Sut rydym yn defnyddio cwcis

Dim ond cwcis sy'n <b>gwbl angenrheidiol</b> i sicrhau bod y wefan yn gweithio'n gywir y mae'r wefan hon yn eu defnyddio.

Please read about .getTranslation('how we use cookies').

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon.

Rydych chi wedi dewis cwcis angenrheidiol yn unig

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Taflenni Cynghorol

Cacwn melyngoes

Noder: gallwch ofyn am gopïau print o'r taflenni hyn drwy anfon e-bost i'r Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol (NNSS) yn: [email protected]  

An asian hornet at a monitoring station

Rheoli Varroa

Rheoli Varroa: Crynodeb cynhwysfawr o'r wybodaeth ddiweddaraf am y parasit Varroa sy'n effeithio ar wenyn mêl, gan gynnwys monitro gwiddon Varroa, triniaethau ar eu cyfer a'u bioleg. 

Clefyd y Gwenyn mewn Gwenyn Mêl

Clefyd y Gwenyn mewn Gwenyn Mêl: Gwybodaeth am sut i adnabod clefyd Ewropeaidd y gwenyn a chlefyd Americanaidd y gwenyn a sut i helpu i atal y clefydau hyn rhag lledaenu. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y clefydau mag cyffredin eraill sy'n effeithio ar wenyn mêl, gan gynnwys sut i'w hadnabod, eu hatal a'u trin.

Dechrau'n Dda gyda Gwenyn

Dechrau'n Dda gyda Gwenyn: Ein canllaw hynod ddefnyddiol ar sut i ddechrau cadw gwenyn. Mae'n rhoi trosolwg o'r holl gyfarpar sydd ei angen arnoch i ddechrau cadw gwenyn a chyngor ar sut i gael a sefydlu eich nythfa gwenyn mêl gyntaf ac archwilio nythfeydd. Mae hefyd yn cynnwys llawer o ddolenni i adnoddau er mwyn eich helpu i ehangu eich profiad ym maes cadw gwenyn. 

Plâu, Clefydau ac Anhwylderau Cyffredin mewn Gwenyn Mêl Llawndwf

Plâu, Clefydau ac Anhwylderau Cyffredin mewn Gwenyn Mêl Llawndwf: Dysgwch sut i adnabod, atal a thrin y clefydau a'r anhwylderau mwyaf cyffredin mewn gwenyn mêl llawndwf. Edrychwch ar ein taflen gynghorol, ‘Plâu, clefydau ac anhwylderau cyffredin mewn gwenyn mêl llawndwf’.

Plâu Egsotig

Chwilen Fach y Cwch: Adolygiad manwl o chwilen fach y cwch gwenyn, sef pla anfrodorol sy'n effeithio ar wenyn mêl; gan gynnwys ei bioleg, llwybrau ymledu posibl i'r DU, mesurau'r UWG i gadw golwg ar y bygythiad hwn a sut i fonitro ar gyfer ei phresenoldeb mewn nythfeydd gwenyn mêl.

Tropilaelaps Gwiddonyn Parasitig Gwenyn Mêl: Adolygiad manwl o widdon Tropilaelaps, sef gwiddon parasitig goresgynnol sy'n frodorol i Asia sydd wedi cael eu lledaenu'n ddamweiniol i wledydd eraill ledled y byd. Dysgwch bopeth y mae angen i chi ei wybod am y pla goresgynnol hwn; ei fioleg, llwybrau ymledu posibl i'r DU, mesurau'r UWG i gadw golwg ar y bygythiad hwn a sut i gynnal archwiliad goruchwylio plâu egsotig o nythfeydd gwenyn mêl. 

Taflen ar Weithdrefnau Cynllunio Wrth Gefn: Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r gyfraith ynglŷn â phlâu egsotig a'r camau a gymerir gan yr UWG os amheuir bod pla egsotig yn bresennol yn y DU a sut y gall gwenynwyr barhau i gadw gwenynyddiaeth yn y DU yn ddiogel rhag bygythiadau egsotig. Saesneg yn unig.

 

The exotic pests small hive beetle and Tropilaelaps