Sut rydym yn defnyddio cwcis

Dim ond cwcis sy'n <b>gwbl angenrheidiol</b> i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n gywir y mae'r wefan hon yn eu defnyddio.

Please read about .getTranslation('how we use cookies').

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon.

Rydych chi wedi dewis cwcis angenrheidiol yn unig

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Anfon samplau i'r labordy

Clefyd y Gwenyn

Os byddwch yn amau bod eich nythfeydd wedi'u heintio â chlefyd y gwenyn, rhaid i chi gysylltu â ni neu'ch arolygydd lleol.  Os na all eich Arolygydd lleol ymweld â'r wenynfa yn brydlon, gallwch anfon sampl wirfoddol o grwybr neu larfa i'n labordy drwy ddefnyddio ein ffurflen cyflwyno sampl wirfoddol. Gellir defnyddio'r ffurflen ar gyfer plâu egsotig a amheuir hefyd. Os felly, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl ar y ffurflen er mwyn i ni allu cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.  

European foulbrood and American foulbrood disease signs

Diagnosis o glefyd mewn gwenyn llawndwf

Nid yw'r Uned Wenyn Genedlaethol yn cynnal profion ar wenyn am Nosema spp., ameba ac acarin (gwiddon traceol). Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i derfynu.

Fodd bynnag, gall gwenynwyr yn yr Alban ddefnyddio gwasanaeth diagnostig am ddim i sgrinio am Nosema spp., acarin a gwiddon Varroa. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Gwenyna yn yr Alban

Achosion o wenwyno gwenyn a amheuir 

Mewn achosion lle yr amheuir bod gwenyn mêl wedi'u gwenwyno bydd ymchwiliad fel rhan o'r Cynllun Ymchwiliadau Bywyd Gwyllt gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cymru neu Natural England ar gyfer Lloegr. Wrth ymateb i achos o wenwyno a amheuir, rôl yr UWG yw cadarnhau nad oes unrhyw beth arall wedi achosi marwolaeth y nythfa megis clefyd, a chasglu sampl o wenyn os na fydd un eisoes wedi'i darparu. Os amheuir bod achos o wenwyno, caiff y sampl hon ei throsglwyddo i Fera Science Ltd am ddadansoddiad plaleiddiaid. 

Os byddwch yn amau bod eich gwenyn wedi'u gwenwyno, cysylltwch â ni neu'ch arolygydd lleol.  Ar ôl i chi gysylltu â ni, bydd eich arolygydd lleol yn cysylltu â chi ac mae'n bosibl y bydd yn trefnu i ymweld â'ch gwenynfa. Bydd yr arolygydd yn asesu'r sefyllfa a chyflwr y gwenyn. Os bydd yn canfod rheswm dros amau fod achos o wenwyno wedi digwydd, bydd yn cymryd sampl o wenyn.

Cyn yr ymweliad, mae'n bosibl y cewch eich cynghori i gasglu'n ofalus sampl o'r gwenyn yr effeithiwyd arnynt. Gwisgwch fenig untro a chasglwch o leiaf 200 o'r gwenyn yr effeithiwyd arnynt; dyma'r isafswm sydd ei angen i gynnal dadansoddiad gwenwyn. Dyma'n fras nifer y gwenyn a fydd yn ffitio i mewn i flwch matsis mawr 12 cm o hyd a 6.5 cm o led. Gellir storio'r rhain yn y rhewgell hyd nes i'r arolygydd gwenyn ofyn amdanynt. 

Os bydd yr arolygydd yn gofyn i chi anfon sampl i'r labordy, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, dull adnabod gwenynwr, dyddiad a gwybodaeth am ba arwyddion a welsoch a wnaeth beri i chi amau achos o wenwyno wrth anfon y sampl. Dylid pacio'r sampl yn ddiogel, ond ddim mewn bag plastig ac, yn ddelfrydol, heb ei gwasgu, a'i hanfon i'r cyfeiriad ar waelod y dudalen. Peidiwch ag anfon samplau hyd nes y gofynnir i chi wneud hynny. 

Achosion o blâu egsotig a amheuir 

Dylai gwenynwyr fod yn gyfarwydd â'r plâu egsotig, chwilod bach y cwch gwenyn (Aethina tumida) a gwiddon Tropilaelaps spp, a'r risgiau y maent yn eu peri. Os byddwch yn amau eich bod wedi canfod y naill neu'r llall o'r plâu hyn, cysylltwch â ni neu'ch arolygydd lleol. 

Mae'n bosibl y cewch eich cynghori i anfon sampl i'r labordy adnabod y pla. Os felly, casglwch sampl o'r pryf neu'r gwiddonyn a amheuir, a'i roi yn y rhewgell dros nos. Bydd hyn yn ei ladd fel na fydd yn dianc wrth gael ei anfon. Paciwch y sbesimen mewn cynhwysydd cadarn addas. Dylid defnyddio cardbord, fel blwch matsis, yn hytrach na phlastig, a'i bacio'n dynn. Cofiwch gynnwys ffurflen cyflwyno sampl wirfoddol gyda'r pecyn. Pan fyddwch yn llenwi'r ffurflen, rhowch gymaint o fanylion â phosibl am y sampl. 

Small hive beetle and tropilaelaps mite

Os byddwch yn amau eich bod wedi gweld Cacynen Asia, tynnwch lun a'i gyflwyno i'r ap Cacwn Asia ar gyfer iPhone neu ar gyfer Android. I gael rhagor o arweiniad ar yr hyn i'w wneud os credwch eich bod wedi gweld Cacynen Asia, darllenwch ein tudalen we ‘Rydych yn credu eich bod wedi gweld Cacynen Asia, felly?’.

Mewnforion 

Rhaid rhoi gwybod am unrhyw fewnforion drwy'r Gwasanaeth Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS). Rhaid trosglwyddo breninesau wedi'u mewnforio i gewyll newydd cyn iddynt gael eu cyflwyno i nythfeydd. Rhaid anfon y cewyll gwreiddiol, y gwenyn gweithgar ac unrhyw ddeunydd arall sy'n cyd-fynd â'r breninesau, i'r labordy i'w harchwilio ymhen 5 diwrnod i'w derbyn. Sicrhewch eu bod wedi'u pacio'n dynn fel na all ddim byd ddianc. Cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad a’ch rhif cyswllt gyda'r parsel. Sicrhewch fod eich Rhif Cyfeirnod Unigryw IPAFFS wedi'i ysgrifennu'n glir ar ochr allanol y parsel. Nid oes ffi am y gwiriadau hyn. 

I gael rhagor o arweiniad ar roi gwybod am freninesau wedi'u mewnforio, gweler yr adran Cwestiynau Cyffredin ar ein tudalen Mewnforion ac Allforion.

Costau Postio

Cofiwch fod yn rhaid i chi dalu'r costau danfon os byddwch yn anfon samplau i'r Uned Wenyn Genedlaethol. 

Anfonwch y samplau i'r cyfeiriad canlynol:

Bee Health laboratory, Lab 02G06, York Biotech Campus, Sand Hutton, York, YO41 1LZ