Diogelu gwenyn mêl a diogelu defnyddwyr
Mae'r tudalennau hyn yn disgrifio'r agweddau ar ein gwaith sy'n ymwneud â diogelu'r amgylchedd a diogelwch bwyd.
Mae'r UWG wedi'i gontractio i gymryd samplau o fêl yn uniongyrchol gan wenynwyr ar ran Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) Defra fel rhan o raglen monitro gweddillion statudol Defra, sef y Cynllun Gwyliadwriaeth Cenedlaethol. Mae gan bob un o Aelod-wladwriaethau'r UE gyfrifoldeb statudol i fonitro bwyd i weld a yw'n cynnwys gweddillion er mwyn diogelu defnyddwyr. Mae'r cynllun hwn yn helpu i ddiogelu defnyddwyr drwy leihau'r risg y bydd gweddillion mewn mêl a gynaeafwyd yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd.
Mae'r UWG hefyd yn gweithio gyda'r Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt (WIIS) sy'n monitro effeithiau plaleiddiaid ar fywyd gwyllt, anifeiliaid anwes a phryfed buddiol (megis gwenyn mêl a chacwn).
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yw'r awdurdod rheoleiddio yn y DU ar gyfer cynhyrchion plaleiddiaid. Gellir rhannu plaleiddiaid yn ddau gategori, sef y rhai a ddefnyddir ym meysydd amaethyddiaeth a garddwriaeth ac yng ngerddi cartrefi a'r rhai a ddefnyddir ym maes hylendid cyhoeddus.