Sut rydym yn defnyddio cwcis

Dim ond cwcis sy'n <b>gwbl angenrheidiol</b> i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n gywir y mae'r wefan hon yn eu defnyddio.

Please read about .getTranslation('how we use cookies').

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon.

Rydych chi wedi dewis cwcis angenrheidiol yn unig

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Ardaloedd risg ar gyfer Cacwn Melyngoes – Gwaith trapio yn y gwanwyn, 2026

Ymhellach i ddatganiad DEFRA ym mis Rhagfyr ynghylch gwaith trapio Cacwn Melyngoes yn y gwanwyn, mae’r gwaith dadansoddi a wnaed gan Fera Science Limited er mwyn helpu i lywio mentrau trapio lleol yn Lloegr bellach wedi’i gwblhau . 

Mae’r gwaith wedi nodi ardaloedd lle y gall fod mwy o risg bod Cacwn Melyngoes yn gaeafu, yn Lloegr. Fe’i gwnaed gan ddefnyddio data o nythod a ddinistriwyd yn 2023 a 2024 er mwyn rhagweld pa nythod yn 2025 a oedd yn fwy tebygol o fod wedi rhyddhau cacwn gormes atgynhyrchiol cyn iddynt gael eu dinistrio yn 2025. 

Yn Lloegr yn 2025, dinistriwyd cyfanswm o 32 o nythod ar 30 Medi neu ar ôl hynny. Mae Fera wedi cyfrifo bod gan y nythod hyn debygolrwydd o gynhyrchu cacwn gormes o rhwng 18-50% erbyn yr adeg honno. Felly, ystyrir bod yr ardaloedd hyn yn wynebu risg uwch. 

Dangosir map sy’n nodi’r nythod cacwn melyngoes a ganfuwyd ac a ddinistriwyd yn 2025 isod. Mae’r nythod hyn wedi’u lliwio yn ôl eu lefel risg a gyfrifwyd. Ceir 32 o nythod risg uchel (coch), 35 o nythod risg ganolig (melyn) a 95 o nythod risg isel (gwyrdd).

Caiff manylion pellach am y nythod yr ystyrir eu bod yn rhai risg uchel â thimau Cymdeithas Gwenynwyr Prydain sy’n cydgysylltu’r gwaith trapio yn y gwanwyn. 

Rhowch wybod am achosion o weld cacwn melyngoes, a elwir hefyd yn gacwn Asia, ar y  ffurflen ar-lein hon neu lawrlwythwch yr ap ‘Asian Hornet Watch’ am ddim ar gyfer dyfeisiau Apple neu ddyfeisiau android.

A map of England showing risk-rated locations of Yellow Legged Hornet nest found in 2025