Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Achos Credadwy o Weld Cacynen Asia – Westfield Dwyrain Sussex

Mae Arolygydd o Uned Wenyn Genedlaethol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi ymateb i achos o weld Cacynen Asia (Vespa velutina) unigol yn Westfield, Hastings, Dwyrain Sussex ar 19 Ionawr 2024, yn dilyn adroddiad gan aelod o'r cyhoedd ar ôl iddo ei chanfod yng nghilfach draed ei gar. Er i ni chwilio'r ardal, nid ydym wedi llwyddo i ddod o hyd i sampl. Mae Timau Cacwn Asia lleol wedi'u rhybuddio ac maent yn parhau i fonitro yn yr ardal. Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol yn annog gwenynwyr a'r cyhoedd i fod ar eu gwyliadwriaeth y gwanwyn hwn ar ôl i 72 o nythod gael eu darganfod a'u dinistrio yn Lloegr yn ystod 2023.

Rhowch wybod os byddwch yn gweld Vespa velutina, gan ddefnyddio'r ap ‘Asian hornet Watch’ ar gyfer dyfeisiau Apple a dyfeisiau Android neu'r ffurflen ar-lein.

Cyfeiriwch bob ymholiad gan y cyfryngau at Swyddfa'r Wasg, Defra.