Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Gyda phwy y dylid cysylltu

Cymdeithasau Gwenynwyr

Mae cysylltu â'ch Cymdeithas Wenyna leol yn fan cychwyn da. Gall bod yn aelod o Gymdeithas Gwenynwyr leol fod yn ddefnyddiol, yn arbennig pan fyddwch yn dechrau dysgu am wenyn.

Mae llawer o gymdeithasau yn cynnal cyrsiau i ddechreuwyr. Mae'r cyrsiau hyn hefyd yn cael eu hategu gan gynlluniau mentora lle mae gwenynwyr profiadol yn cefnogi dechreuwyr drwy droeon bywyd fel gwenynwr newydd. Mae gan y rhan fwyaf o Gymdeithasau lyfrgell y gall aelodau fenthyca llyfrau ac adnoddau eraill ohoni. Gall gwefan y Gymdeithas fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth, yn ogystal â gwefannau Cymdeithasau cenedlaethol, y ceir eu cyfeiriadau ar ein tudalen dolenni defnyddiol.

Fel arfer, bydd cymdeithasau yn cynnal rhaglen o ddarlithoedd ar wahanol bynciau drwy gydol y flwyddyn lle y bydd eich Arolygydd Gwenyn lleol yn aml yn rhoi anerchiadau ar iechyd a hylendid gwenyn. Dylech fanteisio ar y cyfle i gyflwyno eich hun iddo ar ddiwedd yr anerchiad (anaml y bydd yn brathu), ac mae'n bosibl y byddwch hyd yn oed yn gallu trefnu archwiliad er mwyn i chi a'ch gwenynfa gael eich cofrestru ar BeeBase. Tybir yn aml fod pob aelod newydd o gymdeithas wenyna yn cael ei gofrestru ar BeeBase yn awtomatig ond nid felly y mae hi fel arfer.

Ni chodir tâl am archwiliadau a gynhelir gan yr UWG a bydd dod i adnabod eich Arolygydd Gwenyn lleol yn adnodd defnyddiol arall ar gyfer eich gyrfa ym maes gwenyna.

Ac yn olaf, bydd gan bob Cymdeithas gyfoeth o wybodaeth a sgiliau a gronnwyd drwy brofiad cyfunol eu haelodau, y gall aelodau mwy newydd eu lawrlwytho'n hawdd dros gwpanaid o de mewn cyfarfodydd.

Arolygwyr Gwenyn Lleol

Ar ôl i chi gael eich gwenyn, gallwch hefyd gysylltu â'ch Arolygydd Gwenyn lleol drwy fynd i'n tudalen cysylltiadau.

Awdurdodau Addysg

Mae nifer bach o golegau lleol yn cynnig cyngor a hyfforddiant ar gadw gwenyn. Dylai gwenynwyr â diddordeb ofyn i'r Cyfarwyddwr Addysg a Phenaethiaid Colegau Amaethyddol a Garddwriaethol yn eu hardal am fanylion.