Yn y DU, mae dwy rywogaeth o wyfynod cwyr, sef: y gwyfyn cwyr bach (Achroia grisella) a'r gwyfyn cwyr mawr (Galleria mellonella). Ystyrir bod y gwyfyn cwyr mawr yn bla mwy dinistriol a chyffredin, tra bod y gwyfyn cwyr bach yn llai cyffredin ac yn llai dinistriol.
Er nad yw gwyfynod cwyr llawndwf yn achosi unrhyw niwed uniongyrchol, mae'r larfâu yn twnelu o dan gapiau'r mag, gan fwyta mêl, cwyr a phaill a niweidio'r crwybr wrth wneud hynny. Ar ôl i'r larfâu orffen bwyta, byddant yn chwilera yn eu cocynau. Mae gwyfynod cwyr mawr yn cnoi pren i greu lle i osod eu cocynau, gan wneud tyllau a allai ddifrodi cyfarpar a fframiau gwenyna pren a pholystyren.
Trosglwyddo
Mae gwyfynod gwryw a benyw yn paru mewn coed ger gwenynfeydd ond dim ond gwyfynod benyw sy'n mynd i mewn i'r cychod gwenyn er mwyn dodwy eu hwyau. Maent yn mynd i mewn i'r cychod gwenyn gyda'r nos ac yn dodwy eu hwyau mewn clystyrau mewn agennau yn y cwch gwenyn; mae'r wyau yn deor yn larfâu sy'n symud i'r crwybrau magu i fwyta. Gall plâu gael eu lledaenu drwy symud nythfeydd a chyfarpar o dan bla.
Mae gan larfâu gwyfynod cwyr gyrff gwelw, meddal a phennau brown
Niwed i nythfeydd
Nid yw gwyfynod cwyr yn niweidiol i wenyn mewn hinsoddau oer fel y DU ond gallant fod yn bla gwirioneddol ar grwybrau wedi'u storio a gallant achosi cryn ddifrod i gyfarpar gwenyna wedi'i storio. Nid yw gwyfynod cwyr yn paraseitio'r gwenyn, ond mae presenoldeb gwyfynod cwyr yn gysylltiedig â chyflwr mag a elwir yn ‘bald brood’. Mae ‘bald brood’ yn anhwylder cyffredin a welir fel ardaloedd bach o gelloedd mag y mae eu capiau wedi'u tynnu'n rhannol neu'n gyfan gwbl. Gall ‘bald brood’ ddigwydd mewn llinell uwchben y larfa gwyfyn cwyr sy'n turio. I gael rhagor o wybodaeth am anhwylderau mag, darllenwch ein taflen gynghorol, ‘Clefyd y gwenyn mewn gwenyn mêl ac anhwylderau mag cyffredin eraill’.
Triniaeth
Gall nythfeydd cryf ddelio â mân blâu o wyfynod cwyr. Felly, nid oes angen trin y nythfa. Fodd bynnag, os bydd y gwyfynod cywir yn bla parhaus yn y nythfa, dylech drin fframiau cyn eu storio neu eu hailddefnyddio.
Un dull o drin fframiau ar gyfer gwyfynod cwyr yw rhewi'r fframiau am 48 awr cyn eu storio a chrafu unrhyw gocynau gwyfynod cwyr oddi ar y blychau. Bydd hyn yn lladd pob cam o fywyd y gwyfyn cwyr. Dylech roi fframiau mewn bagiau wedi'u cau'n dynn â chlymau sip i'w rhewi. Ar ôl tynnu'r fframiau o'r rhewgell, storiwch nhw yn y bag heb ei agor nes y bydd eu hangen. Caiff gwyfynod cwyr eu denu i'r blychau magu neu'r llofftydd mêl sy'n cynnwys fframiau cwyr. Felly, os na allwch storio fframiau yn rhywle sy'n ddiogel rhag gwyfynod cwyr, neu'n oer iawn, yna eu cadw mewn bagiau yw'r ateb gorau.
Fel arall, gallwch fygdarthu fframiau ag asid asetig cyn eu storio er mwyn dileu plâu.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein ffeithlen am wyfynod cwyr.