Beth yw DASH?
Yn 2013, cydweithiodd yr Uned Wenyn Genedlaethol a’r Gymdeithas Ffermwyr Gwenyn Cyf (BFA) i ddatblygu’r Cynllun Sicrwydd rhag Clefydau Gwenyn Mêl (DASH). Nod DASH yw:
- lleihau’r costau sy’n gysylltiedig â chlefydau o fewn gweithrediadau gwenyna masnachol,
- gwella iechyd gwenyn mêl o fewn y gweithrediad,
- lleihau’r baich rheoliadol ar ffurf ymweliadau archwilio.
Cydnabyddir DASH yng Nghynllun Gweithredu Cydnabyddiaeth ar Sail Perfformiad Awst 2013, a luniwyd gan Dasglu Rheoleiddio Ffermio Defra. Dim ond unigolion yn y diwydiant Ffermio Gwenyn sy’n gymwys i gymryd rhan yng nghynllun DASH a bydd yr aelodau hynny sy’n cwblhau’r cynllun yn llwyddiannus yn cael mwy o awtonomi a llai o archwiliadau gan Arolygwyr Gwenyn.
Ni fydd hyn yn arwain o reidrwydd at leihad yng nghyfanswm yr archwiliadau ond mae’n gyfle i sicrhau bod archwiliadau yn cael eu targedu’n well at y rhai sy’n agos i glefydau. Nid oes unrhyw fanteision eraill heblaw llai o faich rheoleiddio ar ffurf ymweliadau archwilio.
Pwy sy’n gymwys i ymuno â DASH?
Er mwyn bod yn gymwys i ymuno â DASH, mae’n rhaid i Ffermwyr Gwenyn sydd am ymuno â’r cynllun:
- reoli gwenyn drwy ddefnyddio lefel uchel o fioddiogelwch er mwyn lleihau lledaeniad clefydau i’r eithaf,
- meddu ar 150 o nythfeydd o leiaf,
- bod yn aelodau llawn a gweithredol o Gymdeithas y Ffermwyr Gwenyn,
- bod wedi’u cofrestru ar BeeBase,
- peidio â bod yn rhan o fodel busnes lle y rheolir gwenyn eraill.
Proses achredu DASH
Bydd ffermwyr gwenyn sydd am ymuno â’r cynllun yn gwneud cais drwy’r BFA, fel arfer ar ôl cais yn y cylchgrawn i Ffermwyr Gwenyn. Gwahoddir darpar ymgeiswyr DASH i ateb holiadur ar-lein sy’n cael ei adolygu gan y BFA. Mae’r BFA yn anfon ceisiadau sy’n bodloni’r meini prawf y cytunwyd arnynt ymlaen i’r Uned Wenyn Genedlaethol (UWG).
Mae tri cham i’r broses achredu: asesu a ydych yn gymwys, rhoi hyfforddiant i chi ac asesu a ydych yn gallu adnabod a rheoli clefyd ac archwiliad llinell sylfaen o’ch holl nythfeydd. Mae’n rhaid i bob un o’r tri cham gael eu cwblhau cyn y rhoddir statws aelodaeth llawn. Ar ôl hyfforddiant, asesiad ac archwiliad llawn o’r holl nythfeydd, mae’r penderfyniad i’ch derbyn i’r cynllun yn ôl disgresiwn yr UWG.
Rhwymedigaethau DASH
Disgwylir i holl aelodau DASH ddiweddaru’r wybodaeth am safleoedd eu gwenynfeydd a nifer eu nythfeydd ar BeeBase ac mae’n ofynnol iddynt roi gwybod am unrhyw achosion o glefyd a ganfyddir i’r UWG fel y nodir yn llawlyfr DASH. Ceir copïau o’r llawlyfr hwn a Ffurflen Hunanarchwilio Ffermwyr Gwenyn drwy anfon neges e-bost i [email protected].
Mae’n rhaid i aelodau DASH gadw cofnodion sy’n olrhain symudiadau nythfeydd, ynghyd â chofnodion o feddyginiaethau milfeddygol.
Ni all aelodau DASH warantu gwenyn na’u cynhyrchu fel rhai ‘yn rhydd o glefyd’. Caiff ffermwyr gwenyn DASH achrededig nodi’r canlynol ar wefannau a deunydd cyfathrebu arall: Aelod o Gynllun Sicrwydd rhag Clefydau Gwenyn Mêl (DASH) yr Uned Wenyn Genedlaethol – Wedi’i warantu i adnabod a rheoli clefydau gwenyn mêl a rhoi gwybod amdanynt mewn modd cyfrifol.
Unwaith y bydd unigolyn yn aelod o gynllun sicrwydd DASH., ni fydd arolygwyr yn archwilio eu nythfeydd yn rheolaidd mwyach. Fodd bynnag, byddant yn dal i gadw mewn cysylltiad ag aelodau o ran achosion o glefyd yn yr ardal ac maent ar gael i roi cyngor neu gymorth. Mae’n bosibl y bydd angen i nythfeydd DASH y nodwyd eu bod yn wynebu risg, gael eu harchwilio gan yr UWG o hyd. Mae’r UWG yn cynnal archwiliadau seiliedig ar risg bob tair blynedd yn unol â Chod y Rheoleiddwyr
Mae DASH yn gwbl wirfoddol a gall cyfranogwyr adael unrhyw bryd. Ni chodir unrhyw dâl am gymryd rhan yn y cynllun; darperir hyfforddiant a chyfarpar megis pecynnau diagnostig Llif Unffordd ar gyfer clefydau gwenyn a labeli ymateb taledig.