Mae dau glefyd mag difrifol sy'n effeithio ar wenyn mêl yn y DU sy'n hysbysadwy ar hyn o bryd ac yn cael eu rheoli o dan Orchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006. Clefyd Americanaidd y gwenyn a chlefyd Ewropeaidd y gwenyn yw'r rhain. Yr Uned Wenyn Genedlaethol (UWG) sy'n gyfrifol am reoli Clefyd Americanaidd y Gwenyn a Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn ac mae’n cynnal rhaglen archwilio seiliedig ar risg ar nythfeydd cofrestredig ledled Cymru a Lloegr. Os ydych yn cadw nythfeydd gwenyn mêl yng Nghymru neu Loegr, efallai y bydd yr UWG yn cysylltu â chi er mwyn trefnu i’ch gwenyn gael eu harchwilio.
Os bydd gennych unrhyw bryderon am iechyd eich nythfeydd, p'un a ydych wedi'ch cofrestru ai peidio, gallwch gysylltu â'ch Arolygydd Gwenyn lleol er mwyn gwneud cais am ymweliad; hyd yn oed os na fydd eich nythfeydd wedi'u heintio â chlefyd, mae bob amser yn well bod yn ddiogel nag edifar.
Beth fydd yn digwydd os canfyddir clefyd y gwenyn yn fy ngwenynfa?
Os oes amheuaeth bod clefyd y gwenyn mewn gwenynfa, bydd arolygydd gwenyn awdurdodedig yn ymweld ac yn archwilio'r nythfeydd. Bydd yn profi unrhyw larfâu lle mae amheuaeth bod clefyd Ewropeaidd y gwenyn neu glefyd Americanaidd y gwenyn yn bresennol drwy ddefnyddio dyfais llif unffordd yn y maes. Yna, bydd yn anfon y ddyfais ac unrhyw samplau a gymerwyd yn ystod yr archwiliad i'r labordy i'w dadansoddi. Os bydd yr arolygydd gwenyn awdurdodedig yn amau clefyd y gwenyn, bydd yn cyflwyno ‘Hysbysiad Gwahardd Symud’ sy'n atal gwenyn, cynhyrchion gwenyn a chyfarpar rhag cael eu symud o'r wenynfa. Os bydd dadansoddiad y labordy yn cadarnhau achosion o glefyd y gwenyn, bydd yr arolygydd gwenyn awdurdodedig yn goruchwylio'r mesurau rheoli clefyd angenrheidiol. Caiff nythfeydd sydd wedi'u heintio â chlefyd Ewropeaidd y gwenyn eu dinistrio neu eu trin gan ddefnyddio’r dechneg ysgwyd haid yn dibynnu ar lefel y clefyd, maint y nythfa a’r adeg o’r flwyddyn. Caiff pob nythfa sydd wedi’i heintio â chlefyd Americanaidd y gwenyn ei dinistrio. Bydd yr arolygydd gwenyn awdurdodedig yn archwilio pob nythfa sydd wedi dod i gysylltiad â'r nythfa/nythfeydd heintiedig a bydd am weld cyfarpar wedi’i storio.
O leiaf 6 wythnos ar ôl y driniaeth, bydd yr arolygydd gwenyn awdurdodedig yn dychwelyd i gynnal archwiliad dilynol. Os na fydd unrhyw arwyddion pellach o glefyd, caiff yr hysbysiad gwahardd symud ei dynnu'n ôl. Fel arfer, bydd yr arolygydd gwenyn awdurdodedig yn ymweld eto yn ystod y tymor canlynol er mwyn bod yn siŵr bod y clefyd wedi'i reoli'n llwyr. Crynhoir y weithdrefn hon yn y siart lif isod.
Amlinelliad syml o’r broses statudol a ddilynir pan fydd nythfeydd yn profi’n bositif ar gyfer clefyd Ewropeaidd y gwenyn. Nodir y camau sydd i’w cymryd gan wenynwyr yn y blwch glas golau.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Os cadarnheir bod eich nythfeydd wedi’u heintio â chlefyd y gwenyn, gofynnir i chi wneud paratoadau i’r nythfeydd heintiedig gael eu trin gan ddefnyddio’r dechneg ysgwyd haid neu eu dinistrio cyn i’r arolygydd gwenyn awdurdodedig ddychwelyd i roi’r driniaeth angenrheidiol. Gofynnir i chi gynorthwyo’r arolygydd gwenyn awdurdodedig ar y diwrnod y caiff y nythfeydd eu trin gan ddefnyddio’r dechneg ysgwyd haid neu eu dinistrio. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r camau y bydd angen i wenynwyr eu cymryd.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am sut i adnabod clefyd y gwenyn a'i atal, darllenwch ein ‘taflen gynghorol ar glefyd y gwenyn mewn gwenyn mêl.
Mae dau bla egsotig sy'n fygythiad i wenyn mêl, sef Chwilen Fach y Cwch (Aethina tumida) a gwiddonyn Tropilaelaps spp. sy'n hysbysadwy ledled Ewrop ac, felly, maent yn destun mesurau gwyliadwriaeth a rheoli statudol. Am ragor o wybodaeth am y plâu hyn, ewch i'n hadran ar Blâu Egsotig.