Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Prosiectau ymchwil sy'n ymwneud â gwenyn mêl

Mae'r UWG yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o brifysgolion a sefydliadau, yn y DU a thramor, er mwyn cyflawni nodau ymchwil a rennir. Ceir cydweithrediad ymchwil parhaus â Fera Science Ltd, a grëwyd yn 2015 fel cyd-fenter rhwng Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Capita. Mae Fera Science Ltd a'r UWG (fel rhan o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, APHA) yn ddau grŵp ar wahân sy'n cydweithio'n agos er mwyn ymgymryd â gwaith gwyddonol arloesol ym maes ymchwil gwenyn mêl.

I ddysgu mwy am y ffordd y mae Fera a'r UWG yn cydweithio, darllenwch yr erthygl ddiweddar hon yn BeeCraft: 'Fera: Behind the scenes at the bee labs'.

Mae prosiectau yn amrywio'n fawr o ran maint a chynnwys ond mae pob un ohonynt yn rhannu'r nod o gael gwybodaeth a fydd yn rhoi'r cyngor gorau i wenynwyr, y gymuned wyddonol a llunwyr polisi'r Llywodraeth er mwyn iddynt allu gwella ein dealltwriaeth gyfunol o iechyd gwenyn mêl. Mae ein rhaglen ymchwil yn canolbwyntio ar ddarparu adnoddau ymarferol er mwyn helpu gwenynwyr i fabwysiadu arferion hwsmonaeth da er mwyn lliniaru risgiau a chynnal stociau iach o wenyn mêl.

Prosiectau dan sylw

Fera Science Ltd:

Dadansoddiad genetig o gacwn Asia


Ers 2016, mae Fera Science Ltd wedi bod yn defnyddio dadansoddiadau o is-ddarnau er mwyn deall natur ymlediad cacwn Asia, Vespa velutina nigrithorax, i'r DU yn well, a hynny o nythfeydd a anfonwyd iddo gan arolygwyr yr UWG. Gall Eleanor Jones a'i chydweithwyr ddefnyddio is-ddarnau i nodi amrywiaeth y boblogaeth o gacwn, a yw nythod wedi cynhyrchu gwenyn gormes neu ddarpar freninesau a faint o wrywod y mae breninesau wedi paru â nhw. Ceir canfyddiadau diweddar y gwaith hwn yn y papur mynediad agored hwn sydd wedi'i adolygu gan gymheiriaid a gyhoeddwyd gan Scientific Reports.

Cafodd yr astudiaeth hon ei chynnwys yng nghyhoeddiad Gwasanaeth Rhybuddion Amgylcheddol y Comisiwn Ewropeaidd, “Science for Environment Policy”. Ceir fersiwn lawn o'r adroddiad yma.

Mae'r gwaith hwn wedi mynd rhagddo drwy gydol 2023 hyd at heddiw. Mae'r dadansoddiadau hyn yn galluogi'r UWG i nodi safleoedd y gallai cacwn Asia fod wedi ymledu iddynt er mwyn targedu ymdrechion gwyliadwriaeth yn y maes. Gwneir y gwaith hwn mewn cydweithrediad â Chymdeithas Gwenynwyr Prydain a thimau gweithredu Cacwn Asia; dysgwch fwy yma.

Rheoli Varroa


Ers 16 mlynedd, mae'r UWG wedi bod yn cynnal yr Arolwg Hwsmonaeth Blynyddol o wenynwyr er mwyn dysgu mwy am arferion gwenyna. Mae Ben Jones a'i gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerwysg wedi bod yn defnyddio'r data hyn i ystyried y rôl y mae cadw at driniaethau Varroa yn ei chwarae o ran colli nythfeydd. Mae canfyddiadau'r papur hwn wrthi'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd er mwyn iddynt gael eu cyhoeddi. Dysgwch fwy am yr ymchwil i Varroa sy'n cael ei gwneud gan Fera Science Ltd yn y llenyddiaeth fasnachol ddiweddar hon yn Bee Farmer.


Dadansoddiad moleciwlaidd o fathau o straeniau o glefyd Ewropeaidd y gwenyn


Ers 2007, mae'r UWG wedi bod yn casglu arunigion bacterol o achosion o glefyd Ewropeaidd y gwenyn a chlefyd Americanaidd y gwenyn o bob rhan o Gymru a Lloegr. Mae Victoria Tomkies, Ed Haynes a chydweithwyr yn Fera Science wedi datblygu adnodd a elwir yn 'Multi Locus Sequencing Typing' (MLST) ar gyfer dadansoddi gwahanol straeniau o glefyd Ewropeaidd y gwenyn, mewn cydweithrediad â Giles Budge ym Mhrifysgol Newcastle. Mae eu dadansoddiad o ddosbarthiad gwahanol straeniau o glefyd Ewropeaidd y gwenyn yn ein helpu i ddeall lledaeniad y clefyd hwn ac, yn y dyfodol, gallai helpu i reoli'r clefyd. Mae'r erthygl ddiweddar hon yn BeeCraft yn rhoi mwy o fanylion am eu gwaith.


Mae'r gwaith hwn yn dilyn degawdau o ymchwil yn yr UWG er mwyn ceisio deall bioleg clefyd Ewropeaidd y gwenyn a sut i'w reoli. Datblygwyd yr MLST ar gyfer clefyd Ewropeaidd y gwenyn gan Ed Haynes, Giles Budge a Victoria Tomkies, sef gwyddonwyr sy'n gweithio i'r UWG. Gallwch ddarllen am y ffordd y datblygwyd yr adnodd ymchwil hwn yma, a cheir rhagor o ymchwil a wnaed gan ddefnyddio'r MLSTau er mwyn deall achosion o glefyd Ewropeaidd y gwenyn yn y DU yn well, yma


Defnyddio technoleg ddilyniannu cenhedlaeth nesaf i ddadansoddi cynnwys perfedd Cacwn Asia

Mae Eleanor Jones a Sam McGreig wedi datblygu techneg sy'n defnyddio technoleg ddilyniannu nanopor i nodi ysglyfaeth cacwn Asia drwy edrych ar gynnwys perfedd y larfâu. Mae'r prosiect hynod ddiddorol hwn yn rhoi ciplun ar y math o ysglyfaeth y mae cacwn Asia yn ei dal er mwyn bwydo larfâu sy'n datblygu. 

Dengys y canlyniadau fod cacwn Asia yn ysglyfaethu llawer o wahanol rywogaethau o infertebratau, nid dim ond gwenyn mêl. Mae i hyn oblygiadau pwysig o ran yr effaith ecolegol ddifrifol y gallai cacwn Asia ei chael yn y DU, yn arbennig y potensial i gael effaith andwyol ar rywogaethau sensitif o infertebratau. I ddysgu mwy, cyhoeddwyd y canlyniadau mewn erthygl mynediad agored, y gellir ei darllen yma.

Dengys y graff hwn ddigonedd cymharol gwahanol eitemau o ysglyfaeth o gynnwys perfedd larfâu o nythod cacwn Asia

Dengys y graff hwn ddigonedd cymharol gwahanol eitemau o ysglyfaeth o gynnwys perfedd larfâu o nythod cacwn Asia

Dulliau moleciwlaidd ar gyfer nodi plâu egsotig yn gyflym

Rhwng 2018 a 2020, datblygodd Fera Science Ltd ddulliau moleciwlaidd cyflym ar gyfer canfod y plâu egsotig, cacynen goesfelen Asia, Vespa velutina nigrithorax, a chwilen fach y cwch gwenyn, Aethina tumida. Defnyddiodd Kirsty Stainton a'i chydweithwyr yn Fera fethodoleg a elwir yn 'loop mediated isothermal amplification' (LAMP) er mwyn nodi'r pla a dargedir o swm bach o ddeunydd, megis darn o goes, neu nifer bach o wyau, y byddai'n anodd i entomolegwyr ei nodi'n bendant gan ddefnyddio dulliau morffolegol. Dysgwch fwy am y profion diagnostig hyn, drwy ddarllen y papurau ar-lein; rapid identification of the invasive small hive beetle a rapid molecular-methods for in-field and laboratory identification of the yellow-legged Asian hornet


Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA):

Datblygu rhyngwladol

Mae dyheadau Ghana i gynyddu faint o fêl a gynhyrchir ac a allforir gan y wlad yn cael eu llesteirio gan y prinder gwybodaeth am wenynyddiaeth (sector nas rheoleiddir i raddau helaeth) ac iechyd gwenyn yno. O dan brosiect Atgyfnerthu Systemau Iechyd Anifeiliaid Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, mae Dr Flavie Vial (APHA) ac arolygwyr yr UWG, Colleen Reichling, Jack Silberrad a Peter Davies, yn cydweithio â Phrifysgol Ghana a Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Kwasi Nkrumah i wella iechyd gwenyn a safonau mêl yn y wlad.

Mae ein cynrychiolwyr o'r UWG wedi rhoi hyfforddiant i gydweithwyr yn y ddwy brifysgol ar sut i reoli gwenyn ac iechyd gwenyn ac mae'r hyfforddeion hyn yn cael eu mentora er mwyn datblygu modiwl iechyd gwenyn i'w gynnwys yn y rhaglen Doethur mewn Milfeddygaeth yn Ghana. At hynny, mae arolygon o iechyd gwenyn wedi'u cynnal ac mae gwybodaeth am hwsmonaeth leol, arferion rheoli plâu a dulliau cynaeafu brodorol wedi'u casglu, er mwyn helpu'r tîm i lunio arferion gorau sy'n berthnasol i wenynyddiaeth yn Ghana. 

Dysgwch fwy am y prosiect hwn yn ein Blog Diwrnod Gwenyn y Byd. 

Cynllun Gwenyn Iach 2030

Mae Cynllun Gwenyn Iach 2030 yn dwyn ynghyd Defra a Llywodraeth Cymru a grwpiau rhanddeiliaid er mwyn diogelu iechyd gwenyn. Bwriedir i'r cynllun gyflawni pedwar prif ganlyniad, sef.  
1.    Mesurau bioddiogelwch effeithiol a safonau hwsmona da, er mwyn cadw’r perygl o blâu a chlefydau mor fach â phosibl a thrwy hynny, gwneud poblogaethau gwenyn mêl yn fwy cynaliadwy;
2.    Sgiliau a gallu/capasiti cynhyrchu gwell ymhlith gwenynwyr a ffermwyr gwenyn;
3.    Gwyddoniaeth a thystiolaeth gadarn yn sylfaen ar gyfer gweithredu i gynnal iechyd gwenyn; 
4.    Mwy o gyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth er mwyn diwallu anghenion o ran iechyd gwenyn a phryfed peillio yn fwy cyffredinol.
I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau a chanlyniadau Cynllun Gwenyn Iach 2030, ewch i dudalen we Cynllun Gwenyn Iach 2030.

Defnyddio data i roi adborth ar gynllunio wrth gefn ar gyfer chwilen fach y cwch gwenyn

Mae Nigel Semmence, y Swyddog Cynllunio wrth Gefn a Gwyddoniaeth yn yr UWG, yn goruchwylio rhaglen o welliant parhaus gan ddefnyddio gwersi a nodwyd o ymatebion wrth gefn presennol er mwyn llywio ymatebion i blâu egsotig eraill yn y dyfodol. Er enghraifft, defnyddio gwaith mapio a chofnodi ArcGIS ar gyfer casglu data yn y maes yn ystod yr achosion presennol o gacwn Asia. Mae gwelliannau eraill yn cynnwys newid o system bapur i un ddi-bapur ar gyfer mewnbynnu data yn y maes, creu ap BeeBase y gall arolygwyr ei ddefnyddio ar iPads yn y maes, ynghyd â gwelliannau diweddar ym maes mapio achosion, a chomisiynu gwaith i ddatblygu technegau moleciwlaidd i adnabod samplau yn gyflym yn y labordy. Bydd datblygiadau yn y dyfodol yn cynnwys model mathemategol er mwyn helpu i ddadansoddi ymlediad plâu egsotig o dan wahanol senarios. I gael rhagor o wybodaeth, mae Nigel wedi ysgrifennu erthygl yn Bee Farmer sy'n amlinellu'r gwaith hwn, ac amlinellir yr ymateb ar gyfer plâu egsotig yn ein cynlluniau wrth gefn, sydd ar gael yma.

Modelu ymlediad posibl Vespa velutina nigrithorax


Mae cydweithwyr o Fera Science Ltd., Ben Jones ac Eleanor Jones, ac APHA, Daniel Warren a Richard Budgey wedi bod yn cydweithio er mwyn modelu ymlediad posibl cacynen Asia goesfelen, Vespa velutina nigrithorax, yn y DU. Nodau'r model yw parametreiddio'r tebygolrwydd o gofnodi cacwn Asia yn seiliedig ar agosrwydd at barthau poblogaeth ym Mhrydain Fawr a'u maint, y tebygolrwydd y caiff nythod eu dinistrio yn seiliedig ar adnoddau arolygwyr ac agosrwydd at nythod, faint o wrywod diploidaidd a gaiff eu cynhyrchu o ganlyniad i gyfleoedd paru rhwng gwrywod haploidaidd ‘gwirioneddol’ a gwrywod diploidaidd a darpar freninesau newydd ac effaith ymlediadau parhaus i boblogaeth sy'n bridio. 

Mae Jack Silberrad o'r UWG a Dr Emmanuel Piiru o KNUST yn archwilio nythfa o wenyn mêl yn Sand Hutton yng Nghaerefrog

Chwith: Mae Jack Silberrad o'r UWG a Dr Emmanuel Piiru o KNUST yn archwilio nythfa o wenyn mêl yn Sand Hutton yng Nghaerefrog. Iawn: Mae'n bwysig deall ffactorau a allai effeithio ar ymlediad cacwn Asia coesfelen yn y DU

 

Prosiectau cydweithredol â sefydliadau eraill:

Gwella adnoddau monitro ar gyfer cadw gwyliadwriaeth ar Tropilaelaps

Gyda chyllid gan Defra a Bee Diseases Insurance, teithiodd arolygwyr o'r UWG a gwyddonwyr o Fera Science Ltd i Wlad Thai er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o'r gwiddonyn parastig goresgynnol Tropilaelaps spp, sy'n effeithio ar fag gwenyn mêl a cheisio datblygu adnoddau monitro er mwyn gwella rhaglenni gwyliadwriaeth.

Yn y DU, mae rhwydwaith yr UWG o wenynfeydd sentinel ar gyfer cadw gwyliadwriaeth ar blâu egsotig, yn dibynnu ar brotocolau sensitif yn y maes a'r labordy a all ddatgelu rhywogaeth pla goresgynnol, hyd yn oed pan fydd ar lefelau isel. Yn 2021?, aeth Dan Etheridge, Maggie Gill, Paul Davies, George Tonge a Victoria Tomkies i Wlad Thai er mwyn profi effeithiolrwydd protocolau cyfredol o ran canfod gwiddon Tropilaelaps, a phrofi dulliau newydd o ganfod gwiddon. Mireiniodd yr astudiaeth hon y protocolau ar gyfer canfod gwiddon Tropilaelaps er mwyn iddynt gael eu defnyddio, o bosibl, yng Nghymru a Lloegr at ddibenion cadw gwyliadwriaeth ar blâu egsotig. Darllenwch fwy am yr ymchwil hon yn: https://www.biorxiv.org/content/10.1101/2024.03.26.586849v1

Bee Diseases Insurance: prosiect ysgwyd haid gwenynfa gyfan

Mae treialon wedi dangos y gall ysgwyd gwenyn i'w symud i sylfaen newydd ac yna ddinistrio'r hen grwybrau fod yn fuddiol wrth reoli clefyd Ewropeaidd y gwenyn. Yr enw ar y weithdrefn hon yw triniaeth Ysgwyd Haid, a gall hefyd fod yn fuddiol wrth reoli poblogaethau gwiddon Nosema spp., chalkbrood a Varroa. Yn aml, nythfeydd wedi'u trin drwy'r dull hwn fydd y cryfaf a'r mwyaf cynhyrchiol mewn gwenynfa. Mae rhai gwenynwyr bellach yn defnyddio'r system hon er mwyn disodli'r holl hen grwybrau magu mewn cwch gwenyn drwy roi un driniaeth.


Cynigir treial Ysgwyd Haid Gwenynfa Gyfan Bee Diseases Insurance ar gyfer pob nythfa mewn gwenynfa wedi'i heintio pan fydd Arolygydd Gwenyn Awdurdodedig wedi cadarnhau bod o leiaf un nythfa wedi'i heintio â chlefyd Ewropeaidd y gwenyn. Dysgwch fwy am y treial hwn ar wefan Bee Diseases Insurance.

Yr Athro Giles Budge, Prifysgol Newcastle

Ymchwil i feirws parlys cronig y gwenyn

Gall feirws parlys cronig y gwenyn achosi clefyd difrifol mewn nythfeydd gwenyn mêl, sy'n arwain at golli nythfeydd mewn tua hanner yr achosion. Mewn partneriaeth â Bee Diseases Insurance a'r UWG, aeth Giles Budge a'i gydweithwyr ati i nodi a ellid defnyddio data arolygu o ymweliadau â gwenynfeydd gan yr UWG i ddeall epidemioleg feirws parlys cronig y gwenyn yn well. Nodwyd ganddynt, rhwng 2007 a 2017, fod nifer yr achosion o feirws parlys cronig y gwenyn y rhoddwyd gwybod amdanynt wedi cynyddu'n sylweddol, gan adleisio canlyniadau o bob cwr o'r byd. Mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn darparu rhagor o wybodaeth am y ffactorau risg sy'n gysylltiedig ag achosion o feirws parlys cronig y gwenyn a gellir eu gweld yma.

Ffactorau hinsoddol sy'n effeithio ar glefydau gwenyn yng Nghymru a Lloegr

Er mwyn deall epidemioleg clefydau gwenyn yng Nghymru a Lloegr yn well, defnyddiodd Giles a'i gydweithwyr arolygiadau BeeBase a ddarparwyd gan yr UWG i ddeall y ffactorau hinsoddol sy'n effeithio ar glefydau gwenyn yn well. Gwnaethant nodi mai'r clefydau mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar wenyn mêl yng Nghymru a Lloegr yw 'sacbrood', 'chalkbrood' a varroosis (syndrom gwiddon parasitig) a dangos hefyd bod newidynnau'r tywydd yn dylanwadu ar y risg o glefyd ar gyfer clefyd Ewropeaidd y gwenyn, varroosis, 'sacbrood' a 'chalkbrood'. I ddysgu mwy am y canfyddiadau hyn, darllenwch y papur yma.

Gwiddon parasitig gwenyn mêl yw gwiddon Tropilaelaps spp.. Gall parlys cronig y gwenyn achosi clefyd difrifol neu farwolaeth mewn nythfeydd gwenyn mêl

Chwith: Gwiddon parasitig gwenyn mêl yw gwiddon Tropilaelaps spp. Iawn: Gall parlys cronig y gwenyn achosi clefyd difrifol neu farwolaeth mewn nythfeydd gwenyn mêl

 

Ymholiadau ynghylch ymchwil

Samplau o ymchwil

Os ydych yn ymchwilydd ac yr hoffech weithio gyda chlefydau gwenyn mêl, byddwch yn ymwybodol na ellir trin cyfryngau achosol clefyd Ewropeaidd y gwenyn na chlefyd Americanaidd y gwenyn, sef Melisococcus plutonius a Paenibacillus larvae, heb drwydded. I gael gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen i gael trwydded, cysylltwch â: BeeHealth.Info@defra.gov.uk

Os hoffech weithio gydag unrhyw glefydau eraill, nid oes angen trwydded. Fodd bynnag, ni all yr UWG ddarparu samplau o gyfryngau achosol clefyd. Er mwyn holi am gael samplau, cysylltwch â info@fera.co.uk


Noder nad yw rhai o gyfryngau achosol clefydau gwenyn mêl yn hawdd i'w meithrin nac yn addas i'w storio am gyfnod hir. Rydym yn argymell y dylech ddarllen COLOSS BeeBook Cyfrol II i ddysgu mwy am gaffael a phrosesu samplau maes.

Rhannu Data

Gall yr UWG gael gafael ar ddata ac ystadegau ar glefydau gwenyn mêl yng Nghymru a Lloegr. Er mwyn cael data, gall unigolion gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth i enquiries@apha.gov.uk.

https://www.gov.uk/make-a-freedom-of-information-request/how-to-make-an-foi-request

Cofiwch, er bod data personol yn cael eu casglu er mwyn bodloni gofynion statudol mewn perthynas â bioddiogelwch gwenyn mêl a rheoli plâu a chlefydau o dan ddeddfwriaeth y DU, na fyddwn yn caniatáu unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac na fyddwn yn gweithredu'n groes i'n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym yn rheoli data personol, darllenwch hysbysiad preifatrwydd yr UWG:


https://www.gov.uk/government/publications/animal-and-plant-heath-agency-privacy-notices/national-bee-unit-statutory-bee-health-programme-privacy-notice


https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/954266/apha-privacy-notice-nbu-welsh.pdf