Mae gan yr UWG raglen ymchwil weithredol a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd wedi arwain at fwy na 30 o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae prosiectau yn amrywio'n fawr o ran maint a chynnwys ond mae pob un ohonynt yn rhannu'r nod o gael gwybodaeth a fydd yn rhoi'r cyngor gorau i wenynwyr, y gymuned wyddonol a llunwyr polisi'r Llywodraeth er mwyn iddynt allu gwella ein dealltwriaeth gyfunol o iechyd gwenyn mêl. Mae ein rhaglen ymchwil yn canolbwyntio ar ddarparu adnoddau ymarferol er mwyn helpu gwenynwyr i fabwysiadu arferion hwsmonaeth da er mwyn lliniaru risgiau a chynnal stociau iach o wenyn mêl.
Gellir crynhoi ein portffolio presennol o brosiectau fel a ganlyn:
- Bioleg a dull atgynhyrchu Varroa;
- Datblygu modelau mathemategol ar gyfer deall lledaeniad plâu a chlefydau sy'n effeithio ar bryfed peillio;
- Effeithiau hirdymor polisi rheoli clefydau gwenyn mêl;
- Astudiaethau o eneteg ac amrywiaeth gwenyn mêl yn y DU;
- Nodi pathogenau newydd sy'n effeithio ar wenyn mêl a disgrifio eu dosbarthiad;
- Gwella dulliau seiledig ar risg o fonitro iechyd gwenyn mêl;
- Casglu tystiolaeth am arferion gwenyna yn y DU;
- Deall sut mae defnydd tir yn effeithio ar iechyd nythfeydd gwenyn mêl;
- Deall anghenion maeth gwenyn mêl er mwyn gwella iechyd nythfeydd;
- Astudiaeth maes bach a mawr sy'n monitro iechyd gwenyn mêl;
- Astudiaethau ac asesiad rheoleiddiol sy'n cydymffurfio ag arferion labordy da (GLP) o feddyginiaethau milfeddygol ar gyfer gwenyn;
- Astudiaethau o fioleg Chwilen Fach y Cwch a'r ffordd y caiff ei rheoli;
- Asesiad Risg o Blâu ar gyfer bygythiadau egsotig i wenyn mêl yn y DU, er mwyn helpu gwaith Cynllunio wrth Gefn.