyfer Iechyd Gwenyn yng Nghymru a Lloegr, mae arolygwyr gwenyn a benodwyd gan APHA yn cynnal arolygiadau o nythfeydd fel rhan o raglen wyliadwriaeth seiliedig ar risg, yn cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil i wenyn mêl, ac yn darparu hyfforddiant a chyngor arbenigol ar sawl agwedd ar gadw gwenyn, y mae pob un ohonynt yn cwmpasu ethos o hyrwyddo hwsmonaeth dda. Am ragor o wybodaeth am gylch gwaith yr Uned Wenyn Genedlaethol, darllenwch y Cynllun Gwenyn Iach 2030. Rydym hefyd yn cydweithio â Llywodraeth yr Alban a'i Harolygwyr ac, ym mis Mehefin 2010, cafodd y wybodaeth am raglen archwiliadau'r Alban ei chynnwys hefyd yn ein cronfa ddata. I gael rhagor o wybodaeth am raglen iechyd gwenyn yr Alban, ewch i'n tudalen Gwenyna yn yr Alban.
Rhaglen Archwilio Gwenynfeydd
Mae arolygiaeth UWG yn cynnwys rhwydwaith o Arolygwyr Gwenyn APHA wedi'u hyfforddi'n llawn sy'n cynnal archwiliadau statudol o glefydau a rhaglen gwyliadwriaeth gwenynfeydd ar gyfer plâu egsotig.
Mae Arolygwyr Gwenyn yn rhoi cyngor a chymorth am ddim i wenynwyr mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud ag iechyd gwenyn, yn rhoi darlithoedd ac yn cynnal cyrsiau hyfforddiant ar adnabod clefydau, rheoli clefydau a hwsmonaeth dda, yn aml ar y cyd â Chymdeithasau Gwenynwyr lleol. Er mwyn dysgu mwy am hyfforddiant a gynigir gan UWG ewch i'n tudalen hyfforddiant ac addysg i wenynwyr.
BeeBase
Mae BeeBase yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol am sawl pwnc hwsmonaeth gwenyn gan gynnwys sut i reoli plâu a chlefydau a'r arferion gorau y dylid eu harsylwi er mwyn gwenyna'n llwyddiannus. Yn yr adran ‘Adnoddau i Wenynwyr’ ceir cyfoeth o ddeunyddiau gan gynnwys taflenni cynghorol, ffeithlenni, canllawiau arfer gorau, fideos hyfforddiant a darlithoedd gwyddonol wedi'u recordio ymlaen llaw. Ceir Oriel Gyfryngau sy'n darparu lluniau y gallwch eu lawrlwytho am ddim, y gallwch eu defnyddio i'ch helpu i ddysgu sut i adnabod y plâu, clefydau ac anhwylderau gwenyn mwyaf cyffredin. Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o atebion i'r Cwestiynau Cyffredin a gaiff yr UWG.
Mae BeeBase yn adnodd hanfodol i reoli clefydau a phlâu gwenyn. Pan gadarnheir plâu neu glefydau statudol, mae'r UWG yn defnyddio BeeBase i nodi gwenynfeydd sy'n wynebu risg yn yr ardal leol, cadw gwyliadwriaeth a thargedu mesurau rheoli yn effeithiol. Drwy wybod ble mae nythfeydd i'w cael, gallwn eich helpu i reoli risgiau o glefydau yn eich gwenynfeydd. Po fwyaf o wenynwyr a gaiff eu cofrestru, y mwyaf trylwyr fydd ein gweithgarwch cadw gwyliadwriaeth ar iechyd gwenyn ac, y mwyaf tebygol ydyw y byddwn o reoli plâu a chlefydau yn effeithiol.
Os byddwch yn cofrestru â BeeBase, gallwch gofrestru eich nythfeydd a'ch gwenynfeydd â'r UWG. Yna, gallwch weld a golygu cofnodion eich gwenynfa a chael rhybuddion e-bost os bydd achos o glefyd Ewropeaidd y gwenyn neu glefyd Americanaidd y gwenyn yn eich ardal.
Mae'r ffaith bod gan yr UWG gofnodion dibynadwy o wenynwyr a'u gwenynfeydd ledled y wlad yn ei helpu i gadw gwyliadwriaeth ar blâu a chlefydau difrifol gwenyn mêl a rheoli'r lledaeniad ohonynt. Os nad ydych chi wedi cofrestru eto, ystyriwch cofrestru â BeeBase.
Ymchwil
Mae'r UWG yn ganolfan ragoriaeth gydnabyddedig sy'n darparu cyngor ac ymchwil mewn iechyd gwenyn. Mae'r UWG yn defnyddio'r arbenigedd gwyddonol amrywiol sydd ar gael ym mhob rhan o gwmni Fera Science Limited, APHA ac, yn fwy cyffredinol, gyda Phrifysgolion a Sefydliadau y maent yn cydweithio â nhw, er mwyn cyflawni'r ymchwil i Iechyd Gwenyn.
Caiff pob un o'n prosiectau eu cefnogi gan y nythfeydd gwenyn mêl a ddarperir a staff gwenynfeydd hyfforddedig yn Fera Science Ltd sy'n gweithio drwy gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau bod gan yr UWG stociau iach o wenyn bob tymor. Er mwyn dysgu mwy am yr ymchwil wyddonol y mae UWG yn rhan ohoni, edrychwch ar ein tudalen prosiectau ymchwil sy'n ymwneud â gwenyn mêl.
Cyfrinachedd a Thrin Data
Mae'r holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu at ddibenion cofrestru ar BeeBase wedi ei chwmpasu gan y Warant Gwasanaeth Cyhoeddus ar Drin Data. At hynny, ymdrinnir â'r holl ddata yn unol â'r rheolau a nodir yn Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. Mae ein rhwymedigaethau i ddiogelu preifatrwydd unigolion (e.e. o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)) yn ein hatal rhag cyhoeddi lleoliad gwenynfeydd â Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn uniongyrchol mewn ffordd a allai ddatgelu pwy yw'r gwenynwyr dan sylw. Fodd bynnag, rydym yn annog pob gwenynwr y mae clefydau yn effeithio ar eu gwenyn i roi gwybod i wenynwyr lleol eraill am y broblem. I gael gwybodaeth am y ffordd rydym yn trin data personol a gesglir drwy'r tudalennau hyn ac yn ystod archwiliadau gweler Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA.