Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Datganiad Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd ar gyfer yr Uned Wenyn Genedlaethol

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wefan Uned Wenyn Genedlaethol (UWG) yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Fera Science Ltd. Rydym am sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo i hyd at 300% heb i'r testun lithro oddi ar y sgrin.
  • symud o amgylch y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • symud o amgylch y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym wedi ceisio sicrhau bod testun y wefan mor hawdd â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet (https://mcmw.abilitynet.org.uk/ ) gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen i chi gael gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu braille:

Cysylltwch â ni ar webmaster@fera.co.uk a rhowch y canlynol i ni:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a'ch cyfeiriad e-bost
  • y fformat sydd ei angen arnoch, er enghraifft, CD sain, braille, Iaith Arwyddion Prydain neu brint bras, PDF hygyrch

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi o fewn 15 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau ynglŷn â hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os byddwch o'r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch neges e-bost i: webmaster@fera.co.uk

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os byddwch yn anfodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth a Chyngor ar Gydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae APHA yn ymrwymedig i sicrhau bod yr Uned Wenyn Genedlaethol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llwyr â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.

Llunio'r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hwn ar 19 Ebrill 2023. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 19 Ebrill 2023.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 19  Ebrill 2023. Cynhaliwyd y prawf gan Fera Science Ltd.