Sut rydym yn defnyddio cwcis

Dim ond cwcis sy'n <b>gwbl angenrheidiol</b> i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n gywir y mae'r wefan hon yn eu defnyddio.

Please read about .getTranslation('how we use cookies').

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon.

Rydych chi wedi dewis cwcis angenrheidiol yn unig

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Gyda phwy y dylid cysylltu

Cymdeithasau Gwenynwyr

Mae cysylltu â'ch Cymdeithas Wenyna leol yn fan cychwyn da. Gall bod yn aelod o Gymdeithas Gwenynwyr leol fod yn ddefnyddiol, yn arbennig pan fyddwch yn dechrau dysgu am wenyn.

Mae llawer o gymdeithasau yn cynnal cyrsiau i ddechreuwyr. Mae'r cyrsiau hyn hefyd yn cael eu hategu gan gynlluniau mentora lle mae gwenynwyr profiadol yn cefnogi dechreuwyr drwy droeon bywyd fel gwenynwr newydd. Mae gan y rhan fwyaf o Gymdeithasau lyfrgell y gall aelodau fenthyca llyfrau ac adnoddau eraill ohoni. Gall gwefan y Gymdeithas fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth, yn ogystal â gwefannau Cymdeithasau cenedlaethol, y ceir eu cyfeiriadau ar ein tudalen dolenni defnyddiol.

Fel arfer, bydd cymdeithasau yn cynnal rhaglen o ddarlithoedd ar wahanol bynciau drwy gydol y flwyddyn lle y bydd eich Arolygydd Gwenyn lleol yn aml yn rhoi anerchiadau ar iechyd a hylendid gwenyn. Dylech fanteisio ar y cyfle i gyflwyno eich hun iddo ar ddiwedd yr anerchiad. Tybir yn aml fod pob aelod newydd o gymdeithas wenyna yn cael ei gofrestru ar BeeBase yn awtomatig ond nid felly y mae hi fel arfer.

Ni chodir tâl am archwiliadau a gynhelir gan yr UWG a bydd dod i adnabod eich Arolygydd Gwenyn lleol yn adnodd defnyddiol arall ar gyfer eich gyrfa ym maes gwenyna.

Ac yn olaf, bydd gan bob Cymdeithas gyfoeth o wybodaeth a sgiliau a gronnwyd drwy brofiad cyfunol eu haelodau, y gall aelodau mwy newydd eu lawrlwytho'n hawdd dros gwpanaid o de mewn cyfarfodydd.

Arolygwyr Gwenyn Lleol

Ar ôl i chi gael eich gwenyn, gallwch hefyd gysylltu â'ch Arolygydd Gwenyn lleol drwy fynd i'n tudalen cysylltiadau.

Awdurdodau Addysg

Mae nifer bach o golegau lleol yn cynnig cyngor a hyfforddiant ar gadw gwenyn. Dylai gwenynwyr â diddordeb ofyn i'r Cyfarwyddwr Addysg a Phenaethiaid Colegau Amaethyddol a Garddwriaethol yn eu hardal am fanylion.