Cadwch eich gwenyn yn iach y tymor hwn. Darllenwch ein llyfryn wedi'i ddiweddaru ar ‘blâu, clefydau ac anhwylderau cyffredin mewn gwenyn mêl llawndwf’. Mae'n ganllaw hanfodol i bob gwenynwr, sy'n llawn cyngor ymarferol ar sut i adnabod a rheoli plâu, clefydau ac anhwylderau cyffredin sy'n effeithio ar wenyn mêl llawndwf. O feirysau fel feirws adenydd wedi'u hanffurfio a pharlys cronig y gwenyn i barasitiaid fel nosema a gwiddon traceol; mae'n esbonio symptomau, mesurau atal ac opsiynau o ran triniaeth mewn camau clir sy'n hawdd i'w dilyn. P'un a ydych yn ddechreuwr neu'n wenynwr profiadol, bydd yr adnodd hwn yn eich helpu i ddiogelu eich gwenyn a sicrhau gwenynfa iach a chynhyrchiol.