Cydweithio i wella iechyd a hwsmonaeth gwenyn mêl yng Nghymru a Lloegr
Gweithiodd Defra a Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid i ddatblygu Cynllun Gwenyn Iach 2030.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar gyflawni pedwar canlyniad allweddol, sef:
- Mesurau bioddiogelwch effeithiol a safonau hwsmona da, er mwyn cadw’r perygl o blâu a chlefydau mor fach â phosibl a thrwy hynny, gwneud poblogaethau gwenyn mêl yn fwy cynaliadwy.
- Sgiliau a gallu/capasiti cynhyrchu gwell ymhlith gwenynwyr a ffermwyr gwenyn.
- Gwyddoniaeth a thystiolaeth gadarn yn sylfaen ar gyfer gweithredu i gynnal iechyd gwenyn.
- Mwy o gyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth er mwyn diwallu anghenion o ran iechyd gwenyn a phryfed peillio yn fwy cyffredinol.
Bydd yr UWG a rhanddeiliaid allweddol eraill o'r Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn sydd wedi helpu i ddatblygu'r cynllun yn arwain y gwaith o gyflawni ei bedwar canlyniad allweddol. Mae'r rhanddeiliaid hyn yn cynnwys Cymdeithas Gwenynwyr Prydain, Cymdeithas Gwenynwyr Cymru, Cymdeithas y Ffermwyr Gwenyn, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Diploma Cenedlaethol mewn Gwenyna a'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol.
Mae Cynllun Gweithredu wedi'i gyhoeddi, sy'n nodi mwy na 50 o gamau gweithredu i wenynwyr, ffermwyr gwenyn, cymdeithasau a'r Llywodraeth gydweithio arnynt er mwyn cyflawni'r canlyniadau yng Nghynllun Iechyd Gwenyn 2030.
Rhaglen Iechyd Gwenyn
I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Gwenyn dilynwch y ddolen hon i ganllawiau Defra ar ddiogelu Gwenyn Mêl rhag plâu a chlefydau.