Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Diagnosis yn y Labordy

Mae tîm diagnostig labordy yr UWG/Fera yn darparu gwasanaeth diagnostig modern, cyflym ar gyfer Arolygiaeth yr UWG a gwenynwyr.

Cynhelir y profion diagnostig yn unol â'r egwyddorion a sefydlwyd gan yr Office International des Epizooties, elwir bellach yn Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd. Yn arbennig y Llawlyfr Profion Diagnostig a Brechlynnau ar gyfer Anifeiliaid Tir a dulliau a ddatblygwyd yn fewnol gan y timau diagnosteg ac ymchwil newydd yn Fera. Yr OIE yw'r sefydliad byd-eang sy'n gyfrifol am safoni profion diagnostig ar gyfer plâu a chlefydau sy'n effeithio ar anifeiliaid ac mae'n goruchwylio'r rheolau ar gyfer masnach.

Mae nifer o blâu a chlefydau yn effeithio ar wenyn mêl, gyda rhai ohonynt yn effeithio ar y mag sy'n datblygu ac eraill yn effeithio ar y gwenyn llawndwf neu'r deunydd magu ei hun Mae Clefyd Americanaidd y Gwenyn a Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn ddau glefyd bacterol gwahanol sy'n effeithio ar wenyn mêl ac mae'r ddau yn glefydau hysbysadwy o dan Orchmynion Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn 2006.

Rydym yn nodi presenoldeb pob pla a chlefyd o samplau a gyflwynir i Labordai'r UWG/Fera gan ein Harolygwyr Gwenyn Penodedig fel samplau statudol neu gan wenynwyr fel samplau gwirfoddol.

Diagnosio Clefydau Gwenyn

Mae'r dulliau o ddiagnosio Clefyd Americanaidd y Gwenyn a Chlefyd Ewropeaidd y Gwenyn yn amrywio o rai syml ond effeithiol (dadansoddi microsgopig) i ddulliau mwy soffistigedig (e.e. dulliau molecwlaidd megis PCR mewn amser real).

Gwenyn a Fewnforiwyd

Caiff gwenyn gweithgar sy'n gweini a fewnforiwyd gyda breninesau o drydydd gwledydd dynodedig, eu harchwilio'n rheolaidd hefyd i weld a oes unrhyw blâu egsotig yn bresennol. Gweler yr adran ar Fewnforion ac Allforion

Plâu Egsotig

Mae Chwilen Fach y Cwch, Aethina tumida a Tropilaelaps spp. yn hysbysadwy yn statudol. Ni chanfuwyd Tropilaelaps spp. eto yn y DU nac Ewrop ond ni chanfuwyd Chwilen Fach y Cwch yn y DU, hyd yma, a dim ond yn ne'r Eidal ar gyfandir Ewrop y'i ceir. Os caiff y naill neu'r llall o'r plâu hyn ei gyflwyno i'r DU, gallai achosi niwed economaidd mawr i'r sector gwenyna os bydd yn ymsefydlu. Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol yn cynnal rhaglen wyliadwiriaeth ar gyfer y plâu hyn ac anogir gwenynwyr yn gryf i fonitro eu cychod i weld a ydynt yn bresennol ynddynt a gwneir diagnosisau gan staff labordy'r UWG.

Pyroddilyniannodi

Mae dilyniannodi DNA yn rhan hanfodol o ymchwil Fera i sut i adnabod pathogenau, microbioleg amgylcheddol a genomeg. Mae Fera wedi buddsoddi mewn Pyroddilyniannodi, sef technoleg newydd bwerus sy'n ei alluogi i ddilyniannodi samplau yn fanylach nag erioed o'r blaen. Wrth wraidd ei gyfleuster dilyniannodi mae Pyroddyliannwr GS FLX Roche, a ategir gan galedwedd prosesu dilyniannau pwerus a thîm o dechnegwyr a fiowybodegyddion. Mae'r dechnoleg hon yn cael ei defnyddio i gefnogi'r Rhaglen Iechyd Gwenyn.