Nosema yw parasitiaid sydd wedi'u dosbarthu'n ‘ficrosboridia’ sy'n perthyn i ffyngau. Maent yn byw y tu mewn i gelloedd organebau eraill ac mae angen celloedd lletyol arnynt i dyfu ac ymrannu ond gallant fodoli y tu allan i gelloedd lletyol ar ffurf sborau. Ar ffurf sbôr, gallant symud rhwng lletywyr a lledaenu. Mae dwy brif rywogaeth o Nosema sy'n heintio gwenyn mêl, sef: Nosema apis, sy'n frodorol i Ewrop, a Nosema ceranae, y credir ei fod yn tarddu o Ddwyrain Asia.
Trosglwyddo
Caiff Nosema ei drosglwyddo drwy'r llwybr ysgarthion-ceg, drwy fwyd, dŵr ac arwynebau wedi'u halogi. Parasitiaid y perfedd yw Nosema ac mae'r sborau yn mynd i mewn i berfedd y wenynen, yn treiddio drwy gelloedd y perfedd ac yn egino. Yna, maent yn lluosogi ac yn achosi clefyd yn y lletywr drwy niweidio celloedd y perfedd a dwyn maethynnau sydd eu hangen ar y wenynen. Yn y pen draw, cynhyrchir miliynau o sborau sy'n heintio rhagor o gelloedd neu'n mynd i mewn i'r ysgarthion lle y gallant heintio'r nythfa a chael eu bwyta gan wenyn eraill.
Yn aml, gweler dysentri mewn nythfeydd sydd wedi'u heintio â Nosema apis
Adnabod arwyddion o Nosema
Nosema apis
Mae N. apis yn anodd i'w adnabod mewn gwenyn mêl am nad oes unrhyw arwyddion diffiniol a gall y nythfa edrych yn gwbl iach er ei bod wedi'i heintio. Fodd bynnag, gall Nosema apis achosi dysentri, cynnydd yn nifer y marwolaethau yn y gaeaf, cynnydd araf yn nifer y gwenyn yn y gwanwyn a llai o gynnyrch mêl.
Nosema ceranae
Credir bod N. ceranae yn barasit mwy firwlaidd na N. apis yn seiliedig ar arbrofion labordy. Mae gwenyn marw y tu allan i'r cwch gwenyn, gwenyn yn ymlusgo ar laswelltir y tu allan i'r cwch a gwenyn llawndwf anarferol o fach yn dystiolaeth o haint N. ceranae. Mewn nythfeydd wedi'u heintio, mae'n bosibl y gwelir lleihad mewn poblogaethau gwenyn llawndwf yn y gwanwyn, yn ogystal â lleihad mewn cynnyrch mêl a gweithgarwch atgynhyrchu mag. Mewn achosion difrifol, gall ladd nythfeydd.
Yr unig ffordd o adnabod a diagnosio Nosema yw drwy ficrosgopeg.
I ddysgu mwy, darllenwch ein llyfryn cynghori ar plâu, clefydau ac anhwylderau cyffredin mewn gwenyn mêl llawndwf.
Triniaeth
Mae clefyd a achosir gan haint Nosema apis yn cael ei waethygu drwy darfu ar nythfeydd, oherwydd mwy o ysgarthu y tu mewn i'r nythfa yn ôl pob tebyg. Felly, os canfyddir haint, dylid gadael y nythfeydd yn llonydd am ychydig o wythnosau, ar wahân i gadarnhau bod ganddynt ddigon o fwyd. Dylai lefelau heintio â N. apis ostwng yn sylweddol dros y tymor hedfan wrth i wenyn ysgarthu y tu allan i'r cwch gwenyn.
Gall yr haint waethygu os na fydd gan y nythfa frenhines. Felly, sicrhewch fod y frenhines yn bresennol cyn gadael i'r nythfa wella. Os bydd hen frenhines yn bresennol, gallai cyflwyno brenhines ifancach yn ei lle fod o gymorth; dangoswyd bod hyn yn lleihau cyfran y gwenyn gweithwyr sydd wedi'u heintio.
Parasit y perfedd yw Nosema. Felly, mae digonedd o fwyd yn hanfodol er mwyn helpu'r gwenyn i adfer. Mae paill yn arbennig o bwysig oherwydd gall cyflenwadau annigonol o baill waethygu haint, yn arbennig yn achos N. ceranae.
Os bydd popeth arall yn methu a bod yr haint yn sylweddol, gallwch geisio ei reoli drwy symud gwenyn i fframiau glân.
Gall sborau barhau'n hyfyw am flwyddyn neu fwy. Felly, gall crwybrau sydd wedi'u halogi ag ysgarthion o wenyn wedi'u heintio ailheintio nythfa. Gallwch naill ai doddi fframiau cwyr a diheintio'r fframiau pren; neu drin fframiau cyflawn ag asid asetig er mwyn lladd y sborau Nosema.
Gall trin fframiau ag asid asetig ddileu haint Nosema, 'chalkbrood' a chlefyd amebig ar fframiau, heb fod angen toddi cwyr gwerthfawr.
Rhagor o Wybodaeth
- Nosemosis of the Honey bee, OIE Terrestrial Manual 2008 (pdf)
- Erthygl yn Bee Craft: Nosema ceranae, Ion 2008 (pdf)