Sut rydym yn defnyddio cwcis

Dim ond cwcis sy'n <b>gwbl angenrheidiol</b> i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n gywir y mae'r wefan hon yn eu defnyddio.

Please read about .getTranslation('how we use cookies').

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon.

Rydych chi wedi dewis cwcis angenrheidiol yn unig

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Cwestiynau Cyffredin

Pwy yw'r Uned Wenyn Genedlaethol? 

Gwyliwch ein fideo "Gwenyn, Gwenynwyr a'r Uned Wenyn Genedlaethol" isod er mwyn dysgu mwy am ein gwaith hollbwysig:

Dolenni cyflym i ymholiadau cyffredin ynghylch: 

BeeBase

Beth yw BeeBase?

BeeBase yw gwefan yr Uned Wenyn Genedlaethol, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth am wenyna, megis gweithgareddau'r UWG, y ddeddfwriaeth ynglŷn â gwenyn mêl, gwybodaeth am blâu a chlefydau, mapiau rhyngweithiol, prosiectau ymchwil cyfredol, cyhoeddiadau, taflenni cynghorol a chysylltiadau allweddol. Gall gwenynwyr gofrestru ar-lein a gweld cofnodion eu gwenynfeydd, eu hanes diagnostig a'u manylion eu hunain. Mae BeeBase yn cynnwys yr holl wybodaeth wenynyddol am y rhaglen iechyd gwenyn yng Nghymru a Lloegr. Yn fwy diweddar, mae'r wybodaeth ar gyfer rhaglen archwiliadau'r Alban hefyd wedi'i chynnwys yn BeeBase. 

Pam y dylwn gofrestru ar gyfer BeeBase?

Mae BeeBase yn adnodd hanfodol i reoli clefydau a phlâu sy'n effeithio ar wenyn ac mae ganddo lawer o wybodaeth ddefnyddiol am wenyn a gwenyna. Pan gadarnheir achosion o glefydau a phlâu, mae'r UWG yn defnyddio BeeBase i nodi gwenynfeydd lle ceir risg yn yr ardal leol, anfon rhybuddion at unigolion a thargedu gweithgarwch archwilio a mesurau rheoli yn effeithiol. 

Drwy wybod ble mae gwenyn i'w cael, gallwn eich helpu i reoli risgiau yn eich gwenynfeydd. Gallai risgiau gynnwys ymlediad plâu newydd difrifol megis chwilen fach y cwch neu rywogaethau goresgynnol eraill megis cacynen felyngoes (Vespa velutina nigrithorax) a allai beri risg ddifrifol i wenyn mêl.

Sut y gallaf ofyn am gyfrinair newydd?

Gellir gofyn am gyfrineiriau newydd drwy ddefnyddio'r ddolen Wedi Anghofio Eich Cyfrinair? ar waelod y dudalen Mewngofnodi. Bydd gofyn i chi newid y cyfrinair newydd i rywbeth diogel a chofiadwy pan fyddwch yn ei ddefnyddio gyntaf.

Rwyf wedi anghofio fy enw defnyddiwr.

Gallwch ofyn am neges i'ch atgoffa o'ch Enw Defnyddiwr drwy ddefnyddio'r ddolen Wedi Anghofio Eich Enw Defnyddiwr? ar waelod y dudalen Mewngofnodi. Bydd angen i chi ddarparu'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru eich cyfrif. 

Pwy yw fy arolygydd lleol?

Ceir manylion cyswllt ar gyfer pob un o'n harolygwyr ar ein tudalen Cysylltu â Ni. Gallwch hefyd chwilio am eich arolygydd lleol gan ddefnyddio eich cod post
A allaf ddefnyddio gwybodaeth neu ddelweddau o'ch gwefan neu gynnwys? 
Cewch ddefnyddio unrhyw un o'r delweddau o'n gwefan neu gynnwys, ar yr amod eich bod yn rhoi'r gydnabyddiaeth ganlynol amdani: Delwedd diolch i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), © Hawlfraint y goron. Gallwch ailddefnyddio gwybodaeth a delweddau (ac eithrio'r logos) o'n cynnwys am ddim, o dan delerau fersiwn 3 y Drwydded Llywodraeth Agored. Er mwyn gweld y drwydded hon, ewch i: https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/.

Beth yw Cyfeirnod Grid a sut y gallaf ddod o hyd iddo?

Ffordd fanwl gywir o ddisgrifio lleoliad daearyddol yn y DU yn union gan ddefnyddio map grid yr Arolwg Ordnans yw cyfeirnod grid. Mae fel arfer ar ffurf dwy lythyren ac yna hyd at ddeg rhif (er enghraifft: SE12345 12345). Mae cyfeirnod grid â deg rhif yn cynrychioli sgwâr 1 metr x 1 metr ar y map. Gallwch gael cyfeirnod grid ar gyfer eich gwenynfa drwy ddefnyddio'r map yn BeeBase: gollyngwch farciwr ar leoliad y wenynfa ar y map a bydd yn dangos y cyfeirnod grid cywir yn awtomatig.

Fel arall, gallwch gael cyfeirnod grid gan ddefnyddio map Arolwg Ordnans, map ar-lein fel OS Maps (pwyswch y botwm toglo i 'show precise point info' a bydd y cyfeirnod grid yn cael ei ddangos yn y gornel dde ar y gwaelod).

Mae defnyddio cyfeirnod grid cywir yn helpu arolygwyr yr UWG i ddod o hyd i'ch gwenynfa.

Gwenyn

A yw gwenyn mêl yn cael eu gwarchod?

Ni chaiff gwenyn mêl, nac unrhyw rywogaethau o wenyn brodorol, eu gwarchod o dan gyfraith y DU. Fodd bynnag, mae llawer o rywogaethau gwenyn yn dirywio i raddau difrifol ac mae rhai rhywogaethau wedi diflannu yn y DU, felly dylem werthfawrogi pob rhywogaeth o wenyna sicrhau eu bod yn goroesi. Maent yn chwarae rôl hollbwysig drwy beillio cnydau pwysig a llu o blanhigion sy'n blodeuo mewn tirweddau naturiol a maestrefol ac maent yn elfennau allweddol o ecosystemau a reolir ac ecosystemau nas rheolir. 
I gael rhagor o wybodaeth am wenyn mêl, darllenwch ein ffeithlen ar wenyn mêl yn y DU.

Rwyf wedi canfod haid o wenyn, beth y dylwn ei wneud?

Os yw'r haid yn peri niwsans ac yr hoffech gael gwared arni, cysylltwch â chydgysylltydd heidiau lleol yng Nghymdeithas Gwenynwyr Prydain (BBKA). Mae gan BBKA restr o gydgysylltwyr heidiau ar eu tudalen we ar Gael Gwared ar Heidiau. Gall cwmnïau sy'n arbenigo mewn cael gwared ar wenyn neu reolwyr plâu gael gwared ar nythfeydd digroeso o wenyn mêl mewn simneiau ac adeiladau yn ofalus. Mae Cymdeithas Gwenynwyr Prydain wedi llunio rhestr o gysylltiadau ar gyfer symud gwenyn mêl.

Dim ond pan fydd eu presenoldeb yn peri niwsans annerbyniol neu risg i iechyd pobl y bydd yr UWG yn argymell symud neu ddifa heidiau o wenyn mêl.

A swarm of honey bees Gall gwenyn mêl nythu mewn haid mewn llawer o leoliadau.

A ellir dosbarthu gwenyn yn niwsans? A oes unrhyw ddeddfwriaeth ynglŷn â lleoli gwenyn a chychod?

O dan rai amgylchiadau, pan fetho popeth arall, oes – er nad oes unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â lleoli gwenyn. 
Os bydd gennych broblem o ran lleoli gwenyn, y cyngor cyntaf yw i'r ddau barti siarad â'i gilydd i weld a allant ddod i gytundeb cyfeillgar.
Os bydd y gwenyn yn peri niwsans, mae camau rhesymol a allai gael eu cymryd gan y gwenynwr yw symud y gwenyn yn bell i ffwrdd oddi wrth y ffin neu, yn ddelfrydol, leihau nifer y gwenyn drwy symud rhai i wenynfa allanol (safle sydd ymhell i ffwrdd o anheddau). Mae'n bosibl i wenynwyr profiadol reoli gwenyn yn ddiogel mewn gardd, er mai'r arfer gyffredin yw eu lleoli ymhell i ffwrdd o gymdogion a chodi gwrych neu ffens banelog o amgylch nythfeydd gan fod hyn yn annog gwenyn i hedfan yn uwch, uwchben pennau unrhyw bobl gerllaw.
Ar ôl trafod, os bydd y gwenyn yn dal i achosi problem, mae dau gam posibl y gallech eu cymryd:

  1. Gallech gysylltu â Chymdeithas Gwenynwyr Prydain (BBKA). Mae BBKA yno i annog arferion gwenyna cyfrifol ac mae wedi llunio canllawiau defnyddiol ar leoli gwenyn: Bees, Neighbours and Siting an Apiary. Os yw'r gwenynwr yn aelod, efallai y bydd BBKA yn gallu gweithredu fel cyfryngydd.
  2. Gwyddom fod rhai swyddfeydd Iechyd yr Amgylchedd lleol wedi llwyddo i alw Adran 79f, 'Niwsans Statudol', o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, i rym. Dim ond pan fetho popeth arall y bwriedir i'r adran hon gael ei defnyddio.

Fel arfer, ni fyddai'r UWG yn chwarae rôl uniongyrchol mewn anghydfodau sy'n ymwneud â lleoli gwenyn.

Beth y dylwn ei wneud os byddaf yn gweld gwenynen swrth yn fy ngardd neu fy nghartref?

Bydd y gwenyn hyn fel arfer wedi blino'n lân neu'n llwgu a bydd eu bwydo â hydoddiant o siwgr cansen gwyn pur wedi'i doddi mewn dŵr yn aml yn foddion iddynt. Peidiwch â defnyddio mêl a dŵr oherwydd gall rhai mathau o fêl gynnwys pathogenau sy'n niweidiol i wenyn mêl.

Beth y dylwn ei wneud os byddaf yn dod o hyd i nyth gwenyn yn fy ngardd?

Gall sawl rhywogaeth o wenyn gwyllt nythu yn eich gardd. Mae dros 270 o rywogaethau o wenyn gwyllt yn y DU ac mae rhai ohonynt yn nythu o dan y ddaear, tra gallai eraill nythu mewn ceudodau mewn coed neu flychau adar. Gan nad yw gwenyn gwyllt yn cael eu gwarchod, nid oes dim i'ch atal chi rhag eu symud. Fodd bynnag, rydym yn eich annog yn gryf i adael llonydd iddynt, gan fod gwenyn gwyllt yn dirywio i raddau helaeth. Nid oes yr un o'r rhywogaethau hyn yn ymosodol, ac mae llawer ohonynt yn dirywio, felly dylid gadael llonydd iddynt. 
Er mwyn cael gwybod mwy am wenyn gwyllt, darllenwch ein ffeithlen ar wenyn gwyllt yn y DU

Clefydau ac anhwylderau gwenyn mêl

Mae Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn, Clefyd Americanaidd y Gwenyn, Chwilen Fach y Cwch a gwiddonyn Tropilaelaps yn blâu a chlefydau hysbysadwy.
Os byddwch yn canfod pla neu glefyd hysbysadwy, yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol i chi rhoi gwybod amdano i'r Uned Wenyn Genedlaethol. Ewch i'r dudalen Cysylltu â Ni i gael manylion eich arolygydd gwenyn lleol.  Gallwch hefyd gysylltu â thîm y swyddfa drwy ffonio 0300 303 0094 neu anfon neges e-bost i [email protected].

Os byddwch yn canfod pla neu glefyd hysbysadwy a'ch bod yn yr Alban, cysylltwch â [email protected]

Beth yw Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn a beth yw'r symptomau?

Haint bacterol ar fag gwenyn mêl yw clefyd Ewropeaidd y gwenyn; gallwch ddysgu mwy am fioleg a symptomau Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn a'r ffordd y caiff ei reoli, yn fanwl yn y daflen gynghorol, "Clefyd y Gwenyn mewn Gwenyn Mêl".

Mae Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn effeithio ar fag heb ei selio. Mewn nythfeydd heintiedig, bydd y patrwm mag i weld yn dameidiog yn aml, bydd larfau wedi'u heintio â chlefyd Ewropeaidd y gwenyn yn edrych wedi toddi neu'n droellog. Bydd y larfa marw yn troi'n felyn ac, yna'n frown ac yn y pen draw, yn sychu i ffurfio cen brown sydd wedi'i gysylltu'n llac. Er mwyn dysgu sut i adnabod arwyddion clefyd Ewropeaidd y gwenyn, ewch i'n tudalen Sut i adnabod Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn

European foulbrood in various stages

Mae larfa iach (y gornel chwith uchaf) yn wyn ac â siâp ‘C’. Yn ystod camau cychwynnol yr haint, bydd y larfa yn troi'n felyn. Yna, bydd yn ymddangos fel petai wedi toddi a bydd yn droellog yn y gell. Wrth i'r gweddillion sychu, byddant yn ffurfio cen (y gornel dde isaf).

Beth yw symptomau Clefyd Americanaidd y Gwenyn?

Disgrifir bioleg a symptomau Clefyd Americanaidd y Gwenyn a'r ffordd y caiff ei reoli, yn fanwl yn y daflen gynghorol, "Clefyd y Gwenyn mewn Gwenyn Mêl". Fel arfer, mae Clefyd Americanaidd y Gwenyn ond yn effeithio ar fag wedi'i selio; bydd capanau cŵyr yn mynd yn grebachlyd ac yn dyllog a gall rhai capanau fod yn llaith neu bydd golwg seimllyd arnynt a byddant ychydig yn dywyllach eu lliw na chelloedd eraill. Ar gam y capanau crebachlyd, mae gweddillion y larfa marw yn frown golau i frown tywyll ac mae iddynt ansawdd llysnafeddog. Os caiff coes matsien ei rhoi i mewn a'i thynnu allan yn araf, gellir tynnu'r gweddillion allan mewn edau neu 'raff' frown debyg i fwcws rhwng 10 a 30mm o hyd. Er mwyn dysgu mwy am adnabod arwyddion clefyd Americanaidd y gwenyn, ewch i'n tudalen Sut i adnabod Clefyd Americanaidd y Gwenyn

Rwy'n credu bod clefyd y gwenyn yn fy nythfeydd, beth gallaf ei wneud?

Os oes gennych ffôn clyfar, ceisiwch dynnu llun o'r celloedd yr amheuir eu bod wedi'u heintio er mwyn eu dangos i'r arolygydd gwenyn. Wedyn, ewch i gau'r cwch gwenyn, lleihau maint y fynedfa a chymryd unrhyw gamau eraill angenrheidiol i atal y cwch gwenyn rhag cael ei ddwyn gan nythfeydd eraill. Dylech ddiheintio menig a chyfarpar gwenyna arall gan ddefnyddio hydoddiant soda golchi cryf cyn archwilio nythfeydd eraill. 
Os byddwch yn amau bod Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn neu Glefyd Americanaidd y Gwenyn yn eich nythfeydd, rhaid i chi gysylltu â'r Uned Wenyn Genedlaethol. Os ydych chi yn yr Alban, cysylltwch â [email protected]

Mae gennyf gwestiwn am glefydau eraill neu anhwylderau eraill sy'n effeithio ar fag (chalkbrood, chilled brood, ac ati).

Mae gennym ddwy daflen gynghorol gynhwysfawr sy'n disgrifio'n fanwl y clefydau gwenyn mêl llawndwf a mag mwyaf cyffredin sydd i'w canfod yn y DU. Mae'r daflen gynghorol ‘Plâu, clefydau ac anhwylderau cyffredin mewn gwenyn mêl llawndwf’ yn cwmpasu clefydau mewn gwenyn llawndwf ac mae ‘Clefyd y gwenyn mewn Gwenyn Mêl’ yn cynnwys gwybodaeth am glefydau mag cyffredin eraill. 

Plâu gwenyn mêl

Beth yw'r gacynen felyngoes?

Cacynen anfrodorol yw'r gacynen felyngoes (Vespa velutina nigrithorax), a arferai cael ei hadnabod fel Cacynen Asia, ac mae'n frodorol i Dde-ddwyrain Asia; Tsieina, India a Korea. Mae ychydig yn llai na'r gacynen Ewropeaidd frodorol. Noder na ddylid ei chymysgu â chacynen gawraidd Japan. Gallwch ddarllen mwy am y gacynen felyngoes a sut i wahaniaethu rhyngddi â'r rhywogaeth Ewropeaidd frodorol Vespa crabro a rhywogaethau cyffredin eraill o bryfed ar y daflen adnabod hon.

Os ydych chi o'r farn eich bod wedi gweld cacynen felyngoes neu nyth cacynen felyngoes, gallwch roi gwybod drwy:

Mae'r gacynen felyngoes yn bwyta gwenyn mêl a phan fydd dwyseddau uchel ohonynt, gallant ladd nythfa o wenyn. Mae hefyd yn ysglyfaethu amrywiaeth o rywogaethau brodorol o bryfed megis gwenyn meirch, clêr a chorynod. Mae poblogaethau o infertebratau yn y DU yn dirywio a bydd cael ysglyfaethwr ychwanegol yn cynyddu'r pwysau arnynt. 

Gellir gweld Asesiad Risg llawn Prydain Fawr o Rywogaethau Anfrodorol ar gyfer Vespa velutina yma.

Sut y gallaf wahaniaethu rhwng cacynen felyngoes a chacynen neu wenynen feirch frodorol?

Mae'r gacynen felyngoes ychydig yn llai na'r gacynen frodorol ond mae'n fwy na'n gwenyn meirch.  Mae cacwn gweithgar hyd at 2.5cm (modfedd) o hyd ac mae breninesau hyd at 3cm (tua 1.2 fodfedd) o hyd. Mae'n llai melyngoch na'n cacynen frodorol ac mae ganddi fand melyn amlwg ar ei habdomen yn bennaf sydd, fel arall, yn ddu.  Mae'r ddogfen hon yn rhoi mwy o fanylion am sut i adnabod cacynen felyngoes. Mae'r erthygl hon, a gyhoeddwyd yn BeeCraft yn 2021, yn rhoi canllawiau defnyddiol ar sut i wahaniaethu rhwng cacwn melyngoes goresgynnol a phryfed brodorol a gaiff eu camgymryd yn aml am y cacwn hyn: Parêd adnabod cacwn Asia

Ar y chwith, mae cacynen fawr gyda phen a thoracs du, abdomen du gyda chylch melyn/oren a choesau melyn. Ar y dde, mae cacynen fawr gyda phen oren, a thoracs oren a du ac abdomen streipiau melyn a du a choesau oren.

Sut y bydda i'n gwybod a oes gennyf widdon Varroa?

Mae gwiddon Varroa benyw yn hawdd i'w hadnabod am fod ganddynt gyrff hirgrwn browngoch, gwastad. Maent yn 1.6mm o hyd ac yn 1.1mm o led. Mae gwiddon benyw anaeddfed a gwiddon Varroa gwryw yn llai o faint ac yn olau a dim ond mewn celloedd magu y cânt eu canfod. Mae gwiddon Varroa yn fach iawn. Os ydych yn gwisgo sbectol bydd angen i chi ei gwisgo i weld Varroa, yn ôl pob tebyg. Gall lens law fod yn ddefnyddiol hefyd. 

Mae rheoli Varroa yn rhan hanfodol o wenyna ac mae angen i wenynwyr wneud yn siŵr y gallant adnabod gwiddon Varroa yn eu cychod a bod ganddynt o leiaf un dull o amcangyfrif lefel y pla. Mae ein ffeithlen ar amcangyfrif poblogaethau o Varroa yn cynnig trosolwg o rai o'r ffyrdd o wneud hyn.

Mae angen rheoli poblogaethau o widdon mewn nythfeydd drwy gydol y flwyddyn. Mae sawl ffordd o wneud hyn. Ewch i'n tudalennau ar Varroa i gael canllawiau manwl a lluniau. Gallwch hefyd lawrlwytho copi o'n taflen Rheoli Varroa am ddim sy'n cynnwys manylion am yr holl ddewisiadau trin sydd ar gael.  Gall eich arolygydd gwenyn lleol hefyd roi cyngor ac arweiniad i chi.

Ymchwil i wenyn mêl 

A allaf ddefnyddio clefydau gwenyn mêl at ddibenion ymchwil wyddonol? 

Os ydych yn ymchwilydd neu'n wyddonydd ac yr hoffech weithio gyda chlefydau gwenyn mêl, byddwch yn ymwybodol na ellir trin cyfryngau achosol clefyd Ewropeaidd y gwenyn na chlefyd Americanaidd y gwenyn, sef Melisococcus plutonius a Paenibacillus larvae, heb drwydded. I gael gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen i gael trwydded, cysylltwch â: [email protected].

Os hoffech weithio gydag unrhyw glefydau eraill, nid oes angen trwydded. Fodd bynnag, ni all yr UWG ddarparu samplau o gyfryngau achosol clefyd. Er mwyn holi am gael samplau, cysylltwch â [email protected].

Noder nad yw rhai o gyfryngau achosol clefydau gwenyn mêl yn hawdd i'w meithrin nac yn addas i'w storio am gyfnod hir. Rydym yn argymell y dylech ddarllen COLOSS BeeBook Cyfrol II i ddysgu mwy am gaffael a phrosesu samplau maes.

Cyfleoedd am gyllid

Os ydych yn edrych am gymorth ariannol i gyflawni gwaith ymchwil, gellir chwilio am grantiau drwy Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Mae sefydliadau eraill sy'n darparu cyllid yn cynnwys Cymdeithas Gwenynwyr Prydain, Cronfa Gwaith Ymchwil y Bee Diseases Insurance (BDI) a'r CB Dennis Trust.

A allaf gael gafael ar ddata UWG ar glefydau gwenyn mêl? 

Gall yr UWG gael gafael ar ddata ac ystadegau ar glefydau gwenyn mêl yng Nghymru a Lloegr. Er mwyn cael gafael ar ddata, gall unigolion gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth i [email protected].

Dysgwch fwy am sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth yma: sut i wneud cais Rhyddid Gwybodaeth.

Cofiwch, er bod data personol yn cael eu casglu er mwyn bodloni gofynion statudol mewn perthynas â bioddiogelwch gwenyn mêl a rheoli plâu a chlefydau o dan ddeddfwriaeth y DU, na fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac na fyddwn yn gweithredu'n groes i'n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym yn rheoli data personol, darllenwch hysbysiad preifatrwydd yr UWG yma.