Our use of Cookies

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Hide this message

Strictly necessary and non-essential cookies

By clicking accept all cookies, you agree to our use of cookies and to our cookie policy.

We use third-party cookies on this site.

You have accepted necessary cookies only

You can change your cookie settings at any time
Hide this message

Anfon samplau i'r labordy

Clefyd y Gwenyn

Os byddwch yn amau bod eich nythfeydd wedi'u heintio â Chlefyd y Gwenyn, yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â'ch Arolygydd Gwenyn Tymhorol lleol (neu'ch Arolygydd Gwenyn Rhanbarthol os na fydd eich Arolygydd Gwenyn Tymhorol ar gael). Os na all eich Arolygydd lleol ymweld â'r wenynfa yn brydlon, gallwch anfon sampl wirfoddol o ddiliau neu larfa i'n labordy drwy ddefnyddio ein Ffurflen Cyflwyno Sampl Wirfoddol (Saesneg yn unig). Gellir defnyddio'r ffurflen ar gyfer plâu egsotig a amheuir hefyd. Yn yr achos hwn, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl ar y ffurflen er mwyn i ni allu cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.

Diagnosio Clefydau mewn Gwenyn Llawndwf

Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth sgrinio ar gyfer clefydau mewn gwenyn llawndwf a oedd yn profi samplau o wenyn i weld a oeddent yn cynnwys Nosema spp., Ameba ac Acarin (gwiddon Traceol). Mewn blynyddoedd blaenorol, bu galw mawr am y gwasanaeth anstatudol hwn a oedd yn cyfiawnhau'r angen am wasanaeth masnachol. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y samplau a'r ceisiadau gan wenynwyr am brawf sgrinio ar gyfer clefydau mewn gwenyn llawndwf wedi lleihau'n sylweddol, ac anaml roedd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn. Efallai y bydd gwenynwyr sy'n awyddus i'w gwenyn gael eu profi ar gyfer clefydau anstatudol yn gallu cael cymorth o hyd gan eu cymdeithasau lleol.

Achosion o Wenwyno a Amheuir

Mae Natural England yn ymchwilio i achosion lle yr amheuir bod gwenyn mêl wedi'u gwenwyno fel rhan o'r Cynllun Ymchwiliadau Bywyd Gwyllt. Rôl yr Uned Wenyn Genedlaethol wrth archwilio'r cwch yw dileu unrhyw ffactor arall a allai fod wedi arwain at farwolaeth y nythfa megis clefyd neu gamgymeriad ar ran y gwenynwr a chasglu sampl o wenyn os na fydd sampl wedi'i chymryd eisoes. Mae angen o leiaf 200 o wenyn ar gyfer dadansoddiad gwenwyn, sef nifer y gwenyn, fwy neu lai, a fydd yn ffitio i mewn i flwch matsis ‘Cooks’ mawr. Mae rhaid pecynnu'r gwenyn hyn yn ddiogel ond nid mewn bag plastig a dylid osgoi eu gwasgu'n fflat, os oes modd.

Plâu Egsotig a Amheuir

Mae gwenynwyr yn monitro am y plâu egsotig Chwilen Fach y Cwch a gwiddonyn Tropilaelaps pan fyddant yn rhan o'n Cynllun Gwenynfeydd Sentinel. Fodd bynnag, gallwch hefyd gyflwyno sampl wirfoddol os byddwch yn credu y gallwch fod wedi dod o hyd i un o'r ddau bla hyn. Wrth anfon sampl o bla egsotig, rhowch hi yn y rhewgell dros nos cyn ei phostio a rhowch wybod i'r Uned Wenyn Genedlaethol y byddwch yn ei hanfon iddi.

Unwaith eto, fel uchod, defnyddiwch gynhwysydd cadarn addas (cardfwrdd yn hytrach na phlastig) a rhowch gymaint o fanylion â phosibl am y sampl drwy ddefnyddio'r Ffurflen Cyflwyno Sampl Wirfoddol.

Mewnforion o Drydydd Gwledydd

Am ganllawiau ar y broses o roi gwybod am freninesau wedi'u mewnforio, gan gynnwys ar gyflwyno cewyll breninesau a gwenyn gweithgar, gweler yr adran Cwestiynau Cyffredin o'n tudalen Mewnforion ac Allforion.

Costau Postio

Wrth anfon samplau i'r Uned Wenyn Genedlaethol, cofiwch fod yn rhaid i chi dalu'r costau danfon oni fydd labeli rhagdaledig wedi'u darparu. Anfonwch samplau i'r cyfeiriad canlynol: 

NBU laboratory, Lab 02G06, York Biotech Campus, Sand Hutton, York, YO41 1LZ