Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth a chanllawiau ar fewnforio ac allforio gwenyn mêl a chacwn byw.
Am ganllawiau ar gynhyrchion eraill sy'n dod o wenyn, gweler yr canllaw hwn ar gyfer mewnforio ac allforio anifeiliaid byw neu gynhyrchion anifeiliaid a'r nodiadau hyn ar fewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid
Mae'r DU wedi ymadael â'r UE a bydd rheolau newydd mewn grym o fis Ionawr 2021 ymlaen
Mae'r Nodiadau Cyfarwyddyd i Fewnforwyr (yn Saesneg) yn rhoi manylion i wenynwyr yng Nghymru a Lloegr am yr hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a gofynion ardystio iechyd os byddwch am fewnforio gwenyn byw ar ôl 31 Rhagfyr 2020.
Mae Arolygiaeth Iechyd Gwenyn yr Alban wedi llunio canllawiau ar gyfer gwenyn mêl a fewnforir canllawiau ar gyfer gwenyn mêl a fewnforir i wenynwyr yn yr Alban.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar y canllawiau ar gov.uk a'r Model Gweithredu Ffiniau, sy'n rhoi gwybodaeth am y prosesau newydd.
Ar gyfer symud gwenyn y ddwy ffordd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, ceir canllawiau ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon.
Os ydych yn bwriadu mewnforio neu allforio gwenyn, chi sy'n gyfrifol am ddilyn y rheolau newydd hyn a diogelu bioddiogelwch Prydain Fawr. Ceir arweiniad cyffredinol ar newidiadau ar gyfer busnesau a dinasyddion yn https://www.gov.uk/transition
Cwestiynau Cyffredin – Mewnforion
Mae'r cwestiynau hyn ond yn ymdrin â Gwenyn mêl (Apis mellifera) a Chacwn.
Beth y gallaf ei fewnforio o'r UE?
- Breninesau gyda hyd at 20 o wenyn gweithgar sy'n gweini arnynt.
- Cacwn
Beth na allaf ei fewnforio o'r UE?
- Pecyn/Nythfa Gnewyllol/Nythfa Gyfan
I bwy y mae'n rhaid i mi roi gwybod os byddaf am fewnforio breninesau?
- Rhaid rhoi gwybod am unrhyw fewnforion drwy'r Gwasanaeth Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS),
Pa God Nwyddau y dylwn ei ddefnyddio?
- 01064100
Pa wybodaeth y mae angen i mi ei roi i'r allforiwr?
- Mae system IPAFFS yn rhoi Rhif Cyfeiriad Unigryw y dylid ei gynnwys ar y Dystysgrif Iechyd a roddir gan y wlad sy'n allforio.
Pa Dystysgrifau sydd eu hangen?
- Rhaid i chi sicrhau bod tystysgrif iechyd a gafwyd gan yr awdurdod cymwys perthnasol yn cael ei hanfon gyda phob llwyth. Mae angen lanlwytho copi o'r dystysgrif hon i system IPAFFS cyn mewnforio'r llwyth. Gellir lawrlwytho tystysgrifau enghreifftiol o'r dudalen hon ar gov.uk.
Oes angen i'm Breninesau ddod i mewn i'r wlad drwy borthladd penodol?
- Imports from countries other than EU member states must enter via a border control point. Imports from EU member states will be checked at destination on a risk basis until the end of the 2024 beekeeping season
Beth fydd yn digwydd os bydd fy nogfennaeth / tystysgrif ar goll neu'n anghywir?
- Os ceir nad yw llwyth yn cydymffurfio â'r gyfraith, caiff ei ddychwelyd i'r wlad tarddiad neu ei ddinistrio. Mae hyn hefyd yn gymwys os na fydd llwyth a fewnforir yn dod i mewn i'r wlad drwy Safle Rheoli Ffiniau o fis Gorffennaf 2022 ymlaen.
Yn y gorffennol, roedd fy mewnforion yn cael eu harchwilio o bryd i'w gilydd gan Arolygydd Gwenyn. Felly, a fydd hyn yn parhau?
- Bydd. Bydd Arolygwyr Gwenyn yn parhau i gynnal archwiliadau seiliedig ar risg yn y man mewnforio gan ddefnyddio'r cyfeiriad a ddarparwyd ym mhroses hysbysu IPAFFS. Os bydd Arolygydd yn cysylltu â chi, rhaid i chi ddal y llwyth nes iddo gael ei ryddhau gan yr Arolygydd.
Alla i ddefnyddio cawell y frenhines a ddarparwyd gan yr allforiwr i gyflwyno fy Mreninesau?
- Na allwch, ar ôl i chi ei chael, rhaid i'r frenhines gael ei throsglwyddo i gawell newydd.
- Anfonwch y cewyll gwreiddiol, y gwenyn gweithgar sy'n gweini a deunydd arall a anfonwyd gyda'r breninesau o'u gwlad tarddiad i'r cyfeiriadau isod o fewn 5 diwrnod i'w cael er mwyn iddynt gael eu harchwilio i weld a oes plâu a chlefydau hysbysadwy yn bresennol. Dylech gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn cyswllt a Rhif Cyfeirnod Unigryw IPAFFS gyda'r pecyn. Sicrhewch eu bod wedi'u pacio'n addas i gael eu cludo gan y gwasanaeth post.
- Yng Nghymru a Lloegr: RM 02G06 Fera Science Ltd York Biotech Campus, Sand Hutton, York YO41 1LZ
- Yn yr Alban: Bee Health – Imports, SASA, Roddinglaw Road, Edinburgh, EH12 9FJ
A oes angen i'r gwenyn sy'n gweini fod yn farw cyn i mi eu hanfon i gael eu harchwilio?
- Nac oes, ar ôl iddo gael ei dderbyn, caiff eich parsel ei rewi. Sicrhewch eu bod wedi'u pacio'n ddiogel ac na allant ddianc.
A godir tâl am y gwasanaeth hwn?
- Ar hyn o bryd, ni chodir unrhyw dâl am archwiliadau ar ôl mewnforio.
- Pan fydd Gwenyn yn cyrraedd drwy Safle Rheoli Ffiniau, caiff costau'r archwiliadau a gynhelir ar anifeiliaid byw sy'n cael eu mewnforio o Drydydd Gwledydd eu hadennill gan y mewnforiwr o dan ddarpariaethau'r rheoliadau rheoli swyddogol. Er mwyn cael gwybod faint y mae'r archwiliadau Safle Rheoli Ffiniau yn eu costio, dylech gysylltu â'r Safle Rheoli Ffiniau perthnasol. Ceir manylion cyswllt y Safleoedd Rheoli Ffiniau ar y dudalen hon ar gov.uk.
Allforion
Os ydych yn bwriadu allforio gwenyn o Brydain Fawr, rhaid i chi sicrhau bod y wlad rydych yn allforio iddi yn caniatáu mewnforion o Brydain Fawr ac y gallwch gydymffurfio â'i hamodau mewnforio. Yr allforiwr sy'n gyfrifol am wneud hyn.
Yn achos allforion i unrhyw wlad, os byddwch yn allforio gwenyn heb y dystysgrif gywir, efallai y caiff y llwyth ei wrthod/dinistrio gan y wlad rydych yn allforio iddi. Os oedd angen i'r llwyth gael ei archwilio cyn iddo gael ei allforio, ni fyddwn yn gallu rhoi tystysgrif yn ôl-weithredol.
O fis Ionawr 2022 ymlaen, rhaid i Dystysgrifau Iechyd Allforio ar gyfer allforion i wledydd yr UE gael eu llofnodi gan Filfeddyg Swyddogol. Yn achos gwledydd y tu allan i'r UE, yr awdurdodau yn y wlad y bydd y llwyth yn cael ei allforio iddi fydd yn penderfynu a oes angen i Filfeddyg Swyddogol lofnodi'r Dystysgrif Iechyd Allforio. Felly, mae'n bwysig bod yr allforiwr yn cysylltu â nhw er mwyn cadarnhau'r gofynion.
Allforio i wledydd yr UE
Dim ond breninesau y gellir eu hallforio i wledydd yr UE. Er mwyn allforio breninesau, rhaid i chi gael Tystysgrif Iechyd Allforio a threfnu iddi gael ei llofnodi gan Filfeddyg Swyddogol. Rhaid i'r Milfeddyg Swyddogol gynnal archwiliad iechyd yn y wenynfa cyn y gellir llofnodi'r dystysgrif a dylai allforwyr ddisgwyl i dâl gael ei godi am wasanaethau Milfeddyg Swyddogol. Mae templed y dystysgrif iechyd ar gov.uk, ynghyd â Nodiadau Cyfarwyddyd a gwybodaeth am sut i gysylltu â Milfeddyg Swyddogol.
Bydd y Milfeddyg Swyddogol hefyd yn cadarnhau a oes angen i un o arolygwyr yr Uned Wenyn Genedlaethol (Cymru a Lloegr) neu un o Arolygwyr Gwenyn Llywodraeth yr Alban fod yn bresennol hefyd er mwyn cefnogi'r Milfeddyg Swyddogol yn ystod yr archwiliad iechyd. Gall y Milfeddyg Swyddogol gael gwybodaeth am sut i gysylltu ag Arolygydd Gwenyn yn y Nodiadau Cyfarwyddyd. Y manylion cyswllt yw:
- Yn achos Cymru a Lloegr – anfonwch neges e-bost i'r Uned Wenyn Genedlaethol
- Yn achos yr Alban – anfonwch neges e-bost i Arolygiaeth Gwenyn yr Alban
Bydd y Milfeddyg Swyddogol yn trefnu i arolygydd gwenyn fod yn bresennol yn ystod yr archwiliad. Ni chodir tâl ar wahân er mwyn i arolygydd gwenyn fod yn bresennol.
Yn achos allforion i wledydd yr UE, mae tystysgrif iechyd wedi'i llofnodi yn ddilys am 10 diwrnod.
Anfon gwenyn i Ogledd Iwerddon
Dim ond breninesau y gellir eu symud i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr. Ystyrir bod breninesau sy'n cael eu hanfon i Ogledd Iwerddon yn cael eu hallforio ac mae angen iddynt gael eu harchwilio yn y wenynfa gan Filfeddyg Swyddogol cyn i'r Dystysgrif Iechyd Allforio gael ei llofnodi. Ewch i gov.uk i gael Tystysgrif Iechyd Allforio fel y disgrifiwyd uchod.
At hynny, dylai'r allforiwr ddilyn y broses anifail-benodol fel y'i nodir yn y canllawiau hyn gan DAERA a'r canllawiau yma ar hysbysu Gogledd Iwerddon ymlaen llaw ar TRACES NT.
Rydym yn argymell y dylech gysylltu â'r UWG (Cymru a Lloegr) neu Lywodraeth yr Alban er mwyn cadarnhau bod y broses allforio yn mynd yn ei blaen, ar ôl i chi hysbysu Gogledd Iwerddon gan ddefnyddio TRACES NT.
Allforio i wledydd nad ydynt yn rhan o'r UE
Er mwyn allforio gwenyn i wlad nad yw'n rhan o'r UE, cwblhewch y ffurflen gais i allforio a'i dychwelyd i swyddfa'r UWG. Dylech anfon yr amodau mewnforio ar gyfer y wlad rydych yn allforio iddi gyda'r ffurflen gais. Yn dibynnu ar ofynion y wlad, efallai y bydd angen i chi hefyd gysylltu â Milfeddyg Swyddogol a fydd yn penderfynu a ellir llofnodi'r dystysgrif iechyd allforio Dylai allforwyr ddisgwyl i dâl gael ei godi am wasanaethau Milfeddyg Swyddogol. Wrth gyflwyno'r ffurflen gais, dylech gadarnhau i'r UWG neu Lywodraeth yr Alban a ydych wedi cysylltu â Milfeddyg Swyddogol.
Bydd angen i un o arolygwyr yr UWG (Cymru a Lloegr) neu un o Arolygwyr Gwenyn Llywodraeth yr Alban fod yn bresennol yn ystod yr archwiliad hefyd, oni fydd y Milfeddyg Swyddogol yn cadarnhau ymlaen nad yw hyn yn ofynnol. Ni chodir tâl ar wahân er mwyn i arolygydd fod yn bresennol.
Os na fydd angen llofnod Milfeddyg Swyddogol ar y wlad rydych yn allforio iddi, un o Arolygwyr Gwenyn yr UWG neu Lywodraeth yr Alban fydd yn cynnwys yr asesiad iechyd. Os bydd y gwenyn yn rhydd rhag y plâu a chlefydau a nodwyd, ac os bydd y wenynfa yn bodloni'r gofynion ardystio iechyd, gellir llofnodi'r dystysgrif iechyd. Rhaid i'r dystysgrif deithio gyda'r gwenyn i'r wlad rydych yn allforio iddi.
Mae'n bwysig eich bod yn cadarnhau a yw'r wlad rydych yn allforio iddi yn ystyried bod tystysgrif ond yn ddilys am gyfnod cyfyngedig, er mwyn sicrhau na ddaw i ben cyn i'r gwenyn sy'n cael eu hallforio gyrraedd.
Y Deifiad ('Fireblight Disease') – Cyfyngiadau Symud
Os ydych yn bwriadu symud gwenyn i un o Aelod-wladwriaethau'r UE, dylech ymgyfarwyddo â'r cyfyngiadau sy'n gymwys rhwng 15 Mawrth a 30 Mehefin sy'n ymwneud â'r Deifiad (Erwinia amylovora), sef clefyd hysbysadwy difrifol sy'n effeithio ar afalau, gellyg a choed a llwyni eraill sy'n perthyn iddynt yn nheulu Rosaceae.
Am ragor o wybodaeth, gweler Rheoliad (UE) 2016/2031. Ceir rhestr o'r ardaloedd gwarchodedig, yn ogystal â dolenni i ganllawiau pellach, ar y Porth Iechyd Planhigion.
Rhagor o Wybodaeth
Parker, A. (2021) Honey Bee Imports into GB – Erthygl a Gyhoeddwyd yn Bee Farmers Magazine sy'n disgrifio proses IPAFFS yn fanwl (yn Saesneg).
Siart lif sy'n dangos y broses ar gyfer mewnforion o'r UE i'r DU (yn Saesneg)