Sut rydym yn defnyddio cwcis

Dim ond cwcis sy'n <b>gwbl angenrheidiol</b> i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n gywir y mae'r wefan hon yn eu defnyddio.

Please read about .getTranslation('how we use cookies').

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon.

Rydych chi wedi dewis cwcis angenrheidiol yn unig

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Datganiad am Gefnogi Digwyddiadau Penwythnos

Mae Uned Wenyn Genedlaethol APHA yn cydnabod y rôl bwysig y mae digwyddiadau penwythnos yn ei chwarae wrth gefnogi hyfforddiant, gweithgarwch ymgysylltu ac addysg ym mhob rhan o'n sector sy'n cynnwys gwenynwyr hamdden yn bennaf, ac rydym yn ymrwymedig i weithio'n adeiladol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn cynyddu gwerth ac effaith y cyfleoedd hyn i'r eithaf ble bynnag y bo modd. Fodd bynnag, mae ein sefydliad yn gweithredu o fewn model gweithlu y bwriedir iddo ddarparu gwasanaethau craidd yn ystod wythnos waith safonol. Fel nifer o gyrff eraill yn y sector cyhoeddus, rhaid i ni gydbwyso adnoddau cyfyngedig yn erbyn amrywiaeth eang o gyfrifoldebau statudol a blaenoriaethau gweithredol. Mae'n anochel bod hyn yn cyfyngu ar ein gallu i gefnogi gweithgarwch ar raddfa y tu allan i oriau ac ar y penwythnos yn rheolaidd.

Lle y gallwn gyfrannu at ddigwyddiadau penwythnos, caiff hyn ei ystyried fesul achos, gan ystyried pwysau gweithredol, gwerth am arian, a'r manteision posibl i'n hamcanion strategol. Mewn sawl achos, rhaid i'n hadnoddau barhau i ganolbwyntio ar wasanaethau rheng flaen critigol a swyddogaethau hanfodol.

Rydym yn cydnabod y gall hyn fod yn siomedig i drefnwyr a rhanddeiliaid, ond rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydweithio i ystyried ffyrdd amgen cynaliadwy ac effeithiol o gefnogi gweithgarwch ymgysylltu, gan gynnwys cryfhau ein ffocws ar ddarparu deunyddiau cefnogi hyfforddiant ac adnoddau digidol o ansawdd uchel. Yn aml, mae'r dulliau hyn yn cael effaith ehangach sy'n para'n hirach na mynychu digwyddiadau unigol yn unig.