Mae gan yr Uned Wenyn Genedlaethol dîm o Arolygwyr Gwenyn Penodedig sydd wedi'u lleoli ledled Cymru a Lloegr. Mae'r Arolygydd Gwenyn Cenedlaethol yn rheoli gwasanaeth maes sy'n cynnwys wyth Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol sy'n gyfrifol am reoli eu rhanbarthau unigol a thîm o tua saith Arolygydd Gwenyn Tymhorol.
Mae'r Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol yn cydgysylltu archwiliadau o wenynfeydd a rhaglen hyfforddi i'r rhanbarth o dan reolaeth yr Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol yn cydgysylltu archwiliadau o wenynfeydd a rhaglen a Phennaeth yr Uned Wenyn Genedlaethol. Mae'r Arolygwyr Gwenyn Cenedlaethol a'r Arolygwyr Gwenyn Rhanbarthol yn cael eu cyflogi'n llawn amser drwy gydol y flwyddyn gyda'r Arolygwyr Gwenyn Tymhorol yn cael eu cyflogi yn ystod y tymor gwenyna.
Mae pob Arolygydd Gwenyn yn wenynwr ymarferol profiadol, sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol ar sut i adnabod a rheoli plâu a chlefydau gwenyn. Mae arolygwyr hefyd yn rhoi hyfforddiant a chyngor cynhwysfawr ar reoli gwenynfeydd ac arferion hwsmonaeth da. Yn ogystal ag archwiliadau o wenynfeydd, mae Arolygwyr Gwenyn yn helpu gyda gwahanol brosiectau ymchwil a threialon maes.
I gael manylion cyswllt eich Arolygydd Gwenyn lleol ewch i'r dudalen Manylion cyswllt.