Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Adnoddau i Wenynwyr

Mae'r adran hon yn cynnwys adnoddau a fydd yn ddefnyddiol i bob gwenynwr, o'r rhai sy'n dechrau meddwl am gadw gwenyn i'r rhai sydd â blynyddoedd lawer o brofiad a hyd yn oed i'r rhai y gall eu hymwneud â gwenyn fod yn anfwriadol a heb ei gynllunio:

  • Bydd ein tudalen Ymdrin â Heidiau yn eich cyfeirio ar ffynonellau cymorth yn eich ardal.
  • Ceir cymorth ac arweiniad ar amrywiaeth eang o faterion a phynciau ymarferol yn adran Taflenni, Canllawiau a Fideos.
  • Mae'r UWG yn cyfrannu'n rheolaidd at gyhoeddiadau megis BeeCraft, newyddion Cymdeithas Gwenynwyr Prydain, newyddion Cymdeithas Gwenynwyr Cymru a'r cylchgrawn Bee Farmer, a cheir archif o'r cyfraniadau hyn ar y dudalen Erthyglau.
  • Gellir gweld ein llyfrgell o luniau, y gellir ei lawrlwytho am ddim o dan hawlfraint y Goron, yn yr Oriel Gyfryngau chwiliadwy.
  • Efallai y bydd gwenynwyr newydd neu ddarpar wenynwyr am ddarllen yr adran Newydd i Faes Gwenyna i gael cyngor ac awgrymiadau.
  • Ar gyfer gwenynwyr mwy profiadol, mae gan yr UWG brofiad helaeth o ddefnyddio'r dull magu breninesau 'queen-right', y gellir darllen amdano yn yr adran Magu Breninesau ac mae wedi cael cryn lwyddiant gan ddefnyddio'r dull hwnnw.
  • Ceir gwybodaeth am achosion byw a hanesyddol o glefydau, tueddiadau o ran clefydau a nythfeydd o gollwyd, ystadegau mewnforio ac allforio ac amrywiaeth eang o ddata eraill ar y dudalen Achosion o Glefydau yn ein hadran Clefydau a Phlâu.
  • Hyfforddi gwenynwyr sut i archwilio gwenyn i weld a ydynt wedi'u heintio â chlefyd

Hyfforddi gwenynwyr sut i archwilio gwenyn i weld a ydynt wedi'u heintio â chlefyd