Mae chwilod bach y cwch, Aethina tumida, yn bla sy'n effeithio ar gychod gwenyn sy'n frodorol i Affrica Is-Sahara. Mae chwilod bach y cwch, sydd ond yn fân bla yn eu rhanbarthau brodorol, yn cael effaith fwy sylweddol ar wenyn mêl a gwenyn gwyllt mewn ardaloedd y mae wedi ymledu iddynt.
Gall chwilod bach y cwch luosi i niferoedd enfawr mewn nythfeydd heintiedig lle maent yn bwyta mag, mêl a phaill, yn dinistrio crwybrau ac yn achosi i fêl eplesu a chael ei ddifetha.
Mae chwilod bach y cwch yn bla hysbysadwy statudol; rhaid hysbysu'r UWB ar unwaith am unrhyw chwilod yr amheuir eu bod yn chwilod bach y cwch sy'n bresennol mewn cwch gwenyn.
Cyfres o dri llun sy'n dangos camau bywyd Chwilen Fach y Cwch
Nid yw chwilod bach y cwch yn bresennol yn y DU ar hyn o bryd
Mae chwilod bach y cwch wedi cael eu cyflwyno drwy ddamwain i lawer o wledydd, gan gynnwys UDA, Canada, Awstralia, Ynysoedd Philippines, Korea, Mauritius, Tsieina a La Reunion. Yn America Ladin, canfuwyd chwilod bach y cwch ym Mecsico, Jamaica, El Salvador, Nicaragua, Belize, Guatamala, Cuba, Costa Rica, Columbia, Bolivia, Paraguay a Brasil. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf i'r sector gwenyna yn y DU yw bod chwilod bach y cwch wedi'u canfod yn yr Eidal a Phortiwgal. Nid ymsefydlodd y chwilen ym Mhortiwgal ond mae bellach yn broblem barhaus yn yr Eidal, er ei bod yn cael ei rheoli.
Dangoswyd bod chwilod bach y cwch yn bla hynod symudol y gellir ei gyflwyno'n hawdd i ranbarthau newydd drwy fasnach fyd-eang mewn cwyr gwenyn neu drwy fewnforio pecynnau o wenyn neu freninesau. Cafodd ymlediad chwilod bach y cwch i Bortiwgal, a ataliwyd, ei olrhain yn ôl i freninesau heintiedig a gludwyd yno ar fwrdd llong o UDA, a chafodd ymlediad chwilod bach y cwch i Ganada ei olrhain yn ôl i gwyr gwenyn a fewnforiwyd o UDA.
Petai chwilod bach y cwch yn ymledu i'r DU, byddai'n fygythiad mawr i gynaliadwyedd hirdymor y diwydiant gwenyna yn y DU.
Gwenynfeydd sentinel
Mae cadw gwyliadwriaeth ar blâu egsotig yn amddiffyniad pwysig rhag plâu ymledol. Ers 2010, mae rhwydwaith gwirfoddol o wenynwyr yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn monitro eu nythfeydd gwenyn mêl yn benodol rhag rhywogaethau o blâu egsotig ar ran yr UWG.
Mae deiliaid y 'gwenynfeydd sentinel' yn amddiffynfa rheng flaen ychwanegol werthfawr rhag plâu egsotig. Mae dros 50 o wenynfeydd sentinel uwch (ESAs) a dros 150 o wenynfeydd sentinel gwirfoddol (VSAa). Mae gwenynfeydd sentinel gwirfoddol mewn ardaloedd 'sy'n wynebu risg' a rhai a ddewiswyd ar hap er mwyn helpu i ganfod cymaint o achosion â phosibl. Caiff cychod gwenyn yn y gwenynfeydd sentinel gwirfoddol eu harchwilio'n rheolaidd gan y gwenynwyr, yn unol â phrotocolau monitro penodol. Ddwywaith ym mhob tymor, caiff samplau o weddillion cwch gwenyn eu cyflwyno i'r UWG a'u profi am bresenoldeb chwilod bach y cwch a Tropilaelaps. Mae gwenynfeydd sentinel uwch yn yr ardaloedd risg uchaf ac mae arolygwyr yn ymweld â nhw ac yn cynnal arolygiadau gwyliadwriaeth ar blâu egsotig llawn deirgwaith ym mhob tymor. Mae'r defnydd o wenynfeydd sentinel yn gwella'r siawns o ganfod plâu egsotig yn gynnar a'u dileu'n llwyddiannus.
Sut y gallaf helpu?
Y peth pwysicaf y gall gwenynwyr unigol ei wneud i helpu i atal chwilen fach y cwch rhag ymledu i'r DU yw dilyn y canllawiau ar gyfer mewnforio gwenyn mêl yn gaeth.
Argymhellir hefyd eich bod yn dysgu sut i adnabod chwilod bach y cwch llawndwf a'u larfâu fel y gallwch adnabod pryfed a amheuir. I ddysgu mwy am chwilen fach y cwch, gan gynnwys sut i archwilio cwch gwenyn gan chwilio'n benodol am arwyddion o'r pla hwn, darllenwch ein taflen gynghorol ar Chwilen fach y cwch: bygythiad difrifol i wenynyddiaeth yn Ewrop.
A ydw i wedi canfod chwilod bach y cwch?
Weithiau, gall llawer o fathau o chwilod, wyau pryfed a larfâu fod yn bresennol mewn cychod gwenyn. Edrychwch i weld a yw'r rhai rydych wedi'u canfod yn cyd-fynd â'r pwyntiau adnabod allweddol isod:
Chwilod llawndwf
maint: 5-7 mm o hyd; 2.5-4 mm o led
lliw: du a brown tywyll
disgrifiad: antenau siâp clwb, casinau adenydd byr
ymddygiad: yn cuddio rhag y golau
Larfâu
maint: hyd at 10 neu 11 mm
lliw: llwydfelyn
disgrifiad: pigau ar hyd y cefn, 3 phâr o goesau yn agos i'r pen
Wyau
maint: 1.5 x 0.25 mm (dwy ran o dair o faint wyau gwenyn mêl)
lliw: gwyn
lleoliad: masau o wyau yn agennau cwch gwenyn neu ar lawr cwch gwenyn
Beth i'w wneud os byddwch yn credu eich bod wedi gweld chwilen fach y cwch
Os byddwch yn credu eich bod wedi gweld wyau, larfâu neu chwilod amheus mewn nythfa, dylid eu casglu a'u lladd drwy eu rhewi. Cysylltwch â'r UWG i roi gwybod am yr hyn a welsoch. Mae chwilod bach y cwch yn bla hysbysadwy statudol felly mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i roi gwybod am chwilod bach y cwch a amheuir.
Rhagor o Wybodaeth
Mae Defra hefyd wedi cwblhau asesiad risg o'r potensial i chwilod bach y cwch fod yn gysylltiedig â chynnyrch a chynhyrchion planhigion eraill o'r Eidal, a gellir darllen y ddogfen yma.
Cyfrifoldeb cyfreithiol gwenynwyr
Cynllun Wrth Gefn ar gyfer Pla Penodol Chwilen Fach y Cwch a gwiddonyn Tropilaelaps