Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Cwestiynau Cyffredin

Pwy yw'r Uned Wenyn Genedlaethol? 

Gwyliwch ein fideo "Gwenyn, Gwenynwyr a'r Uned Wenyn Genedlaethol" isod er mwyn dysgu mwy am ein gwaith hollbwysig:

BeeBase

Beth yw BeeBase?

BeeBase yw gwefan yr UWG sydd wedi ennill gwobrau. Mae BeeBase yn cynnwys yr holl wybodaeth wenynyddol am y rhaglen iechyd gwenyn yng Nghymru a Lloegr. Yn fwy diweddar, mae'r wybodaeth ar gyfer rhaglen archwiliadau'r Alban hefyd wedi'i chynnwys yn BeeBase. Mae BeeBase yn cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth am wenyna, megis gweithgareddau'r Uned Wenyn Genedlaethol, y ddeddfwriaeth ynglŷn â gwenyn mêl, gwybodaeth am blâu a chlefydau gan gynnwys sut i'w hadnabod a'u rheoli, mapiau rhyngweithiol, meysydd ymchwil cyfredol, cyhoeddiadau, taflenni cynghorol a chysylltiadau allweddol. Gall gwenynwyr gofrestru ar-lein a gweld cofnodion eu gwenynfeydd, eu hanes diagnostig a'u manylion eu hunain.

Pam y dylwn gofrestru ar gyfer BeeBase?

Mae BeeBase yn adnodd hanfodol i reoli clefydau a phlâu sy'n effeithio ar wenyn ac mae ganddo lawer o wybodaeth ddefnyddiol am wenyn a gwenyna. Pan gadarnheir achosion o glefydau a phlâu, mae'r UWG yn defnyddio BeeBase i nodi gwenynfeydd lle ceir risg yn yr ardal leol, anfon rhybuddion at unigolion a thargedu gweithgarwch archwilio a mesurau rheoli yn effeithiol.

Drwy wybod ble mae gwenyn i'w cael, gallwn eich helpu i reoli risgiau yn eich gwenynfeydd. Gallai risgiau gynnwys ymlediad plâu newydd difrifol megis Chwilen Fach y Cwch neu rywogaethau goresgynnol eraill megis cacynen Asiaidd (Vespa velutina) a allai beri risg ddifrifol i wenyn mêl.

Sut y gallaf ofyn am gyfrinair newydd?

Ewch i waelod y dudalen Mewngofnodi a defnyddio'r dolen "Forgot Password?" i ofyn am gyfrinair newydd.

Rwyf wedi anghofio fy enw defnyddiwr.

Ewch i waelod y dudalen Mewngofnodi a defnyddio'r dolen "Forgot Username" i ofyn am neges atgoffa am enw defnyddiwr.

Pwy yw fy arolygydd lleol?

Ewch i'n tudalen Cysylltu â ni i weld manylion cyswllt pob un o'n harolygwyr. Gallwch hefyd chwilio am eich arolygydd lleol gan ddefnyddio eich cod post.

Gwenyn

A yw gwenyn yn cael eu gwarchod?

Nid yw gwenyn yn rhywogaeth a warchodir yn y DU. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu nad ydynt yn bwysig Dylem werthfawrogi gwenyn a mynd ati i sicrhau eu bod yn goroesi. Maent yn chwarae rôl hollbwysig drwy beillio nid yn unig gnydau masnachol bwysig ond hefyd lu o blanhigion sy'n blodeuo mewn tirweddau naturiol a maestrefol ac maent yn elfennau allweddol o ecosystemau a reolir ac ecosystemau nas rheolir.

Mae rhywogaethau a warchodir wedi'u dynodi gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Rwyf wedi canfod haid o wenyn, beth y dylwn ei wneud?

Os yw'r haid yn peri niwsans ac yr hoffech gael gwared arni, cysylltwch â chydgysylltydd heidiau lleol. Mae gan Gymdeithas Gwenynwyr Prydain (BBKA) restr o gydgysylltwyr heidiau. Ewch i'r tudalen Swarm Removal ar eu gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Gall nythod gwenyn mêl nad oes eu heisiau mewn simneiau a strwythurau adeiladau gael eu symud yn ofalus gan reolwyr plâu. Bydd gan reolwyr plâu eu polisïau eu hunain mewn perthynas â symud a/neu ddifa nythod.

Dim ond pan fydd eu presenoldeb yn peri niwsans annerbyniol neu risg i iechyd pobl y bydd yr UWG yn argymell symud neu ddifa heidiau o wenyn mêl.

A ellir dosbarthu gwenyn yn niwsans? A oes unrhyw ddeddfwriaeth ynglŷn â lleoli gwenyn a chychod?

O dan rai amgylchiadau, pan fetho popeth arall, oes – er nad oes unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â lleoli gwenyn.

Os bydd gennych broblem o ran lleoli gwenyn, y cyngor cyntaf yw i'r ddau barti siarad â'i gilydd i weld a allant ddod i gytundeb cyfeillgar.

Os bydd y gwenyn yn peri niwsans, mae camau rhesymol a allai gael eu cymryd gan y gwenynwr yw symud y gwenyn yn bell i ffwrdd oddi wrth y ffin neu, yn ddelfrydol, leihau nifer y gwenyn drwy symud rhai i wenynfa allanol (safle sydd ymhell i ffwrdd o anheddau). Mae'n bosibl i wenynwyr profiadol reoli gwenyn yn ddiogel mewn gardd, er mai'r arfer gyffredin yw eu lleoli ymhell i ffwrdd o gymdogion a chodi gwrych neu ffens banelog o amgylch nythfeydd gan fod hyn yn annog gwenyn i hedfan yn uwch, uwchben pennau unrhyw bobl gerllaw.

Ar ôl trafod, os bydd y gwenyn yn dal i achosi problem, mae dau gam posibl y gallech eu cymryd:

  1. Gallech gysylltu â Chymdeithas Gwenynwyr Prydain (BBKA). Mae BBKA yno i annog arferion gwenyna cyfrifol ac mae wedi llunio canllawiau defnyddiol ar leoli gwenyn, sef 'Bees, Neighbours and Siting an Apiary. Os yw'r gwenynwr yn aelod, efallai y bydd BBKA yn gallu gweithredu fel cyfryngydd.
  2. Gwyddom fod rhai swyddfeydd Iechyd yr Amgylchedd lleol wedi llwyddo i alw Adran 79f, 'Niwsans Statudol', o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, i rym. Dim ond pan fetho popeth arall y bwriedir i'r adran hon gael ei defnyddio.

Fel arfer, ni fyddai'r UWG yn chwarae rôl uniongyrchol mewn anghydfodau sy'n ymwneud â lleoli gwenyn.

Clefydau ac Anhwylderau

Os byddwch yn canfod pla neu glefyd hysbysadwy, yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol i chi rhoi gwybod amdano i'r Uned Wenyn Genedlaethol. Ewch i'n tudalen Cyswllt i gael manylion eich arolygydd gwenyn lleol. Gallwch hefyd gysylltu â thîm y swyddfa drwy ffonio 0300 303 0094 neu anfon neges e-bost i nbu@apha.gov.uk.

Mae Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn, Clefyd Americanaidd y Gwenyn, Chwilen Fach y Cwch a gwiddonyn Tropilaelaps yn blâu a chlefydau hysbysadwy.

Beth yw Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn a beth yw'r symptomau?

Mae Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn haint bacterol a achosir gan Melissococcus plutonius, sy'n lluosogi ym mherfeddyn canol larfa wedi'i heintio. Mae'r bacteria sy'n lluosogi yn cystadlu â'r larfa am fwyd, a all beri iddo lwgu i farwolaeth.

Disgrifir bioleg a symptomau Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn a'r ffordd y caiff ei reoli, yn fanwl yn y daflen gynghorol, "Clefyd y Gwenyn mewn Gwenyn Mêl".

Mae Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn effeithio ar fag heb ei selio. Yn aml, bydd patrwm mag yn ymddangos yn dameidiog ac yn afreolaidd lle mae cyfran fawr o'r larfâu yn ael eu lladd gan Glefyd Ewropeaidd y Gwenyn ac wedyn eu gwaredu gan y gwenyn. Mae larfa sydd wedi'i heintio â Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn  yn symud y tu mewn i'w gell yn hytrach nag aros yn yr ystum torchog arferol a ddisgwylir gan larfa iach o'r un oedran. Pan fydd y larfa yn marw, bydd yn gorwedd yn annaturiol wedi'i droi o amgylch y waliau, ar draws ceg y gell neu wedi'i ymestyn ar ei hyd. Yn aml, bydd y larfa marw yn crebachu fel petai wedi toddi gan droi'n felynllwyd ac, yn y pen draw, yn sychu i ffurfio cen brown sydd wedi'i gysylltu'n llac. Mae'r cennau yn amrywio o ran eu lliw, maent yn rhydd o fewn y gell ac 'fel rwber' - yn wahanol i Glefyd Americanaidd y Gwenyn, lle mae'r gweddillion yn ffurfio cennau du, caled sydd wedi'u cysylltu'n dynn.

Cysylltwch â'r Uned Wenyn Genedlaethol cyn gynted â phosibl os byddwch yn credu bod Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn eich nythfeydd.

Beth yw symptomau Clefyd Americanaidd y Gwenyn?

Disgrifir bioleg a symptomau Clefyd Americanaidd y Gwenyn a'r ffordd y caiff ei reoli, yn fanwl yn y daflen gynghorol, "Clefyd y Gwenyn mewn Gwenyn Mêl".

Fel arfer, mae Clefyd Americanaidd y Gwenyn ond yn effeithio ar fag wedi'i selio. Pan fydd larfâu wedi'u heintio yn marw yn y gell wedi'i selio, bydd golwg capanau'r celloedd yn newid. Bydd capanau cwyr yn mynd yn grebachlyd ac yn dyllog pan fydd gwenyn llawndwf yn cnoi tyllau ynddynt er mwyn ceisio tynnu'r larfa wedi'i heintio allan o'r celloedd. Mae'r tyllau hyn yn tueddu i fod yn ddanheddog ac yn afreolaidd eu siâp. Efallai y bydd rhai capanau yn mynd yn llaith neu bydd golwg seimllyd arnynt a byddant ychydig yn dywyllach eu lliw na chelloedd eraill.

I ddechrau, mae'n bosibl mai dim ond ychydig o gelloedd a fydd yn dangos arwyddion o glefyd ac mae'n bosibl y bydd y nythfa yn ymddangos yn normal fel arall. Yn y pen draw, caiff llawer o'r mag wedi'i selio ei heintio â'r clefyd, gan achosi patrwm mag tameidiog neu 'felin bupur'. Efallai y bydd aroglau annymunol sy'n gysylltiedig â phydru.

Ar gam y capanau crebachlyd, mae gweddillion y larfa marw yn frown golau i frown tywyll ac mae iddynt ansawdd llysnafeddog. Os caiff coes matsien ei rhoi i mewn a'i thynnu allan yn araf, gellir tynnu'r gweddillion allan mewn edau neu 'raff' frown debyg i fwcws rhwng 10 a 30mm o hyd Gelwir hyn yn brawf golwg edafeddog ('ropiness test') ac mae'n brawf dibynadwy ar gyfer presenoldeb Clefyd Americanaidd y Gwenyn. Dilynir y cyflwr edafeddog gan gam gludiog wrth i weddillion y larfa yn y gell sychu ac wrth i'r lliw droi'n frown tywyll.

Cysylltwch â'r Uned Wenyn Genedlaethol cyn gynted â phosibl os byddwch yn credu bod Clefyd Americanaidd y Gwenyn yn eich nythfeydd.

Rwy'n credu bod clefyd y gwenyn yn fy ngwenynfeydd, beth gallaf ei wneud?

Dylech gau'r cwch gwenyn, lleihau maint y fynedfa a chymryd unrhyw gamau eraill angenrheidiol i atal y cwch gwenyn rhag cael ei ddwyn gan nythfeydd eraill. Dylech ddiheintio menig a chyfarpar gwenyna arall gan ddefnyddio hydoddiant soda golchi cryf cyn archwilio nythfeydd eraill.

Os byddwch yn amau bod Clefyd Ewropeaidd y Gwenyn neu Glefyd Americanaidd y Gwenyn yn eich nythfeydd, rhaid i chi gysylltu â'r Uned Wenyn Genedlaethol i gael cymorth. Trefnwch ymweliad gan eich arolygydd gwenyn lleol neu cysylltwch â thîm y swyddfa.

Mae gennyf gwestiwn am glefydau eraill neu anhwylderau eraill sy'n effeithio ar fag (chalkbrood, chilled brood, ac ati).

Ewch i'r dudalen hon am fanylion a chyngor ynghyd â lluniau defnyddiol o glefydau ac anhwylderau cyffredin sy'n effeithio ar fag.

Plâu

Beth yw cacynen Asiaidd?

Mae cacynen Asiaidd (Vespa velutina nigrithorax) yn bicwnen fawr a ddaw o'r Dwyrain Pell - Tsieina, India a Korea.  Mae ychydig yn llai na'n cacynen Ewropeaidd frodorol.  Noder na ddylid ei chymysgu â chacynen gawraidd Japan. Gallwch ddarllen mwy am y gacynen Asiaidd a sut i wahaniaethu rhyngddi â'r rhywogaeth Ewropeaidd frodorol Vespa crabro yn y daflen hon.

Os credwch eich bod wedi gweld cacynen Asiaidd neu nyth Cacwn Asiaidd, ewch i'r dudalen hon ar gwefan y UK Centre for Ecology and Hydrology i roi gwybod am yr achos fel y gellir ymchwilio iddo ymhellach. Mae ap Asian Hornet Watch yn ffordd gyflym a chyfleus o roi gwybod am gacwn sydd wedi cael eu gweld ac mae ar gael i'w lawrlwytho am ddim o storfeydd apiau Apple a dyfeisiau Android a gellir ei ddefnyddio i gofnodi achosion o weld cacwn Asiaidd.

Mae cacynen Asiaidd yn ysglyfaethwr gwancus gwenyn mêl a all ddifa cychod gwenyn unigol.  Gall hefyd ladd amrywiaeth o rywogaethau brodorol megis cacwn, clêr a chorynod. Gan fod ein gwenyn mêl a phryfed peillio eraill dan bwysau byddai cael ysglyfaethwr ychwanegol yn ergyd drom. Gellir gweld Asesiad Risg llawn Prydain Fawr o Rywogaethau Anfrodorol ar gyfer Vespa velutina, cacynen Asiaidd, yma ar gwefan y Non Native Species Secretariat.

Sut y gallaf wahaniaethu rhwng cacynen Asiaidd a chacynen neu bicwnen frodorol?

Mae'r gacynen Asiaidd ychydig yn llai na'n cacynen frodorol ond mae'n fwy na'n picwn.  Mae cacwn gweithgar hyd at 2.5cm (modfedd) o hyd ac mae breninesau hyd at 3cm o hyd. Mae'n llai melyngoch na'n cacynen frodorol ac mae ganddi fand melyn amlwg ar ei habdomen yn bennaf sydd, fel arall, yn ddu.  Cliciwch yma (dolen) i gael taflen adnabod ar gyfer cacynen Asiaidd, sy'n esbonio sut i wahaniaethau rhwng cacynen Asiaidd, y gacynen Ewropeaidd a rhywogaethau eraill o bicwn gwyllt.  Mae'r Gymdeithas Cofnodi Gwenyn, Morgrug a Phicwn yn llunio Taflenni Gwybodaeth defnyddiol am amrywiaeth o Hymenoptera, gan gynnwys cacwn Ewropeaidd a chacwn Asiaidd.

Sut y gallaf adnabod Varroa?

Mae rheoli Varroa yn rhan hanfodol o wenyna cyfredol ac mae angen i wenynwyr wneud yn siŵr y gallant adnabod gwiddon Varroa yn eu cychod a bod ganddynt o leiaf un dull o amcangyfrif pa mor ddifrifol yw'r haint.

Mae gwiddon Varroa benyw yn hawdd i'w hadnabod am fod ganddynt gyrff hirgrwn browngoch, gwastad. Maent yn 1.6mm o hyd ac yn 1.1mm o led. Mae gwiddon benyw anaeddfed a gwiddon Varroa gwryw yn llai o faint ac yn olau a dim ond mewn celloedd magu y'u ceir. Mae gwiddon Varroa yn fach iawn. Os ydych yn gwisgo sbectol bydd angen i chi ei gwisgo i weld Varroa, yn ôl pob tebyg. Gall lens law fod yn ddefnyddiol hefyd.

Gall lefelau gwiddon amrywio'n fawr rhwng nythfeydd. Felly, yn ddelfrydol, dylech fonitro pob un o'ch nythfeydd.

Mae ein tudalennau ar Varroa yn cynnwys canllawiau manwl a lluniau. Gallwch hefyd lawrlwytho copi o'n taflen "Managing Varroa" am ddim. Gall eich arolygydd gwenyn lleol hefyd roi cyngor ac arweiniad i chi.