Sut rydym yn defnyddio cwcis

Dim ond cwcis sy'n <b>gwbl angenrheidiol</b> i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n gywir y mae'r wefan hon yn eu defnyddio.

Please read about .getTranslation('how we use cookies').

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon.

Rydych chi wedi dewis cwcis angenrheidiol yn unig

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Mesurau diogelu ar wenyn mêl a chynhyrchion gwenynyddiaeth o Wcráin

Mae'r gwiddonyn Tropilaelaps yn peri risg bioddiogelwch sylweddol i boblogaeth gwenyn Prydain Fawr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae poblogaeth Tropilaelaps mercedesae wedi lledaenu tua'r gorllewin o'i chynefin brodorol yn Asia. Mae poblogaethau bellach wedi cael eu cadarnhau yng ngorllewin Rwsia a Georgia. Mae gwyliadwriaeth ar gyfer y gwiddonyn Tropilaelaps yn Wcráin yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Gan ystyried lledaeniad parhaus y pla tua'r gorllewin ar draws cyfandir Ewrop a'r heriau sy'n gysylltiedig â'i synhwyro, ceir pryderon efallai nad yw'r ymdrechion gwyliadwriaeth presennol yn ddigonol i nodi ei bresenoldeb mewn ffordd ddibynadwy.

Rydym yn cyflwyno mesurau diogelu dros dro i atal allforion gwenyn mêl, cynnyrch gwenynyddiaeth penodol a chyfarpar gwenyna wedi'u defnyddio o Wcráin er mwyn diogelu bioddiogelwch Prydain Fawr.

 

O 7 Hydref 2025 ymlaen, gwaherddir allforio'r cynnyrch gwenyn a gwenynyddiaeth canlynol i Brydain Fawr o Wcráin:

  • gwenyn mêl
  • sgil-gynhyrchion gwenynyddiaeth heb eu prosesu
  • cyfarpar gwenyna wedi'u defnyddio 
  • cynnyrch gwenynyddiaeth mewn crwybrau y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl

 

Camau gweithredu i wenynwyr

Rydym yn gofyn i wenynwyr barhau i fod yn effro i'r risg y gallai Tropilaelaps ymledu. I ddysgu mwy am sut i adnabod Tropilaelaps, darllenwch y dudalen hon.

Dangoswyd bod gwiddonyn Tropilaelaps yn bla hynod symudol y gellir ei gyflwyno'n hawdd i ranbarthau newydd drwy fasnach fyd-eang mewn cwyr gwenyn neu drwy fewnforio gwenyn pecyn neu freninesau. Mae'n hanfodol bod mewnforwyr gwenyn a chynhyrchion gwenyn yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth ynglŷn â mewnforio gwenyn a chynhyrchion gwenyn a'u bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno.