Caiff clefyd amebig ei achosi gan y parasit ungellog Malpighamoeba mellificae. Mae M. mellificae yn effeithio ar y tiwbynnau Malpighi mewn gwenyn llawndwf ac yn aml ymddengys ei fod yn gysylltiedig â haint Nosema apis. Defnyddir y tiwbynnau Malpighi mewn gwenyn mêl ar gyfer ysgarthu ac osmoreolaeth (rheoli lefelau hylif yn y corff).Bydd yr amebâu yn niweidio'r tiwbynnau, sy'n amharu ar allu'r lletywr i brosesu dŵr a thocsinau amgylcheddol ac yn achosi i'r wenynen letyol ddargadw dŵr.
Adnabod haint amebig
Mae'n bosibl na fydd haint ag amebâu bob amser yn dangos arwyddion, ond gall achosi dysentri, chwyddo yn yr abdomen a marwolaeth. Mae diagnosis yn dibynnu ar archwilio gwenyn llawndwf o dan ficrosgop i weld a oes cystiau amebig yn bresennol.
Trosglwyddo
Mae'r gwenyn yn cael eu heintio drwy fwyta cystiau'r organeb hon a drosglwyddir drwy'r llwybr ysgarthion-ceg. Mae cystiau yn egino yn y coluddyn ac yn ymledu i'r tiwbynnau Malpighi. Caiff cystiau newydd eu ffurfio, sy'n mynd i mewn i rectwm y wenynen ac yn cael eu hysgarthu yn yr ysgarthion. Bydd yr ysgarthion yn heintio'r crwybrau yn y cwch gwenyn ac yn ailheintio gwenyn eraill, a gellir ei drosglwyddo i nythfeydd eraill drwy symud crwybrau wedi'u heintio iddynt.
Mae dysentri yn amlygu ei hun mewn sawl clefyd sy'n effeithio ar wenyn llawndwf
Triniaeth
Nid oes unrhyw gynhyrchion meddyginiaethol ar gael i drin dysentri amebig ond dylai gosod crwybrau newydd yn lle rhai sydd wedi'u halogi ddileu'r haint. Os amheuir eu bod wedi'u heintio, gellir trin fframiau a dynnir o'r nythfa ag asid asetig, a fydd yn lladd yr amebâu. Gall cystiau o amebâu oroesi am 5-6 mis mewn dyddodion ysgarthol ar grwybrau. Felly, gallant heintio nythfeydd eraill os caiff crwybrau wedi'u heintio eu symud rhwng nythfeydd yn ystod y cyfnod hwn
Bwydo â siwgr a dysentri
Gall dysentri ddigwydd os bydd gwenyn yn bwyta siwgr o ffynonellau anaddas, megis mêl neu siwgr â lefelau rhy uchel o gynnwys lleithder. Pan fydd hyn yn digwydd, ni all gwenyn ddargadw'r swm mawr o ddŵr sy'n cronni yn eu perfedd, sy'n arwain at ddysentri.
Gall cyflenwadau wedi'u heplesu neu wedi'u gronynnu'n fras ysgogi dysentri, yn ogystal â swcros asid-wrthdroëdig (nid yw swcros sydd wedi'i wrthdroi gan ddefnyddio ensymau yn ysgogi dysentri). Er y credir weithiau fod swcros asid-wrthdroëdig yn addas ar gyfer gwenyn am ei fod yn debyg i fêl, mae'n cynnwys tocsinau sy'n achosi i fwy o ddŵr gronni yn y perfedd. Mae surop siwgr wedi'i wneud â swcros pur yn opsiwn gwell; nid oes angen ei wrthdroi.
Er mwyn helpu i leihau'r risg o ddysentri a achosir drwy fwydo gwenyn â siwgr o ffynonellau anaddas, dilynwch yr arferion canlynol:
- Dilynwch arferion hwsmonaeth a rheoli gwenynfa da; maent yn hanfodol i gynnal stociau iach ac egnïol a all wrthsefyll heintiau yn well.
- Peidiwch â bwydo gwenyn â mêl neu siwgrau wedi'u heplesu.
- Defnyddiwch swcros pur, siwgr gwyn neu gymysgeddau surop parod yn unig (megis Ambrosia neu rywbeth tebyg). Peidiwch â defnyddio siwgr coch.
- Rhowch y gorau i fwydo gwenyn yn yr hydref/bwydo gwenyn â surop cyn i'r tywydd ddechrau oeri er mwyn rhoi amser i'r nythfa fynd â'r surop siwgr i lawr, sy'n golygu y gallant leihau ei gynnwys dŵr i lefel ddiogel cyn dechrau'r gaeaf.
Gweler ein ‘Canllaw arfer gorau Rhif 7 bwydo gwenyn – siwgr’.