17/11/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 72 o nythod cacwn Asia mewn 56 o leoliadau.
Caint
Yn dilyn gwaith monitro manwl yng Nghaint, daeth yr UWG o hyd i nyth yn Rye yr wythnos hon. Mae wedi cael ei dinistrio a'i gwaredu.
10/11/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 71 o nythod cacwn Asia mewn 55 o leoliadau.
Ni ddaethpwyd o hyd i ragor o nythod ers y diweddariad diwethaf.
Caint
Mae'r UWG wedi ehangu ei gwaith monitro manwl i barhau drwy gydol yr wythnos nesaf.
03/11/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 71 o nythod cacwn Asia mewn 55 o leoliadau.
Caint
Yn dilyn ymgyrchoedd gweithredol yn Tenterden, yr wythnos hon, llwyddodd yr UWG i ddod o hyd i nyth ac mae wedi cael ei dinistrio.
Mae'r UWG wrthi'n gwneud gwaith monitro manwl ledled swydd Caint.
27/10/2023
Daethpwyd o hyd i 70 o nythod cacwn Asia mewn 54 o leoliadau.
Ni ddaethpwyd o hyd i ragor o nythod yr wythnos hon.
Caint
Mae'r UWG yn cynnal ymgyrchoedd gweithredol yn Tenterden a Deal mewn ymateb i achosion credadwy o weld cacwn Asia.
Mae nifer o safleoedd yng Nghaint yn parhau i gael ei monitro.
20/10/2023
Caint
Daethpwyd o hyd i bedair nyth yng Nghaint yr wythnos hon. Un yn ardal Folkestone, 2 mewn lleoliadau gwahanol yn ardal West Downs ac 1 yn ardal Dofr.
Mae nifer yr adroddiadau credadwy yn parhau i ostwng ac yn aml maent yn gysylltiedig â digwyddiad y mae'r UWG eisoes yn ymwybodol ohono. Mae'r UWG yn parhau â'i gwaith gwyliadwriaeth yn ardal Caint ynghyd â'i gwaith o fonitro safleoedd nythod ar ôl iddynt gael eu dinistrio.
13/10/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 66 o nythod cacwn Asia mewn 50 o leoliadau.
Caint
Daethpwyd o hyd i nyth ger Ashford yng Nghaint ac mae wedi cael ei dinistrio.
Mae tri lleoliad arall yng Nghaint yn cael eu monitro mewn ymateb i achosion credadwy o weld cacwn Asia.
Mae nifer yr adroddiadau credadwy yn dechrau gostwng erbyn hyn ac yn aml maent yn gysylltiedig â digwyddiad y mae'r UWG eisoes yn ymwybodol ohono felly unwaith yr wythnos y byddwn yn rhoi diweddariad nawr yn hytrach na dwywaith yr wythnos.
10/10/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 65 o nythod cacwn Asia mewn 49 o leoliadau.
Caint
Daethpwyd o hyd i nyth arall yn y safle cymhleth ar arfordir Caint.
Mae ambell i leoliad arall yng Nghaint yn cael eu monitro mewn ymateb i achosion credadwy o weld cacwn Asia.
Mae nifer yr adroddiadau credadwy yn dechrau gostwng erbyn hyn ac weithiau maent yn gysylltiedig â digwyddiad y mae'r UWG eisoes yn ymwybodol ohono.
06/10/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 64 o nythod cacwn Asia mewn 49 o leoliadau.
Caint
Daethpwyd o hyd i nyth ger Dofr, Caint, ac mae wedi cael ei dinistrio.
Mae ymgyrchoedd gweithredol yn parhau ar safle cymhleth ar arfordir Caint, lle daethpwyd o hyd i nyth arall, a chafodd ei dinistrio heddiw.
Mae'r UWG wedi sefydlu ymgyrchoedd gweithredol mewn lleoliad newydd yn Folkestone, Caint.
Hefyd, mae nifer o leoliadau eraill ledled Caint yn cael eu monitro mewn ymateb i achosion credadwy o weld cacwn Asia.
03/10/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 62 o nythod cacwn Asia mewn 48 o leoliadau.
Caint
Daethpwyd o hyd i nyth ger Caergaint, a chaiff ei dinistrio yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Yn dilyn ymgyrchoedd gweithredol parhaus ar safle cymhleth ar arfordir Caint, daethpwyd o hyd i nyth arall, a bydd yn cael ei dinistrio heddiw.
Mae'r UWG hefyd yn monitro lleoliad arall mewn ymateb i achosion credadwy o weld cacwn Asia.
29/09/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 60 o nythod cacwn Asia mewn 47 o leoliadau.
Hampshire
Daethpwyd o hyd i nyth ger Southampton, a chaiff ei dinistrio yr wythnos nesaf.
Dwyrain Sussex
Daethpwyd o hyd i nyth arall yn Eastbourne, a chredir ei bod yn gysylltiedig â'r nyth flaenorol y daethpwyd o hyd iddi yn yr ardal. Mae hon wedi cael ei dinistrio.
Caint
Mae'r UWG yn monitro sawl lleoliad mewn ymateb i achosion credadwy o weld cacwn Asia.
26/09/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 58 o nythod cacwn Asia mewn 46 o leoliadau.
Caint
Daethpwyd o hyd i nyth yn ardal Deal a nyth arall ar arfordir Caint lle daethpwyd o hyd i sawl nyth yn flaenorol. Dylai'r rhain gael eu dinistrio yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Dwyrain Swydd Efrog
Daethpwyd o hyd i nyth arall yn Hull y credir ei bod yn gysylltiedig â'r nyth flaenorol y daethpwyd o hyd iddi yn Hull. Cafodd hon ei dinistrio ddoe.
Dwyrain Sussex
Daethpwyd o hyd i nyth yn Eastbourne. Dylai hon gael ei dinistrio yr wythnos hon.
22/09/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 54 o nythod cacwn Asia mewn 44 o leoliadau.
Caint
Yr wythnos hon, yn dilyn ymgyrchoedd gweithredol yn Nofr a Maidstone, llwyddodd yr UWG i ddod o hyd i nyth yn y ddau leoliad. Mae'r nyth yn Nofr wedi cael ei dinistrio a chaiff y nyth yn Maidstone ei dinistrio yr wythnos nesaf.
Gogledd Swydd Efrog
Arweiniodd ymgyrchoedd gweithredol at ddod o hyd i nyth yn Yarm ddoe, a dylai gael ei dinistrio a'i symud ymaith yr wythnos nesaf.
20/09/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 51 o nythod cacwn Asia mewn 43 o leoliadau.
Essex
Dros y penwythnos, llwyddodd yr UWG i ddod o hyd i nyth yn Southend-on-Sea a chaiff ei dinistrio yr wythnos hon.
Caint
Yr wythnos hon, ymatebodd yr UWG i achos credadwy o weld cacynen Asia yn Tenterden ac, yn dilyn ymgyrchoedd gweithredol, llwyddodd yr UWG i ddod o hyd i nyth.Daethpwyd o hyd i nyth hefyd yn ardal St Margaret's Bay. Caiff y ddwy nyth eu dinistrio yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae ymgyrchoedd gweithredol wedi cael eu sefydlu ar safle arall ger Dofr. Mae'r UWG hefyd yn monitro tri lleoliad yng Nghaint.
Gogledd Swydd Efrog
Mae safle yn Yarm yn cael ei fonitro mewn ymateb i adroddiad credadwy o weld cacwn Asia.
Dwyrain Sussex
Mae'r UWG hefyd yn monitro safle yn Eastbourne mewn ymateb i adroddiad credadwy o weld cacwn Asia.
15/09/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 48 o nythod cacwn Asia mewn 40 o leoliadau.
Essex
Mae'r UWG wrthi'n cynnal ymgyrchoedd gweithredol yn Southend-on-Sea.
Caint
Yn dilyn ymgyrchoedd gweithredol ar safleoedd newydd yng Nghaint, daethpwyd o hyd i nyth yn Folkestone ac yn Maidstone.
Llundain
Ar 13 Medi, llwyddodd yr UWG i ddod o hyd i nyth yn Hackney sydd wedi cael ei dinistrio a'i symud ymaith.
Surrey
Mae'r UWG wedi dod o hyd i ddwy nyth mewn lleoliad yn Oxted, Surrey. Caiff y ddwy nyth ei dinistrio heddiw.
Swydd Efrog
Yr wythnos hon, daeth yr UWG i ddod o hyd i nyth yn Hull. Caiff hon ei dinistrio ddechrau'r wythnos nesaf.
Delwedd o leoliadau nythod y daethpwyd o hyd iddynt yn Ne-ddwyrain Lloegr yn 2023 ar 15 Medi 2023.
11/09/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 43 o nythod cacwn Asia mewn 36 o leoliadau.
Dwyrain Sussex
Yn dilyn ymgyrchoedd gweithredol yn Hastings dros y penwythnos, llwyddodd yr UWG i ddod o hyd i nyth a chaiff ei dinistrio maes o law.
Caint
Mae'r UWG yn cynnal rhagor o ymgyrchoedd gweithredol yn ardal Folkestone.
Hampshire
Mae safle yn y New Forest wrthi'n cael ei fonitro mewn ymateb i adroddiad credadwy o weld cacynen Asia.
Hull
Mae'r UWG hefyd yn monitro safle arfordirol ger Hull mewn ymateb i adroddiad credadwy o weld cacynen Asia.
Delwedd o leoliadau nythod y daethpwyd o hyd iddynt yn 2023 ar 11 Medi 2023.
08/09/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 42 o nythod cacwn Asia mewn 35 o leoliadau.
Caint
Ers ein diweddariad diwethaf, mae'r UWG wedi dod o hyd i nyth mewn lleoliad newydd yn Whitstable. Daethpwyd o hyd i nyth yn Folkestone hefyd. Gan fod nyth wedi'i darganfod yn y lleoliad hwn eisoes, nid yw nifer y lleoliadau wedi cynyddu.
Yn dilyn adroddiadau credadwy o weld cacwn Asia, mae'r UWG yn monitro safle yn Nofr.
Surrey
Mae'r UWG wedi ymateb i adroddiadau credadwy o weld cacwn Asia yn Oxted yr wythnos hon. Heddiw, daeth o hyd i nyth a chaiff ei dinistrio.
Hampshire
Yn dilyn ymgyrchoedd gweithredol yn Southampton, llwyddodd yr UWG i ddod o hyd i ddwy nyth sydd wedi cael eu dinistrio a'u symud ymaith.
Dwyrain Sussex
Caiff ymgyrchoedd gweithredol eu sefydlu ar safle ger Hastings.
Llundain
Mae'r UWG yn monitro safle yn Hackney mewn ymateb i adroddiad credadwy o weld cacynen Asia.
06/09/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 37 o nythod cacwn Asia mewn 30 o leoliadau.
Caint
Ers ein diweddariad diwethaf, mae'r UWG wedi dod o hyd i nyth yn ardal West Downs a dwy nyth ar safleoedd ar wahân yn Nofr. Daethpwyd o hyd i nyth ychwanegol yn Rochester ac un arall yn Folkestone, lle daethpwyd o hyd i nythod yn flaenorol, felly nid ydynt wedi'u rhestr fel lleoliadau newydd.
Yn dilyn adroddiadau credadwy o weld cacwn Asia, mae'r UWG yn monitro safleoedd yn Maidstone a Whitstable.
Hampshire
Mae'r UWG hefyd wedi sefydlu ymgyrchoedd gweithredol ar safle yn Southampton.
01/09/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 32 o nythod cacwn Asia mewn 27 o leoliadau.
Caint
Ar 30 Awst, daeth yr UWG i ddod o hyd i nyth yng nghanol Folkestone ac mae wedi cael ei dinistrio.
Yn dilyn ymgyrchoedd gweithredol parhaus mewn lleoliad cymhleth ger Folkestone, daeth yr UWG o hyd i dair nyth ar y safle yr wythnos hon.
Mae'r UWG hefyd wedi sefydlu ymgyrchoedd gweithredol ar safle yn ardal West Downs a dau safle ychwanegol yn Nofr.
29/08/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 28 o nythod cacwn Asia mewn 25 o leoliadau.
Caint
Ar 26 Awst, daeth yr UWG o hyd i nyth yn Folkestone a nyth her Caergaint. Caiff y ddwy nyth eu dinistrio a'u symud ymaith yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae'r UWG hefyd wedi sefydlu ymgyrchoedd gweithredol ar safle yn Folkestone, safle yn Nofr a safle ger Ashford.
Dyfnaint
Mae lleoliad newydd yn Plymouth hefyd yn cael ei fonitro o ganlyniad i adroddiad credadwy o weld cacynen Asia.
24/08/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 26 o nythod cacwn Asia mewn 23 o leoliadau.
Ar 23 Awst, daeth yr UWG o hyd i ddwy nyth mewn trydydd lleoliad yn Maidstone, Caint, a gaiff eu dinistrio a'u symud ymaith yn ddiweddarach.
Mae'r UWG wedi sefydlu ymgyrchoedd gweithredol ar safle ger Caergaint, Caint.
22/08/2023
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 24 o nythod cacwn Asia mewn 22 o leoliadau.
Llundain
Mae'r UWG wedi ymateb i achos credadwy o weld cacynen Asia yn Thamesmead ar 20 Awst. Daethpwyd o hyd i nyth ddoe. Caiff ei dinistrio a'i symud ymaith yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Caint
Dros y penwythnos, daeth yr UWG o hyd i nyth yn Nofr, nyth yn Rochester, nyth yn St Margaret's Bay a nyth arall yn Maidstone.
Mae ymgyrchoedd gweithredol hefyd wedi cael eu sefydlu mewn trydydd lleoliad yn Maidstone.
18/08/2023 - Diweddariad
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 19 o nythod cacwn Asia mewn 17 o leoliadau.
Caint
Ar 17 Awst, daethpwyd o hyd i nyth yn Royal Tunbridge Wells.
Mae'r UWG hefyd yn cynnal ymgyrchoedd gweithredol yn Rochester. Hefyd, mae ymgyrchoedd gweithredol wedi cael eu sefydlu mewn lleoliad arall yn Maidstone.
Mae'r UWG yn monitro safle yn ardal Dofr mewn ymateb i achos credadwy o weld cacynen Asia.
15/08/2023 - Diweddariad
Hyd yma yn 2023 daethpwyd o hyd i 18 o nythod cacwn Asia mewn 16 o leoliadau.
Caint
Daethpwyd o hyd i dair nyth arall mewn lleoliadau ar wahân yn Folkestone dros y penwythnos.
Mae'r UWG hefyd yn cynnal ymgyrchoedd gweithredol mewn lleoliadau unigol yn Folkestone a Deal.
Dwyrain Sussex
Ar 14 Awst, daeth yr UWG o hyd i nyth yn Newhaven.
11/08/2023 - Diweddariad
Yn 2023, daethpwyd o hyd i 14 o nythod cacwn Asia mewn 12 o leoliadau.
Caint
Folkestone
Mae'r prif sylfaenol a'r nythod eilaidd y daethpwyd o hyd iddynt yn Folkestone wedi cael eu dinistrio.
Mae'r UWG yn cynnal ymgyrchoedd gweithredol mewn pedwar lleoliad arall yn Folkestone.
Dwyrain Sussex
Mae'r UWG yn monitro lleoliad yn Nwyrain Sussex yn dilyn achos credadwy o weld cacynen Asia.
08/08/2023 - Diweddariad
Caint
Folkestone
Daethpwyd o hyd i ddwy nyth (prif nyth a nyth eilaidd) mewn lleoliad unigol yn Folkestone dros y penwythnos. Cânt eu dinistrio yn ddiweddarach heddiw.
Hefyd, mae'r UWG yn monitro'r safle yn Hawkinge ac yn gwneud gwaith gwyliadwriaeth weithredol mewn dau safle arall yn Folkestone.
Whitstable
Daethpwyd o hyd i nyth ar 5 Awst. Mae wedi cael ei dinistrio a'i gwaredu.
Maidstone
Daethpwyd o hyd i nyth ar 5 Awst ac mae wedi cael ei dinistrio.
Deal
Ar 7 Awst, daeth yr UWG o hyd i nyth. Caiff ei dinistrio yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae ymgyrchoedd gweithredol yn parhau mewn lleoliad ar wahân yn Deal, ac mae safle arall wrthi'n cael ei monitro.
Dyfnaint
Cafodd y nyth eilaidd yn Plymouth ei dinistrio a'i symud ymaith ar 4 Awst.
Dorset
Daeth yr UWG o hyd i nyth arall yn Portland ar 4 Awst. Cafodd y ddwy nyth eu dinistrio ar 5 Awst. Mae'r gwaith gwyliadwriaeth yn parhau.
04/08/2023 - Diweddariad
Caint
Ar 3 Awst, dinistriodd yr Uned Wenyn Genedlaethol (UWG) brif nyth cacwn Asia yn Folkestone. Bydd y gwaith gwyliadwriaeth yn parhau yn yr ardal i bennu a oes ail nyth yno.
Mae'r UWG yn cynnal ymgyrchoedd gweithredol yn Hawkinge, safle arall yn Folkestone a lleoliadau unigol yn Whitstable, Maidstone, Dofr a Deal.
Cafwyd achosion credadwy eraill o weld cacwn Asia mewn lleoliadau ar wahân yn Folkestone, Dofr a Deal ac mae'r UWG yn eu monitro.
Dyfnaint
Yn ogystal â'r nyth eilaidd a gaiff ei dinistrio yn Plymouth, mae'r UWG yn monitro ail safle mewn ymateb i achos nas cadarnhawyd lle cafodd nyth cacwn Asia ei dinistrio gan berchennog tŷ.
Dorset
Mae'r UWG wedi dod o hyd i nyth yn Portland fore heddiw. Mae hefyd yn gwneud gwaith gwyliadwriaeth mewn ail leoliad ar yr ynys.
02/08/2023 - Diweddariad
Ar 28 Gorffennaf, tynnodd yr Uned Wenyn Genedlaethol (UWG) nyth cacwn Asia eilaidd yn Plymouth. Daeth yr arolygwyr o hyd i'r brif nyth ar 1 Awst a chaiff ei dinistrio yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Daeth yr UWG o hyd i brif nyth cacwn Asia yn Hawkinge ar 30 Gorffennaf a gafodd ei dinistrio a'i symud ymaith.
Ar ôl ymateb i achos credadwy o weld cacynen Asia yn Folkestone, Caint, daeth yr UWG o hyd i nyth ar 1 Awst. Bwriedir iddi gael ei dinistrio yn y diwrnodau canlynol.
Mae'r UWG hefyd yn monitro pum achos credadwy arall o weld cacwn Asia.
Hawkinge, Caint - 28/07/2023
Mae'r Uned Wenyn Genedlaethol (UWG) yn ymateb i achos credadwy o weld cacynen Asia (Vespa velutina) yn Hawkinge, y tu allan i Folkestone.
27/07/2023
Rydym wedi cael pum achos credadwy arall o weld cacynen Asia unigol yr ydym yn eu monitro gyda chymorth gan Dimau Cacwn Asia lleol.
Plymouth, Dyfnaint - Diweddariad - 27/07/2023
Daethpwyd o hyd i nyth cacwn Asia a'i thrin yn Plymouth. Disgwylir iddi gael ei symud ymaith maes o law
Dofr, Caint - Diweddariad
Daethpwyd o hyd i nyth yn ardal Dofr yng Nghaint. Cafodd ei dinistrio ar 24 Gorffennaf. Bydd yr UWG yn parhau â'i gwaith gwyliadwriaeth i sicrhau nad oes rhagor o nythod yn yr ardal.
Plymouth, Dyfnaint
Cafwyd achos credadwy o weld cacynen Asia yn Plymouth dros y penwythnos, 22-23 Gorffennaf, ac mae'r UWG yn ymchwilio iddo.
Gravesend, Caint
Ymatebodd yr Uned Wenyn Genedlaethol (UWG) i achos credadwy o weld cacwn Asia (Vespa velutina) yn Gravesend, Caint ar 20 Gorffennaf. Yn fuan ar ôl i arolygwyr yr UWG gyrraedd y safle, daethant o hyd i brif nyth fach mewn gardd breswyl gerllaw. Cafodd y nyth ei dinistrio ar yr un diwrnod. Cafodd ei symud ymaith a'i hanfon i Fera i gael cadarnhad a dadansoddiad. Bydd yr UWG yn parhau i wneud gwaith gwyliadwriaeth yn yr ardal i sicrhau bod unrhyw gacwn sy'n weddill yn cael eu dal.
Dofr, Caint - Diweddariad
Cafodd un gacynen ei dal a rhoddodd gwenynwr lleol wybod i'r UWG amdani ar 17 Gorffennaf. Casglodd Arolygydd UWG y sampl a anfonwyd at yr Asiantaeth Ymchwil i Fwyd a'r Amgylchedd a wnaeth gadarnhau mai Vespa velutina oedd y sbesimen. Cyhoeddodd Defra hysbysiad i'r wasg er mwyn codi ymwybyddiaeth a gofyn i bobl roi gwybod os byddant yn gweld y gacynen. Er y bydd nythod cacwn Asia yn llai yr adeg hon o'r flwyddyn, rydym yn dal i ofyn i bobl fod yn wyliadwrus.
Dofr, Caint
Ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf, cafodd yr Uned Wenyn Genedlaethol wybod am achos credadwy o weld cacynen Asia yng Nghaint, ger Dofr, ynghyd â ffotograffau. Daethpwyd o hyd i'r gacynen Asia mewn dŵr a siwgr yr oedd gwenynwr yn ei ddefnyddio i fwydo gwenyn. Mae'r UWG wedi casglu'r sbesimen a gaiff ei dadansoddi gan wyddonwyr. Gofynnir i wenynwyr yn yr ardal a thimau cacwn Asia gwirfoddol fod yn wyliadwrus a pharhau i fonitro ar gyfer cacwn Asia.
Dofr, Caint
Rhoddwyd gwybod i UWG ddydd Iau 22 Mehefin am brif nyth fach o gacwn Asia. Ymchwiliodd Arolygydd yr Uned Wenyn Genedlaethol i'r adroddiad a chasglodd samplau a anfonwyd i'w dadansoddi gan wyddonwyr. Mae maglau wedi'u gosod i gacwn sy'n dychwelyd i'r safle nythu, a bydd gweithgareddau dilynol yn cael eu cynnal i godi ymwybyddiaeth.
Ashford, Caint
Ddydd Iau 18 Mai, cafodd yr Uned Wenyn Genedlaethol adroddiad credadwy wedi'i frysbennu, y daethpwyd o hyd i gacynen Asia mewn gweithdy, rhyw 15 milltir o Ashford yng Nghaint. Cafodd y trychfilyn ei ddal a bydd yn cael ei ddadansoddi gan wyddonwyr. Ymlediad un gacynen oedd hwn a bydd gweithgareddau dilynol yn cael eu cynnal i godi ymwybyddiaeth o'r risg.
Caergaint, Caint
Ddydd Sul 18 Mai 2023, adnabu ffermwr gwenyn gacynen Asia a oedd wedi cael ei denu i'r nythfeydd, wrth gynnal arolygiad arferol o wenynfa ger Caergaint, Caint, a'i tharo i lawr. Mae'r UWG wedi casglu'r sbesimen a gaiff ei ddadansoddi gan wyddonwyr a chynhelir gweithgareddau dilynol i godi ymwybyddiaeth.
Ar Fferi o Poole i Cherbourg
Ddydd Iau 17 Ebrill, cafodd yr Uned Wenyn Genedlaethol wybod am achos credadwy o weld cacynen Asia ar fwrdd fferi o Poole i Cherbourg ar 10 Ebrill 2023.
Folkestone, Caint
Ddydd Iau 13 Ebrill, cafodd yr Uned Wenyn Genedlaethol wybod am achos credadwy o weld cacynen Asia yn ardal Folkestone, ynghyd â ffotograffau. Hedfanodd y gacynen i ffwrdd cyn y gellid ei dal. Mae'r manylion o'r adroddiad yn awgrymu mai ymlediad un gacynen oedd hyn. Gofynnir i wenynwyr yn yr ardal a thimau cacwn Asia gwirfoddol fod yn wyliadwrus a monitro am gacwn Asia.
Northumberland
Dydd Mercher 5 Ebrill, cafodd yr Uned Wenyn Genedlaethol adroddiad credadwy wedi'i frysbennu, y daethpwyd o hyd i gacynen Asia mewn blodfresychen mewn blwch llysiau wythnosol a ddosbarthwyd yn Northumberland, tua 20 milltir i'r gogledd o Newcastle upon Tyne. Roedd y flodfresychen wedi'i thyfu yn Ffrainc. Ymatebodd yr UWG i'r adroddiad a chasglodd arolygydd gwenyn y gacynen Asia yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i'w dadansoddi. Ymlediad un gacynen oedd hwn a bydd gweithgareddau dilynol yn cael eu cynnal i godi ymwybyddiaeth o'r risg gyda'r cynhyrchydd/dosbarthwr/gwerthwr.