Sut rydym yn defnyddio cwcis

Dim ond cwcis sy'n <b>gwbl angenrheidiol</b> i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n gywir y mae'r wefan hon yn eu defnyddio.

Please read about .getTranslation('how we use cookies').

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon.

Rydych chi wedi dewis cwcis angenrheidiol yn unig

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Gwiddon traceol

Endoparasit yw Acarapis woodi. Mae'n mynd yn bla ar diwbiau anadlu (traceau) gwenyn ac yn achosi niwed iddynt. Dyma gyfrwng achosol y clefyd ‘acarin’. Mae gwenyn mêl yn anadlu drwy ddeg pâr o dyllau bach o'r enw sbiraglau. Maent yn rhedeg ar hyd eu thoracs a'u habdomen. Mae'r tyllau yn arwain at diwbiau a elwir yn draceau, sy'n rhedeg drwy bob rhan o gorff y wenynen er mwyn i'r ocsigen gael ei gludo'n uniongyrchol i bob un o'r meinweoedd. Pan fydd gwiddon A. woodi yn mynd i mewn i draceau'r wenynen, bydd y gwiddon yn rhwystro'r tiwbiau, sy'n lleihau faint o ocsigen sy'n symud i'r cyhyrau hedfan a'r ymennydd.  Mae plâu difrifol yn cwtogi ar rychwant oes y gwenyn.

Adnabod arwyddion o acarin

Gall gwiddon traceol fod yn bla ar bob cast; brenhines, gwenyn gweithgar ac yn arbennig wenyn gormes. Mae gwenyn llawndwf o dan bla o widdon traceol yn clystyru o flaen y cwch, gan ymddangos fel petaent wedi drysu, ac yn methu â dychwelyd i'r nythfa. Mae'n bosibl y bydd niferoedd mawr o wenyn yn cael eu gweld yn ymlusgo i fyny coesynnau glaswellt o flaen y cwch. Nid yw ymddygiadau o'r fath yn unigryw i acarin. Gallant fod yn gysylltiedig â phlâu a chlefydau eraill, megis Nosema. Gall gwenyn o dan bla mawr o widdon ymddwyn mewn ffordd arferol er bod eu traceau wedi'u niweidio. Dyrannu gwenyn a chanfod gwiddon yn y traceau o dan ficrosgop pŵer isel yw'r unig ddull dibynadwy o gael diagnosis.

Micrograff electron o widdonyn Acarapis woodi mewn du a gwyn. Mae gan y gwiddonyn wyth coes fer a blew ar ei gorff.

Micrograff electron o widdonyn A. woodi sy'n achosi clefyd acarin

Trosglwyddo 

Rhaid i widdon benyw llawndwf wedi paru adael eu gwenynen fêl letyol i fynd yn bla ar wenynen lawndwf newydd. Dyma'r unig dro y caiff gwiddon eu gweld yn allanol ar y gwenyn. Ni all gwiddon traceol oroesi am fwy nag ychydig oriau y tu allan i'w gwenynen letyol ac, felly, mae'r trosglwyddiad hwn yn digwydd mor gyflym â phosibl mewn nythfa. Mae'r gwiddonyn benyw yn gadael tracea'r wenynen drwy'r sbiragl ac yn defnyddio ei choesau ôl i'w hangori ei hun wrth un o flew corff y wenynen. Mae'n estyn ei choesau blaen i gydio ym mlew gwenynen arall sy'n mynd heibio ac yn trosglwyddo i'w lletywr newydd. 

Dim ond gwenyn ifanc yn ystod eu pedwar diwrnod cyntaf yn llawndwf sy'n dueddol o fod yn agored i bla, am nad yw'r blew yn y tracea wedi caledu'n llwyr, sy'n golygu y gall gwiddon fynd i mewn. Er mwyn i'r gwiddon ledaenu bydd angen gwenyn ifanc yn bresennol yn y nythfa a'u cysylltiad agos â gwenyn hŷn o dan bla. 

Caiff gwiddon traceol eu gwasgaru rhwng nythfeydd wrth i wenyn o nythfeydd llawn pla drosglwyddo i nythfeydd heb bla drwy ddrifftio a dwyn. 

Triniaeth

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw driniaethau cymeradwy ar gyfer Acarin. Y dull rheoli gorau sydd ar gael yw i'r gwenynwr cyflwyno breninesau newydd i nythfeydd sy'n agored i'r clefyd.  

Rhagor o Wybodaeth