Sut rydym yn defnyddio cwcis

Dim ond cwcis sy'n <b>gwbl angenrheidiol</b> i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n gywir y mae'r wefan hon yn eu defnyddio.

Please read about .getTranslation('how we use cookies').

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon.

Rydych chi wedi dewis cwcis angenrheidiol yn unig

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Y Cyfrif Cychod

Nodwch: mae'r Cyfrif Cychod yn rhedeg bob blwyddyn o'r 1af o Dachwedd i'r 31fed o Rhagfyr; dim ond yn ystod y cyfnod hwnnw y bydd y dolenni isod ar gael.

Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol am i CHI ddiweddaru'ch cofnodion!

Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol unwaith eto yn gofyn i wenynwyr gymryd rhan yn y Cyfrif Cychod Gwenyn Cenedlaethol a diweddaru BeeBase drwy nodi nifer eu nythfeydd. Gwnaeth dros 9,500 o wenynwyr gwblhau'r Cyfrif Cychod Gwenyn yn 2024!! Mae'r wybodaeth hon yn hollbwysig er mwyn i ni gynllunio a pharatoi ar gyfer achosion o glefyd neu blâu egsotig. Mae'n bwysig iawn, er enghraifft, ein bod yn gwneud popeth posibl i gadw lefelau clefyd y gwenyn mor isel â phosibl. Mae gwybodaeth am nifer a lleoliad gwenynwyr, cychod gwenyn a gwenynfeydd yn helpu i roi gwybod ble y dylid anfon Arolygwyr Gwenyn. Mae hyn berthnasol mewn perthynas â chlefydau a phlâu cyfarwydd a bygythiadau mwy diweddar fel y rhywogaeth oresgynnol niweidiol, cacynen Asia (Vespa velutina).

Byddwn hefyd yn defnyddio'r ffigurau sydd gennym ar BeeBase i fonitro poblogaethau gwenyn mêl dros amser. Mae meddu ar gofnodion cyfredol sy'n adlewyrchu'r sefyllfa bresennol bob blwyddyn yn hollbwysig ac mae'n ein galluogi i fonitro newidiadau dros amser. I'r perwyl hwn, mae'n bwysig ein bod yn gofyn i bob gwenynwr roi gwybod i ni faint o gychod gwenyn y mae'n berchen arnynt ar 1 Tachwedd 2025. Mae defnyddio'r dyddiad hwn yn ein helpu i sicrhau cysondeb ledled y wlad drwy adlewyrchu'r sefyllfa genedlaethol ar adeg benodol. Os nad oedd gennych unrhyw nythfeydd ar y dyddiad hwnnw, mae'n bwysig eich bod yn diweddaru eich cofnod BeeBase i gadarnhau hyn. A fyddech cystal â rhoi'r wybodaeth hon erbyn 31 Rhagfyr.

Cliciwch ar y ddolen hon i ddiweddaru eich Cyfrif Cychod Gwenyn.

Mae angen eich enw defnyddiwr i fewngofnodi – nodwch nad yw hwn yr un fath â'ch cyfeiriad e-bost.

Mae ein Cwestiynau Cyffredin yn rhoi canllawiau ar sut i ddiweddaru BeeBase. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau eraill nad ymdrinnir â hwy yma, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy:

E-bost: [email protected]

Ffôn: 0300 3030094

cychod mewn cae o dafod yr ych

Dylech fod yn ymwybodol y byddwn yn ymdrin â nifer mawr iawn o alwadau ac ymholiadau gan wenwynwyr. Fodd bynnag, byddwn yn anelu at ymateb i'ch ymholiad o fewn pum diwrnod gwaith

Mae cael mwy o wybodaeth am nifer y cychod gwenyn yn y DU yn rhan o fentrau y mae'r llywodraeth wedi ymrwymo iddynt er mwyn cymryd camau i wella iechyd ein pryfed peillio. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau poblogaeth ffyniannus a chynaliadwy o bryfed peillio. Nodir ein mentrau yn y canlynol:

Nododd y cyfrif yn 2024 fod tua 252,647 o gychod gwenyn mêl yn y DU. 

Diolch i chi ymlaen llaw am eich cymorth yn y prosiect hwn.

Yr Uned Wenyn Genedlaethol

Canlyniadau hanesyddol

2017 - 252,000
2018 - 244,000
2019 - 264,000
2020 - 260,000
2021 - 272,631
2022 - 288,311
2023 - 252,577
2024 - 252,647