Sut rydym yn defnyddio cwcis

Dim ond cwcis sy'n <b>gwbl angenrheidiol</b> i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n gywir y mae'r wefan hon yn eu defnyddio.

Please read about .getTranslation('how we use cookies').

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon.

Rydych chi wedi dewis cwcis angenrheidiol yn unig

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Clefydau a Phlâu 

Mae'r tudalennau hyn yn rhoi manylion plâu a chlefydau gwenyn mêl y mae'n rhaid i bob gwenynwr fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn cynnal stociau cynhyrchiol o wenyn. Maent yn rhoi manylion bioleg ac effaith amrywiaeth o blâu a heintiau a'r opsiynau ar gyfer eu rheoli a, lle y bo ar gael, wybodaeth am achosion presennol.

Mae'r tudalennau ar glefyd y gwenyn yn dangos sut i adnabod clefyd Ewropeaidd y gwenyn a chlefyd Americanaidd y gwenyn ac yn disgrifio'r camau gweithredu y dylai pob gwenynwr eu cymryd os yw'n amau bod y naill glefyd neu'r llall mewn nythfa gwenyn mêl. 

Mae'r tudalennau ar Varroa yn rhoi trosolwg o fioleg Varroa, sut i roi gwybod am Varroa, sut i reoli Varroa a'r ddeddfwriaeth ar y defnydd o feddyginiaethau gwenyn i drin Varroa

Mae'r tudalennau ar cacynen felyngoes yn disgrifio bioleg y gacynen, ac yn bwysicaf oll, sut i adnabod Cacynen goes felen a rhoi gwybod os ydych wedi gweld un. 

Mae'r tudalennau ar blâu egsotig yn esbonio'r risgiau posibl y mae dau bla gwenyn mêl difrifol nad ydynt yn bresennol yn y DU ond sydd wedi ymledu i wledydd eraill ledled y byd, yn eu peri i wenynyddiaeth. 

Mae'r tudalennau ar glefydau, plâu a hylendid yn llawn cyngor defnyddiol er mwyn atal plâu a chlefydau, sut i arsylwi ar arferion gorau o ran hylendid gwenynfeydd a sut i adnabod a rheoli'r clefydau a'r plâu mwyaf cyffredin yn y DU. 

Mae gan y tudalennau ar adroddiadau, siartiau a mapiau wybodaeth fyw am leoliad achosion a gadarnhawyd o glefyd Ewropeaidd y gwenyn a chlefyd Americanaidd y gwenyn yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.  Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am wenyn a fewnforiwyd. Caiff data o'r rhaglen archwilio eu diweddaru bob dydd yn ystod y tymor gwenyna. 

	 Nid yw larfâu sydd wedi'u heintio â chlefyd Ewropeaidd y gwenyn yn gorwedd yn eu celloedd mewn siâp 'C' iach mwyach ac maent yn colli eu golwg wedi'u segmentu tew.