Gall feirysau ymosod ar wahanol gamau datblygu a chastiau o wenyn mêl, gan gynnwys wyau, larfâu, chwilerod, gwenyn gweithgar llawndwf, gwenyn gormes llawndwf a breninesau. Gall rhai feirysau effeithio ar wenyn llawndwf yn bennaf, tra bydd eraill yn amlygu eu hunain yn y camau magu. Darllenwch ein taflen ar glefydau mag i gael rhagor o wybodaeth am y rhai sy'n effeithio ar fag.
Feirws Parlys Cronig y Gwenyn (CBPV)
Roedd feirws parlys cronig y gwenyn yn glefyd prin am y rhan fwyaf o'r ganrif ddiwethaf ond, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae adroddiadau amdano wedi dod yn fwy cyffredin ac eang, yn arbennig yn y DU ac UDA. Gall feirws parlys cronig y gwenyn effeithio ar y nythfeydd cryfaf ac achosi symptomau dramatig o fewn diwrnodau iddo ymddangos mewn nythfa. Unwaith y bydd arwyddion o haint i'w gweld, mae gan y nythfa siawns 50:50 o oroesi.
Gwenyn llawndwf sydd wedi colli blew o ganlyniad i gael eu heintio â'r feirws
Adnabod arwyddion o feirws parlys cronig y gwenyn
Mae presenoldeb gwenyn sy'n crynu a gwenyn du, sgleiniog yr olwg yn arwydd nodweddiadol o feirws parlys cronig y gwenyn. Mae arwyddion mwy cynnil yn cynnwys gwenyn ag ‘adenydd K’ datgymaledig a/neu abdomenau chwyddedig, llawn. Ni fydd y gwenyn mwyaf heintiedig yn gallu hedfan, byddant yn amlwg ar farrau uchaf fframiau ac ni fyddant yn gwasgaru pan gaiff mwg ei yrru drwyddynt. Mae gwenyn heintiedig yn dioddef ymosodiadau cnoi gan wenyn eraill o'r un nythfa â nhw sy'n eu gadael yn foel. Caiff rhai eu gyrru allan drwy rym o fynedfa'r cwch gwenyn. Wrth i'r clefyd ddatblygu, mae gwenyn marw a gwenyn na allant hedfan yn cronni ar lawr y cwch gwenyn a'r tu allan i'r fynedfa. Gallai pentwr sylweddol o wenyn marw gronni yn y cwch gwenyn pan fydd y clefyd yn ddifrifol.
Mae'r ffotograff uchod yn enghraifft nodweddiadol o wenynen sydd wedi'i heintio â CBPV, sy'n "sgleiniog ac yn ddu" i gyd.
Gellir gweld fideo sy'n dangos symptomau CBPV isod:
Trosglwyddo
Dylech geisio osgoi gorddefnyddio trapiau paill lle y bu feirws parlys cronig y gwenyn yn bresennol yn flaenorol. Canfuwyd, mewn gwenynfeydd a oedd wedi'u heintio â feirws parlys cronig y gwenyn yn flaenorol, fod nythfeydd yr oedd trapiau paill wedi'u gosod ynddynt yn dangos arwyddion o glefyd feirws parlys cronig y gwenyn, tra nad oedd nythfeydd heb drapiau paill yn dangos unrhyw arwyddion o'r fath.
Rhowch ddigon o le i wenyn. Pan fydd blychau yn mynd yn orlawn, bydd yr amodau yn ddelfrydol i feirws parlys cronig y gwenyn luosogi, yn arbennig yn ystod tywydd gwael, pan fydd gwenyn yn aros yn y cwch gwenyn. Mae hyn yn hyrwyddo haint gan y bydd llawer o gyswllt uniongyrchol rhwng y gwenyn.
Caiff feirws parlys cronig y gwenyn ei drosglwyddo drwy'r llwybr ysgarthion-ceg, drwy droffalacsis a thrwy gyswllt uniongyrchol rhwng gwenyn (argroenol). Caiff y feirws ei secretu ar gwtigl (croen) y wenynen a gall heintio gwenyn cyfagos os daw i gysylltiad â nhw. Gall gwenyn gael eu heintio drwy chwistrellu'r feirws ac, er bod feirws parlys cronig y gwenyn wedi'i ganfod mewn Varroa, nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y gwiddonyn yn gweithredu fel fector.
Triniaeth
Gwenyn llawndwf sâl neu farw ac ysgarthion y tu mewn i'r cwch gwenyn yw prif ffynhonnell deunydd heintus ar gyfer y nythfa. Os ydych am geisio achub y nythfa, tynnwch gymaint o'r deunydd heintus hwn â phosibl. Gallai cynyddu maint mynedfa'r cwch gwenyn helpu'r nythfa i gael gwared â'r gwenyn marw a lleihau lledaeniad y feirws y tu mewn i'r cwch gwenyn. Nid argymhellir eich bod yn tynnu lloriau oherwydd gall hyn arwain at ddwyn oddi ar y nythfa wedi'i gwanhau, yn enwedig yn ddiweddarach yn y tymor pan fydd llawer o wenyn yn cael eu hysglyfaethu gan wenyn meirch.
Sicrhewch fod digon o baill ar gael i'r nythfa, oherwydd gwyddom fod straen paill yn cynyddu arwyddion o feirws parlys cronig y gwenyn, a bod gwenyn ifanc a fegir ar adeg pan fo paill yn brin yn fwy agored i'r feirws. Gall breninesau hefyd gael eu heintio â'r feirws a marw. Felly, edrychwch i weld a oes brenhines sy'n dodwy a chymerwch gamau os bydd y frenhines ar goll. Nis oes unrhyw dystiolaeth y bydd newid y frenhines yn helpu i reoli'r clefyd.
Darllenwch ein taflen ffeithiau am CBPV.
Feirws Adenydd wedi'u Hanffurfio (DWV)
Mae'r feirws mwyaf cyffredin yn y DU, sef feirws adenydd wedi'u hanffurfio, yn heintio'r mwyafrif o wenynfeydd ar dir mawr Prydain Fawr. Yn y DU, syndrom gwiddon parasitig oedd un o'r tri chlefyd mwyaf cyffredin a ganfuwyd ('chalkbrood' a 'sacbrood' oedd y ddau arall) mewn astudiaeth a ddefnyddiodd ddata arolygu'r UWG. Erbyn hyn, feirws adenydd wedi'u hanffurfio yw un o brif achosion clefyd mewn gwenyn mêl yn dilyn ymlediad y gwiddon parasitig, Varroa destructor. Gyda'i gilydd, gall lefelau uchel o Varroa a feirws adenydd wedi'u hanffurfio arwain at gyflwr ar lefel nythfa a elwir yn ‘syndrom gwiddon parasitig’.
Gwenynen lawndwf ifanc wedi'i heintio â Feirws Adenydd wedi'u Hanffurfio sy'n dangos adenydd crebachlyd, wedi'u hanffurfio nodweddiadol.
Adnabod arwyddion o feirws adenydd wedi'u hanffurfio
Mae arwyddion feirws adenydd wedi'u hanffurfio yn cynnwys chwilerod marw nad ydynt yn ymddangos a gwenyn sy'n ymddangos ag adenydd wedi'u hanffurfio ac abdomenau chwyddedig, afliwiedig. Fel arfer, bydd gwenyn sy'n ymddangos ag adenydd wedi'u hanffurfio yn marw o fewn dau i dri diwrnod. Gall hyd yn oed gwenyn iach yr olwg ddioddef o lefelau uchel o feirws adenydd wedi'u hanffurfio a bod yn llai abl i ddysgu a chofio a fydd, yn ei dro, yn lleihau eu gallu i chwilio am fwyd.
Trosglwyddo
Caiff feirws adenydd wedi'u hanffurfio ei drosglwyddo drwy'r geg rhwng gwenyn gweithgar drwy droffalacsis (pan fydd gwenyn yn bwydo ei gilydd), yn rhywiol rhwng gwenyn gormes a breninesau ac yn fertigol gan freninesau i'w hepil. Pan gaiff ei drosglwyddo yn y ffyrdd hyn, fel arfer mae'r feirws yn bresennol ar lefelau isel ac nid yw'n achosi unrhyw arwyddion amlwg o glefyd. Fodd bynnag, yn sgil cyflwyno Varroa, roedd bellach ddull newydd o drosglwyddo clefyd drwy ei fectoru rhwng chwilerod sy'n datblygu. Mae'r fectoru hwn yn helpu'r feirws i gyrraedd lefelau uwch o lawer yn y nythfa.
Triniaeth
Am fod lefel uchel o haint feirws adenydd wedi'u hanffurfio mewn gwenyn mêl yn gysylltiedig â phresenoldeb gwiddon Varroa, mae rheoli'r gwiddon yn helpu i reoli haint feirws adenydd wedi'u hanffurfio. Dangoswyd bod mesurau rheoli gwiddon yn lleihau feirws adenydd wedi'u hanffurfio canfyddadwy yn y nythfa ac yn gwella gallu'r nythfa i oroesi dros y gaeaf. Mae llawer o gynhyrchion a thechnegau hwsmonaeth i reoli poblogaethau gwiddon. Ni fydd unrhyw gynnyrch yn dileu poblogaeth o widdon yn llwyr a chaiff nythfeydd eu hailheintio â gwiddon o wenynfeydd cyfagos, felly mae angen cyfundrefn drin hirdymor. Os oes arwyddion o niwed gwiddon yn ogystal â phresenoldeb feirws adenydd wedi'u hanffurfio, mae angen mynd ati ar frys i roi triniaeth Varroa effeithiol iawn sy'n gweithio'n gyflym. Bydd y driniaeth briodol ar gyfer Varroa yn dibynnu ar sawl ffactor gan gynnwys yr adeg o'r flwyddyn, maint y nythfa, statws mag y nythfa ac a oes llofftydd mêl yn bresennol. I gael rhagor o wybodaeth am sut i reoli gwiddon Varroa, darllenwch ein taflen gynghorol, ‘Rheoli Varroa’.
Feirysau eraill sy'n effeithio ar wenyn llawndwf
Mae mwy nag 20 o feirysau hysbys sy'n effeithio ar wenyn mêl. Fodd bynnag, nid yw pob un ohonynt i'w cael yn y DU. Yn ogystal â'r rhai y cyfeiriwyd atynt hyd yma, mae feirysau eraill sydd wedi'u canfod yn cynnwys: feirws parlys araf y gwenyn (SPV), feirws parlys acíwt y gwenyn (ABPV) a feirws parlys acíwt Israel (IAPV), feirws gwenyn Kashmir (KBV) ond mae'r rhain yn anghyffredin.
Darllenwch ein llyfryn wedi'i ddiweddaru ar ‘blâu, clefydau ac anhwylderau cyffredin mewn gwenyn mêl llawndwf’.