Ym mis Rhagfyr 2025, cadarnhaodd Defra na ofynnir i'r UWG ymgymryd â gwaith trapio yn y gwanwyn mewn perthynas â chacwn melyngoes yn Lloegr yn 2026. Gwnaed y penderfyniad hwn mewn ymateb i'r nifer mawr o nythod a ganfuwyd tua diwedd y tymor yn ystod 2025 a'u dosbarthiad daearyddol.
Yng nghyfarfod y Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn (BHAF) a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, rhoddodd myfyrwraig PhD o Fera gyflwyniad am y gwaith a wnaeth yn ystod ei PhD ar ddadansoddiadau perthyn o nythod cacwn melyngoes a ganfuwyd ac a ddinistriwyd yn Lloegr rhwng 2016 a 2024. Awgrymodd canlyniadau'r dadansoddiadau hyn fod poblogaeth sefydledig fach o gacwn melyngoes yn Lloegr. Mae'n debygol y bydd tystiolaeth bellach o berthyn o'r dadansoddiadau o nythod a ddinistriwyd yn 2025 (cyflwynir adroddiad yn fuan). Serch hynny, mae Defra yn ymrwymedig o hyd i gymryd camau yn erbyn cacwn melyngoes ac mae wedi gofyn i'r UWG gymryd camau i ddod o hyd i nythod a'u dinistrio yn ddiweddarach yn ystod tymor 2026.
Gyda'r canfyddiadau hyn a nifer y samplau dan sylw, mae wedi bod yn anodd i'r labordy gwblhau dadansoddiadau o gacwn melyngoes er mwyn darparu gwybodaeth mewn modd amserol er mwyn i'r maes addasu yn ystod yr ymateb byw i gacwn melyngoes. O ganlyniad, ni fydd Fera yn cael ei gomisiynu i gynnal dadansoddiadau genetig o gacwn melyngoes a ganfyddir yn Lloegr yn 2026
Yn Lloegr, yn flaenorol, ymatebodd yr UWG i achosion credadwy o weld cacwn melyngoes yn y gwanwyn ac yna trefnodd gasglu'r sampl. Fodd bynnag, gan na fydd y samplau hyn yn cael eu dadansoddi, er y byddwn yn parhau i gysylltu â'r sawl a roddodd wybod am yr achos o weld cacynen felyngoes, ni fydd unrhyw samplau'n cael eu casglu. Gofynnwch i'ch aelodau a'ch timau Cacwn Asia Melyngoes barhau i roi gwybod am achosion o weld cacwn melyngoes fel y bydd gennym gofnodion o ble a faint o gacwn sydd wedi cael eu gweld er mwyn llywio datblygiadau yn ddiweddarach yn y tymor. Caiff crynodeb o'r canfyddiadau hyn ei gyhoeddi o hyd bob wythnos drwy'r Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn a'i ddiweddaru ar BeeBase.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r UWG i ymgymryd â gwaith trapio yn y gwanwyn yng Nghymru a bydd yn dilyn y broses a sefydlwyd yn flaenorol. Caiff y sefyllfa o ran dadansoddiadau genetig o gacwn melyngoes a ganfyddir yng Nghymru ei chadarnhau ar wahân.
Yn ddiweddarach yn ystod y tymor pan fydd nythod yn fwy tebygol o fod yn bresennol, mae Defra wedi gofyn i'r UWG ymateb i achosion credadwy o weld cacwn melyngoes er mwyn dod o hyd i nythod a'u dinistrio.
Rydym yn ddiolchgar iawn am y camau a gymerwch a'r cymorth a roddwch wrth ddelio â chacwn melyngoes.
Tîm Polisi Iechyd Gwenyn Defra
Cofion cynnes,