Mae hon yn swydd ddi-dâl, wirfoddol sy'n cefnogi gwaith y Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn a'r gwaith o gyflawni Cynllun Gwenyn Iach 2030 yng Nghymru a Lloegr HBP2030_Welsh_language_version.pdf
Mae gwenyn mêl iach yn hanfodol i amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd ac iechyd yr ecosystem ehangach. Mae gwenyn mêl a reolir yn cefnogi cynnyrch ac ansawdd cnydau, yn cyfrannu at yr economi wledig ac yn cynnig manteision cymdeithasol a llesiant i filoedd o wenynwyr.
Mae cyfle bellach wedi codi i wyddonydd llawn cymhelliant a phrofiadol ymuno â'r Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn (BHAF) fel Cynghorydd Gwyddoniaeth. Mae'r Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn yn dod â swyddogion y Llywodraeth, sefydliadau gwenyna, cynrychiolwyr y sector ac ymchwilwyr ynghyd i weithio mewn partneriaeth ar iechyd gwenyn mêl. Mae'r Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn hefyd yn cefnogi'r broses o gyflawni'r cynllun gweithredu ar gyfer Cynllun Gwenyn Iach 2030 CGI2030_Gweithredu_2025_2027_cym.pdf
Mae'r fforwm yn cyfarfod bob chwarter gyda chyfarfod gwyddoniaeth ychwanegol bob blwyddyn. Caiff cyfarfodydd eu cynnal drwy Microsoft Teams yn bennaf, gydag un cyfarfod wyneb yn wyneb bob blwyddyn.
Mae Cynllun Gwenyn Iach 2030 yn canolbwyntio ar gyflawni pedwar canlyniad allweddol, ac mae ‘gwyddoniaeth a thystiolaeth gadarn yn sylfaen ar gyfer gweithredu i gynnal iechyd gwenyn’ yn un ohonynt. Mae'r canlyniad hwn yn gyson â'r meysydd â blaenoriaeth canlynol o Ddatganiad Gwyddoniaeth y Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn.
Blaenoriaethau Gwyddonol
• Risgiau Newydd a Newidiol – deall plâu, clefydau, llwybrau lledaenu sy'n datblygu, a'r effeithiau amgylcheddol.
• Gwyliadwraeth, Diagnosteg a Bioleg – gwella offer canfod a deall bioleg plâu a chlefydau.
• Rheolaeth Gynaliadwy o Blâu a Chlefydau – cefnogi tystiolaeth o ddulliau rheoli, epidemioleg, perfformiad triniaeth ac arferion hwsmonaeth.
Mae'r Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn hefyd yn gweithio i wella addysg, cefnogi newid mewn ymddygiad sy'n gwella iechyd gwenyn, rhannu gwybodaeth a datblygu'r capasiti ymchwil.
Rôl y Cynghorydd Gwyddoniaeth
• Presenoldeb rheolaidd yng nghyfarfodydd y Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn (rhithwir yn bennaf).
• Cynnal ymwybyddiaeth o ddatblygiadau gwyddonol perthnasol yn unol â Datganiad Gwyddoniaeth y Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn.
• Darparu heriau a gwybodaeth wyddonol annibynnol.
• Cefnogi camau gwyddonol yng Nghynllun Gweithredu'r Cynllun Gwenyn Iach 2030.
• Datblygu'r agenda ac arwain cyfarfod gwyddoniaeth blynyddol y Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn.
• Annog cyhoeddi canfyddiadau ymchwil mewn cyfnodolion gwenyna.
• Cefnogi cyfathrebiadau â thema gwyddoniaeth, gan gynnwys Diwrnod Gwenyn y Byd
Gwybodaeth Ofynnol
• Enw
• Cyfeiriad e-bost
• Cymwysterau
• Enw a chyfeiriad y sefydliad
• Cadarnhad o argaeledd ar gyfer pum cyfarfod bob blwyddyn
• Un dudalen (hyd at 350 o eiriau) sy'n; (i) crynhoi eich arbenigedd gwyddonol a sut mae hyn yn gyson â blaenoriaethau ymchwil y Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn; (ii) disgrifio eich profiad o gyfleu gwyddoniaeth i amrywiaeth eang o randdeiliaid.
Caiff ceisiadau eu hadolygu yn erbyn tri maen prawf diffiniedig: arbenigedd gwyddonol yr ymgeisydd mewn meysydd perthnasol, ei allu i gyfleu gwybodaeth wyddonol yn glir i amrywiaeth eang o randdeiliaid, a'i ymrwymiad a'i argaeledd i ymgymryd â'r rôl wirfoddol. Ystyrir pob maen prawf gan ddefnyddio graddfa asesu o 1–5, gydag uchafswm sgôr asesu o 15 ar y cyfan. Caiff pob ymgeisydd ei hysbysu am y canlyniad yn ysgrifenedig.
Anfonwch geisiadau i [email protected]