Sut rydym yn defnyddio cwcis

Dim ond cwcis sy'n <b>gwbl angenrheidiol</b> i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n gywir y mae'r wefan hon yn eu defnyddio.

Please read about .getTranslation('how we use cookies').

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon.

Rydych chi wedi dewis cwcis angenrheidiol yn unig

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Cynllunio wrth gefn

Mae'r UWG, ar y cyd â Defra a Llywodraeth Cymru, wedi datblygu cynlluniau wrth gefn a mesurau gwyliadwriaeth er mwyn gallu mynd i'r afael ag achosion o bla egsotig neu glefyd. Ers 2003, mae Arolygwyd Gwenyn Penodedig wedi bod yn cynyddu'r Rhaglenni Gwyliadwriaeth Statudol er mwyn monitro'n benodol am Aethina tumida - Chwilen Fach y Cwch, gwiddon Tropilaelaps a Vespa velutina, sef cacynen Asiaidd.

Mae'r UWG yn defnyddio BeeBase wedi'i gysylltu â Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol er mwyn helpu i flaenoriaethu'r rhaglen hon a thargedu ‘Gwenynfeydd lle Ceir Risg,' er enghraifft:

  • Gwenynfeydd sydd wedi'u lleoli'n agos (<10km) at feysydd sifil a milwrol;
  • Depos cludo nwyddau a phorthladdoedd cyrraedd ar gyfer ffrwythau a bwydydd eraill;
  • Gwenynfeydd sy'n perthyn i fewnforwyr gwenyn a gwenynfeydd o'u hamgylch.

Cynllunio wrth gefn

At hynny, mae'r UWG, mewn cydweithrediad â chymdeithasau a gwenynwyr lleol, yn cynnal ymarferion argyfwng blynyddol mewn sawl rhanbarth. Mae ein cynlluniau wrth gefn yn nodi'r ymateb i achos o bla egsotig os canfyddir naill ai Chwilod Bach y Cwch, Tropilaelaps spp. neu Gacwn Asiaidd yn y DU.

Caiff mesurau brys eu rhoi ar waith er mwyn asesu maint y pla yn gyflym ac yna caiff y pla ei ddileu, os yw'n bosibl. Fodd bynnag, os bydd y pla yn ymsefydlu ac na ellir ei ddileu, rhoddir polisi cyfyngu a rheoli ar waith. Bydd y dull gweithredu a fabwysiedir yn dibynnu'n fawr ar faint y pla. Mae trefniadau tebyg yn gymwys yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dilynwch y ddolen er mwyn lawrlwytho ein camau gweithredu arfaethedig os caiff pla egsotig neu glefyd sy'n effeithio ar wenyn mêl eu cyflwyno i Gymru neu Loegr.

Newydd: Dadansoddiad o Risg Pla Cyflym Tropilaelaps

Yn dilyn y canfyddiadau a gadarnhawyd o widdon Tropilaelaps yn Rwsia a Georgia, mae pryderon wedi cael eu mynegi bod yr ectoparasitiaid mag gwenyn mêl hyn yn lledaenu. O ganlyniad, mae Defra wedi paratoi Dadansoddiad o Risg Pla (PRA) Cyflym i ailasesu'r risg y mae'r widdon Tropilaelaps yn ei pheri i wenynyddiaeth y DU. Darllenwch y Dadansoddiad o Risg Pla Cyflym yn ei gyfanrwydd yma. 

Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) Asesiad o'r Risg y bydd Pla Gwenyn yn Cyrraedd yr UE

Mae EFSA wedi cyhoeddi adroddiad sy'n nodi llwybrau sy'n peri risg sylweddol y gallai plâu egsotig megis Chwilen Fach y Cwch a Tropilaelaps gyrraedd yr UE. Mae'r asesiad risg a gynhaliwyd gan Iechyd a Lles Anifeiliaid (AHAW) yn ystyried pob un o'r ffyrdd posibl y gallai plâu gyrraedd yr UE.

Mae tudalennau adroddiad EFSA yn cynnwys rhagor o wybodaeth am fannau cyrraedd posibl, gan gynnwys:

  • Plâu yn cyrraedd yr UE gyda gwenyn a fewnforir;
  • Cynhyrchion gwenyn a fewnforir;
  • Gwenyn a fewnforir yn anfwriadol mewn llwythi o nwyddau nad ydynt yn wenyn.

Maent hefyd yn cynnwys papur sy'n nodi barn wyddonol panel EFSA ar y risg y bydd Chwilod Bach y Cwch a Tropilaelaps spp yn cyrraedd yr UE.

Colocwiwm Gwyddonol XVIII EFSA

Ym mis Mai 2013, cynhaliwyd Colocwiwm Gwyddonol XVIII EFSA yn Parma yn yr Eidal lle yr ymgasglodd mwy na 100 o arbenigwyr ym maes gwenyn er mwyn trafod sawl straenachosydd sy'n effeithio ar iechyd gwenyn. Yn y Colocwiwm, a oedd yn dwyn y teitl "Towards a holistic approach to the risk assessment of multiple stressors in bees", trafodwyd pedair thema yn fanwl, sef:

  1. Yr hyn sydd angen ei ddiogelu mewn cyd-destun amgylcheddol mewn caeau ('in-field') ac yn yr ardal o'u hamgylch ('off-field')?
  2. Pa adnoddau sydd ar gael i asesu effeithiau ar wasanaethau peillio a achosir gan effeithiau ar wenyn a beth yw'r heriau sy'n gysylltiedig ag asesu'r effeithiau hynny?
  3. Pa effeithiau y gellid eu goddef (h.y. ar wenyn, cnydau a phlanhigion gwyllt) dros ba raddfeydd gofodol ac amserol a pha ddulliau sydd ar gael i nodi effeithiau o'r fath?
  4. Beth yw'r mesurau lliniaru i ddiogelu gwenyn, gwasanaethau peillio a phlanhigion?

Ceir rhagor o fanylion am y digwyddiad, gan gynnwys cyflwyniadau ac anerchiadau a roddwyd gan y panel, yma.