Croeso i BeeBase
BeeBase yw gwefan Uned Wenyn Genedlaethol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae wedi'i hanelu at wenynwyr ac mae'n cefnogi Rhaglenni Iechyd Gwenyn Defra, Llywodraeth Cymru a'r Alban. Mae BeeBase yn cefnogi nodau Cynllun Gwenyn Iach 2030, [a Strategaeth Iechyd Gwenyn Mêl Llywodraeth yr Alban 2022-2032], sy'n canolbwyntio ar ddiogelu a chynnal ein stociau gwenyn cenedlaethol gwerthfawr.
Rôl yr UWG yw rheoli plâu a chlefydau gwenyn mêl (Apis mellifera) drwy gyflwyno rhaglen archwilio clefydau statudol, rhaglen gwyliadwriaeth gwenynfeydd ar gyfer plâu egsotig, ac addysg. Er mwyn cael gwybod mwy am gylch gwaith yr Uned Wenyn Genedlaethol, gweler y dudalen Amdanom ni. I gael rhagor o wybodaeth am raglen iechyd gwenyn yr Alban, ewch i'n tudalennau Gwenyna yn yr Alban.
Cofrestru â BeeBase
Mae ein hadnoddau ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un. Gall gwenynwyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ddefnyddio'r porth ar-lein i gofrestru fel gwenynwr a darparu manylion y gwenynfeydd er mwyn cael rhybuddion drwy e-bost am achosion o glefydau a phlâu yn eich ardal. Gall gwenynwyr gael archwiliadau gan arolygwyr UWG fel rhan o raglen clefydau statudol. Mae'r arolygiadau hyn yn rhad ac am ddim a gallant gynnig cyfle i wenynwyr ddysgu gan y bydd yr arolygydd yn rhoi cyngor ar atal a nodi clefydau gwenyn mêl.
Mae am ddim i gofrestru gyda BeeBase. Cofrestrwch yma.
A yw eich manylion yn gyfredol?
Os nad ydynt, mewngofnodwch a diweddarwch eich manylion. Sicrhewch fod manylion safleoedd eich gwenynfeydd cyfredol yn gyfredol ac yn gywir. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael y rhybuddion clefydau a hwsmonaeth diweddaraf ar gyfer eich ardal.
Dysgwch am blâu a chlefydau gwenyn mêl
Mae clefyd Ewropeaidd y gwenyn a chlefyd Americanaidd y gwenyn yn glefydau statudol sy'n gyfreithiol hysbysadwy yn y DU. Gweler ein tudalen cyfrifoldebau cyfreithiol gwenynwyr i gael gwybod mwy. Os byddwch yn amau presenoldeb y naill glefyd gwenyn neu'r llall yn eich nythfeydd, cysylltwch â ni ar unwaith, neu e-bostiwch [email protected] os ydych chi'n byw yn yr Alban. Os ydych chi'n ansicr ynghylch arwyddion clefyd y gwenyn, edrychwch ar ein tudalennau Clefyd y Gwenyn.
Mae ein tudalennau Clefydau a Phlâu yn rhoi manylion plâu a chlefydau gwenyn mêl y dylai pob gwenynwr fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn cynnal stociau cynhyrchiol o wenyn. Maent yn rhoi manylion bioleg ac effaith amrywiaeth o blâu a heintiau a'r opsiynau ar gyfer eu rheoli a, lle y bo ar gael, wybodaeth am achosion presennol.
Adnoddau i Wenynwyr
Mae BeeBase yn cynnwys cyfoeth o adnoddau ar gyfer gwenynwyr. Mae gennym lyfrgell fawr o ddeunydd darllen ar wenyna y gellir eu lawrlwytho am ddim, sy'n cynnwys canllawiau arfer gorau, ffeithlenni, taflenni cynghorol, fideos hyfforddi, darlithoedd ar-lein ac erthyglau wedi'u hysgrifennu gan yr UWG. Mae gennym hefyd oriel o ddelweddau gwenyna, y gellir eu lawrlwytho am ddim a'u rhannu o dan Hawlfraint y Goron, yn yr Oriel Gyfyngau y mae modd chwilio drwyddi.
Ceir gwybodaeth am achosion byw a hanesyddol o glefydau, tueddiadau o ran clefydau, nythfeydd a gollwyd, ystadegau mewnforio ac allforio ac amrywiaeth eang o ddata eraill ar y dudalen Achosion o Glefydau.
Os ydych chi'n wenynwr newydd neu'n ystyried cadw gwenyn, beth am ddechrau gyda'n canllaw i ddechreuwyr Dechrau'n Dda gyda Gwenyn?
Gwyddoniaeth yn UWG
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y prosiectau ymchwil y mae UWG yn rhan ohonynt ar ein tudalennau Gwyddoniaeth ac Ymgysylltu a chael gafael ar ddetholiad o erthyglau gwyddonol cyhoeddedig, a hynny'n rhad ac am ddim. Mae tystiolaeth wyddonol yn sail i waith yr UWG ac yn cael ei hymgorffori yn ein deunydd darllen a'n hyfforddiant. Er mwyn dysgu mwy, ewch i dudalen Cynllun Gwenyn Iach 2030.
Ymholiadau ac adborth
Defnyddiwch y ddolen hon i anfon neges e-bost atom yn rhoi eich barn am y wefan neu'r hyn yr hoffech ei weld arni.
Os oes gennych gwestiwn neu ymholiad penodol i'r UWG, ewch i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, anfonwch neges atom yn [email protected].
Y Newyddion Diweddaraf
Datganiad o Ddiddordeb: Cynghorydd Gwyddoniaeth BHAF
Mae hon yn swydd ddi-dâl, wirfoddol sy'n cefnogi gwaith y Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn a'r gwaith o gyflawni Cynllun…
Datganiad am Gefnogi Digwyddiadau Penwythnos
Mae Uned Wenyn Genedlaethol APHA yn cydnabod y rôl bwysig y mae digwyddiadau penwythnos yn ei chwarae wrth gefnogi hyfforddiant,…
Yellow-Legged Hornet Dadansoddiadau
Ym mis Rhagfyr 2025, cadarnhaodd Defra na ofynnir i'r UWG ymgymryd â gwaith trapio yn y gwanwyn mewn perthynas â…
