Yn ystod y tymor heidio, fel arfer rhwng mis Ebrill a diwedd mis Gorffennaf yn y DU, gall gwenyn mêl heidio o'u nythfa wreiddiol mewn niferoedd mawr. Cyn dod o hyd i gartref parhaol newydd, mae'n bosibl y byddant yn ymgasglu mewn clwstwr mawr, sy'n cynnwys miloedd o wenyn, mewn gardd neu ar unrhyw arwyneb awyr agored arall. Gall hyn beri niwsans, yn enwedig os bydd y gwenyn wedi setlo mewn lleoliad lle y gallai aelodau o'r cyhoedd ddod yn agos atynt.
Os bydd yr haid o wenyn allan o'r ffordd ac yn annhebygol o bigo pobl, gellir ei hanwybyddu a dylai'r gwenyn symud ymlaen ymhen diwrnod neu ddau. Fodd bynnag, os bydd yr haid yn peri niwsans, anogir unigolion i gysylltu â chasglwr heidiau lleol a gofyn iddo a fyddai'n fodlon dod i gasglu'r haid. Mae gan Gymdeithas Gwenynwyr Prydain restr o gasglwyr heidiau. Mae eu manylion ar gael ar wefan y Gymdeithas: www.bbka.org.uk/find-a-local-swarm-collector.
Haid o wenyn mêl
Nythfeydd gwenyn mêl fferal
Pan fydd haid yn gadael nythfa a reolir, ei hawydd naturiol yw chwilio am gartref newydd ac ymsefydlu yno. Ar yr adeg hon, cyfeirir at y nythfa sydd wedi dianc fel nythfa fferal. Gall gwenyn mêl fferal sefydlu nythfeydd newydd yn agennau coed neu mewn adeiladau, yn aml mewn simneiau ac weithiau yn waliau adeiladau. Gall hyn beri niwsans i berchnogion tai ac, o bosibl, ddifrod i adeiladau.
Wrth ystyried difa nythfa o wenyn mêl fferal, dylech asesu'n ofalus a oes pobl wedi cael eu pigo gan wenyn o'r nythfa ac a yw lleoliad y nythfa yn peri risg i bobl. Os na fydd y nythfa yn peri risg i iechyd y cyhoedd, dylech ystyried mesurau amgen yn ofalus cyn difa'r nythfa.
Weithiau, bydd gwenyn gwyllt, megis cacwn neu wenyn unig, yn nythu mewn ceudodau mewn adeiladau; ni fyddant yn achosi unrhyw ddifrod i'r adeilad, mae'r poblogaethau yn tueddu i fod yn eithaf bach ac, fel arfer, maent yn ddof; rydym yn argymell eich bod yn gadael llonydd iddynt. Mae gan nythfeydd gwenyn gwyllt nythfeydd llawer llai o faint o gymharu â gwenyn mêl ac mae eu gweithgareddau nythu yn dod i ben yn yr hydref.
Difa neu symud nythfeydd gwenyn mêl
Ni allwn argymell cynhyrchion penodol ar gyfer difa nythfeydd gwenyn mêl, ond mae rhai bioleiddiaid ar gael. Dim ond pryfleiddiaid a gymeradwyir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) y gellir eu defnyddio. Sicrhewch y gellir defnyddio'r cynnyrch ar wenyn mêl; fel arfer mae'r wybodaeth hon i'w gweld ar gefn y label. Dylai unigolion sy'n ystyried difa nythod gwenyn mêl ddarllen Canllaw arfer gorau'r Gynghrair Rheoli Plâu ar reoli gwenyn mêl a'r canllawiau ar ddifa gwenyn mêl gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Er mwyn dod o hyd i reolwr plâu proffesiynol, ewch i wefan Cymdeithas Rheoli Plâu Prydain.
Fel arall, gall gwaredwyr gwenyn proffesiynol dynnu nythfeydd fferal byw yn ffisegol o adeiladau heb ddefnyddio plaleiddiaid. Yna, gellir adleoli'r nythfa heb niweidio'r gwenyn. Gall y gwaredwr gwenyn hefyd roi cyngor i chi ar sut i atal heidiau gwenyn mêl rhag nythu yn yr adeilad yn y dyfodol. Mae rhwydwaith Gwaredwyr Gwenyn y DU (UKBR) yn cefnogi gweithwyr proffesiynol sy'n darparu'r gwasanaeth gwaredu gwenyn mêl hwn i aelodau o'r cyhoedd sy'n ceisio cymorth gyda nythfeydd fferal sefydledig ac yn darparu ffordd i aelodau o'r cyhoedd y mae angen gwasanaeth o'r fath arnynt gysylltu â gwaredwyr gwenyn cofrestredig. Dylai Gwaredwyr Gwenyn fod wedi'u cofrestru â'r Uned Wenyn Genedlaethol a hysbysu'r Uned os byddant yn amau achos o glefyd y gwenyn.
Mae gan Gymdeithas Gwenynwyr Prydain ganllawiau defnyddiol ar waredu nythfeydd gwenyn mêl o adeiladau.