Sut rydym yn defnyddio cwcis

This site uses only cookies strictly necessary to ensure the site works correctly.

Please read about how we use cookies.

Cuddio'r neges hon

Cwcis cwbl angenrheidiol a chwcis nad ydynt yn hanfodol

Drwy glicio ar 'derbyn pob cwci' rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis a'n polisi cwcis.

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar y wefan hon

You have accepted necessary cookies only

Gallwch newid eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd
Cuddio'r neges hon

Cadarnhad cyntaf o weld Cacynen Asia yn 2024 - Ash, Caint

Ffotograff gan: G K Bradbury

Canfuwyd cacynen Asia mewn sied botiau gan aelod o Gymdeithas Arddwriaethol Ash, Caint ddydd Gwener 8 Mawrth a rhoddwyd gwybod amdani drwy ap gwylio Cacwn Asia. Casglwyd y gacynen gan arolygydd gwenyn o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar yr un diwrnod, a chafodd ei chadarnhau ar 11 Mawrth. Cafodd ei ddarganfod tua 5 milltir o nyth a gafodd ei chanfod a'i dinistrio yn 2023, ger Caergaint, Caint.

Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol yn annog gwenynwyr a'r cyhoedd i ymgyfarwyddo ag ymddangosiad cacwn Asia gan ddefnyddio ein taflen adnabod, ar ôl i 72 o nythod gael eu darganfod a'u dinistrio yn Lloegr yn ystod 2023.

Rhowch wybod os byddwch yn gweld Vespa velutina, gan ddefnyddio'r ap ‘Asian hornet Watch’ ar gyfer dyfeisiau Apple  a dyfeisiau android neu'r ffurflen ar-lein.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau gan y cyfryngau at Swyddfa'r Wasg, Defra.